Skip to content

Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial - Gradd BSc (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae ein gradd Cyfrifiadureg a Deallusrwydd Artiffisial yn cynnig llwybr strwythuredig o egwyddorion cyfrifiadura craidd i gymwysiadau uwch o ddeallusrwydd artiffisial, fydd yn eich tywys trwy daith ddysgu glir a chefnogol sy’n meithrin gwybodaeth a hyder wrth i chi symud ymlaen trwy’r rhaglen.

Ar ddechrau’r rhaglen, byddwch yn datblygu sylfaen gref mewn rhaglennu, meddwl cyfrifiadurol, systemau cyfrifiadurol, a dadansoddi data, ochr yn ochr â phrofiad ymarferol cynnar gyda deallusrwydd artiffisial gan ddefnyddio Python. Wrth i chi symud ymlaen drwy’r cwrs, byddwch yn dyfnhau ac yn ehangu eich gwybodaeth trwy astudio pynciau arbenigol, gan archwilio dylunio systemau sy’n canolbwyntio ar wrthrychau, systemau deallus, a chysyniadau AI allweddol.

Tuag at ddiwedd y cwrs, byddwch yn dod â phopeth at ei gilydd trwy ymgymryd â phrosiect datblygu mawr mewn maes sydd o ddiddordeb i chi, ac yn astudio pynciau sy’n dod i’r amlwg fel AI cynhyrchiol, Modelau Iaith Mawr, a systemau aml-asiant. Drwy gydol y rhaglen, mae pwyslais cryf ar ddysgu trwy wneud, cymwysiadau yn y byd go iawn, ac ystyriaethau moesegol a chynaliadwyedd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn cyfrifiadureg a deallusrwydd artiffisial, neu astudiaeth bellach yn y maes hwn sy’n esblygu’n gyflym.

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.

Mae’r rhaglen radd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol. Mae gan fyfyrwyr hefyd y dewis o gwblhau blwyddyn o leoliad mewn diwydiant rhwng Blwyddyn 2 a 3.

Bydd pob modiwl yn 20 credyd oni nodir yn wahanol.

Blwyddyn 1

  • Offer Dadansoddol ar gyfer AI
  • Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu
  • Meddwl Cyfrifiannol
  • Explore
  • Cyflwyniad i AI gyda Python
  • Egwyddorion Rhaglennu

Blwyddyn 2

  • Prosiect ar y Cyd
  • Cysyniadau mewn AI
  • Expand
  • Dylunio Systemau Deallus
  • Dylunio System Gwrthrych-gyfeiriadol
  • Cyfrifiadura Corfforol

Blwyddyn 3

  • Dylunio Systemau AI Uwch
  • AI mewn Systemau Aml-Asiant
  • AI Cynhyrchiol a LLM
  • Technoleg Broffesiynol, Cynaliadwy a Moesegol
  • Prosiect Datblygu (40 credyd)

Anogir dull dysgu ac addysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr trwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a grŵp. Mae hyn yn cael ei wella ymhellach gan astudiaethau achos o’r byd go iawn a sgyrsiau gwadd gan arbenigwyr yn y diwydiant, a’i gefnogi gan Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithwir.

Oherwydd natur y rhaglen, mae stiwdios ar y campws a gweithdai ymarferol yn allweddol i ddatblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol y myfyrwyr, ac mae damcaniaethol cadarn yn sail i hyn i gyd. Disgwylir i fyfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach trwy hunanastudio dan gyfarwyddyd ac amser dysgu annibynnol – yn ogystal â’r ddarpariaeth wedi’i hamserlennu – er mwyn datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect a meddalwedd wrth iddynt symud ymlaen i fyd gwaith.

Cefnogir myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol gan Dîm y Rhaglen, dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Mae pob myfyriwr hefyd yn cael Tiwtor Personol fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Mae myfyrwyr hefyd yn cael eu cefnogi gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl yr Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr presennol sydd yn eu 2il, 3ydd flwyddyn a myfyrwyr Meistr sy’n darparu cefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer Modiwlau ac mewn mannau dysgu cymdeithasol.

Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.

Prif nod y rhaglen radd hon yw datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol o gysyniadau allweddol cyfrifiadura, meddalwedd a systemau. Bydd yn arddangos effaith a phwysigrwydd ehangach meddalwedd a thechnoleg i’r gymdeithas yn ogystal â’r DU a’r economi ddigidol fyd-eang, ochr yn ochr â datblygu sgiliau meddwl cyfrifiadurol trosglwyddadwy, sgiliau dadansoddi a datrys problemau, yn ogystal ag ystod eang o sgiliau datblygu meddalwedd.

Mae Deallusrwydd Artiffisial yn faes o dwf sylweddol yn y diwydiant TG. Mae bwlch sylweddol yn y farchnad, gyda llawer o gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth â chyflog da a llwybrau gyrfa gwerth chweil ar draws pob sector i raddedigion sydd â gwybodaeth a sgiliau mewn Deallusrwydd Artiffisial. Mae swyddi ym maes Deallusrwydd Artiffisial yn cwmpasu meysydd fel Busnes a Chyllid, Roboteg, ac Ymchwil a Datblygu ar draws disgyblaethau megis Meddygaeth a Chwaraeon.

Gellir cael profiad o’r byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth trwy gwblhau lleoliad blwyddyn ryngosod dewisol / interniaeth diwydiannol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi llwyddo i gael lleoliadau ar gynlluniau sy’n gystadleuol yn genedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen radd hon yn llwyddiannus, mae yna hefyd opsiynau astudio ôl-raddedig ymhellach ar draws systemau cyfrifiadura a gwybodaeth yma ym Met Caerdydd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.

Cynigion Nodweddiadol

Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.

  • Pwyntiau tariff: 104-112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Angesh Anupam:

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Dechnolegau Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn llawn amser.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
    5 mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

Inside the entrance of Cardiff School of Technologies. Inside the entrance of Cardiff School of Technologies.

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Wedi’i dylunio gyda chyflogadwyedd mewn golwg, mae’r Ysgol Dechnolegau yn cynnig cyfleusterau modern sy’n cynnwys ystod o labordai ac offer o safon diwydiant sy’n cyfoethogi eich dysgu ymarferol.

Mae ein mannau cymdeithasol ac astudio unigryw yn darparu’r gofod perffaith i weithio, ymlacio a chysylltu, gan ganiatáu i fyfyrwyr ryngweithio ac adeiladu cymuned gryf.

01 - 04
Four students sit on a curved green sofa. One is holding a gaming controller and they are all looking in the same direction

Mae ein myfyrwyr wedi dechrau amrywiaeth o gymdeithasau y gallwch ymuno â nhw. O ddringo creigiau i gemau, Fformiwla 1 a llawer mwy, mae rhywbeth at ddant pawb!

Five young adults in matching yellow t-shirts stand in a line

Mae ein rhwydwaith o Hyfforddwyr Myfyrwyr yn dod yn fentoriaid i chi a byddant yn eich cefnogi drwy eich taith yn yr Ysgol Dechnolegau.