Skip to content

Diogelwch Cyfrifiadurol - Gradd BSc (Anrh)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae ein gradd mewn Diogelwch Cyfrifiadurol (a elwir yn aml yn Diogelwch Seiber) yn archwilio’r technolegau a’r arferion sydd wedi’u cynllunio i ddiogelu rhwydweithiau, cyfrifiaduron a data rhag ymosodiad neu fynediad heb awdurdod. Mae seiberddiogelwch yn faes sy’n tyfu ym mron pob sector diwydiant, ac mae angen i sefydliadau o bob math a maint amddiffyn eu hunain rhag hacio, ymosodiadau a thorri data. Gallwch ddisgwyl i gynnwys cwrs a arweinir gan y diwydiant eich paratoi ar gyfer hyn sy’n cwmpasu’r egwyddorion allweddol sy’n sail i Ddiogelwch Cyfrifiadurol; diogelwch ymosodol, diogelwch amddiffynnol a llywodraethu diogelwch gwybodaeth.

Trwy ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai technegol ac astudiaethau achos byd go iawn, byddwch yn dysgu sut mae ymosodiadau’n gweithio, y bygythiadau a’r gwendidau tebygol, a’r dulliau a ddefnyddir gan ymosodwyr. Bydd ein labordy seiberddiogelwch Cisco newydd a’r holl offer priodol, yn eich helpu i roi theori ar waith gyda phecynnau cymorth safonol y diwydiant. Byddwch yn dysgu sut i gynnal profion hacio a dadansoddiad bregusrwydd mewn sefydliadau busnes i ddatblygu systemau diogel.

Byddwch yn cael y cyfle i ymuno â chymdeithasau dan arweiniad myfyrwyr fel Capture the Flag (CTF) a Merched mewn Seiberddiogelwch (WiCyS) lle mae cystadlaethau, cefnogaeth a rhannu cyfleoedd perthnasol yn cael eu hyrwyddo.

Y cwrs hwn oedd y radd baglor gyntaf yng Nghymru i dderbyn ardystiad dros dro gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Mae Met Caerdydd hefyd yn Bartner Academaidd i’r Sefydliad Siartredig Diogelwch Gwybodaeth (CIISec) ac yn academi a gymeradwyir gan CREST.

Wedi'i hachredu gan

National Cyber Security Centre Logo

Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol

01 - 04

Partneriaid

Crest Logo

Partner Academaidd

CREST

Chartered Institute of Information Security Logo

Partner Academaidd

Sefydliad Siartredig Diogelwch Gwybodaeth

Cyber First Logo

Mewn partneriaeth â

Cyber First

01 - 04

Cymdeithas Myfyrwyr

Women in Cyber Security Cardiff Metropolitan University Student Chapter Logo
01 - 04

​Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.

Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.

Gradd

Mae’r rhaglen radd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol, gydag ystod o opsiynau yn y flwyddyn olaf i ddatblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.

Mae gan fyfyrwyr hefyd yr opsiwn i gwblhau lleoliad blwyddyn o hyd mewn diwydiant rhwng Blwyddyn 2 a 3.

Mae pob modiwl yn 20 credyd, oni nodir yn wahanol.

 

Blwyddyn 1:

  • Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu
  • Egwyddorion Rhaglennu
  • Bygythiadau ac Ymosodiadau
  • Gwybodaeth, Risg a’r Gyfraith
  • Dylunio Gwe a Chronfeydd Data
  • Explore

 

Blwyddyn 2:

  • Cyfrifiadura Corfforol
  • Systemau a Chynhyrchion Diogel
  • Pensaernïaeth a Gweithrediadau Seiberddiogelwch
  • Diogelwch Meddalwedd
  • Expand
  • Rhwydweithiau a Diogelwch

 

Blwyddyn 3:

  • Rheoli Seiberddiogelwch
  • Seiberddiogelwch a Chrypograffeg
  • Hacio Moesegol
  • Prosiect Datblygu (40 credyd)

Modiwlau dewisol (dewiswch un):

  • Profiad Gwaith Diwydiannol
  • Offer a Thechnegau Lefel Isel ar gyfer Seiberddiogelwch
  • Technolegau Newydd ym maes Seiberddiogelwch
  • Fforensig

 

NODYN: Mae modiwlau dewisol yn dibynnu ar argaeledd a galw; felly, ni all pob modiwl dewisol redeg ar un Flwyddyn Academaidd.

Anogir dull myfyriwr-ganolog o ddysgu ac addysgu drwy ddefnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, megis labordai technegol a phrosiectau unigol a phrosiectau grŵp. Bydd astudiaethau achos go iawn ac anerchiadau gan westeion a fydd yn arbenigwyr o fyd busnes, ac â chefnogaeth Teams a Moodle, ein hamgylcheddau dysgu rhithiol, yn ychwanegu at hyn.

Oherwydd natur y rhaglen, bydd gweithdai ymarferol ar y campws ac ar-lein yn allweddol er mwyn datblygu dealltwriaeth a galluoedd technegol myfyrwyr, â sylfeini damcaniaethol sicr yn greiddiol iddyn nhw. Bydd disgwyl i’r myfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ymhellach drwy hunan-astudio cyfeiriedig ac amser ar gyfer dysgu annibynnol – yn ogystal â chyflawni’r gwaith ar yr amserlen – i gael datblygu portffolio proffesiynol o waith prosiect ac arteffactau meddalwedd wrth iddyn nhw symud i swyddi yn raddedigion.

Bydd Tîm y Rhaglen yn cefnogi’r myfyrwyr yn academaidd ac yn fugeiliol, o dan arweiniad Cyfarwyddwr y Rhaglen. Bydd Tiwtor Personol o fewn yr Ysgol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr hefyd a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer materion academaidd a bugeiliol cyffredinol. Cefnogir myfyrwyr hefyd gan Hyfforddwyr Myfyrwyr; mae rôl Hyfforddwr Myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr cyfredol 2il, 3edd flwyddyn a Meistr sy’n darparu cefnogaeth cymheiriaid mewn Modiwlau.

Bydd y strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio i sicrhau’r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a phwnc penodol. Caiff modiwlau eu hasesu drwy gyfuniad o ddulliau, megis arholiadau ffurfiol, aseiniadau rhaglennu ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid ac astudiaethau achos.

Daw newyddion am y “seiber-ymosodiad” diweddaraf bron bob wythnos ond, er hyn, prin iawn, iawn yw’r bobl sydd â’r sgiliau priodol i gael delio â’r broblem. Mae hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar allu sefydliadau i atal yr ymosodiadau neu i ddelio â nhw. Bydd chwilio’n gyflym am “brinder sgiliau seiberddiogelwch” yn dangos i chi mor ddifrifol yw’r broblem – mewn adroddiad yn yr Independent, dim ond 31.6% o’r swyddi seiberddiogelwch gofynnol sydd wedi’u llenwi.

Gyda’r galw am raddedigion medrus yn cynyddu, bydd cwrs Diogelwch Cyfrifiadurol Met Caerdydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa heriol a buddiol mewn rôl flaengar yn amddiffyn busnes a seilwaith cenedlaethol y DU. Mae’n bosib cael profiad o’r byd go iawn yn rhan o’ch astudio drwy gwblhau lleoliad blwyddyn rhyngosod / interniaeth ddiwydiannol (opsiynol). Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, llwyddodd ein myfyrwyr i sicrhau lleoliadau mewn cynlluniau cystadleuol cenedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.

Wedi cwblhau’r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd rhagor o opsiynau ar gael i astudio ar gyrsiau ôl-raddedig a addysgir ar draws cyfrifiadura a systemau gwybodaeth yma ym Met Caerdydd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu symud ymlaen i Flwyddyn 1 ar ôl cwblhau’n llwyddiannus.​

  • Pwyntiau tariff: 104-112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod. Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.

Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Dr Vibhushinie Bentotahewa.

  • Cod UCAS

    G100 (gradd 3 blynedd), G10F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Dechnolegau Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn llawn amser.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
    4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
    5 mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.

Rows of desks with computer screens and desk chairs. Rows of desks with computer screens and desk chairs.

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Labordy Diogelwch Cyfrifiadurol

Mae ein labordy seiberddiogelwch Cisco cyflawn yn cefnogi rhwydweithio safonol y diwydiant, profion hacio, profion diogelwch, a datblygu sgiliau IoT.

01 - 04
Inside the entrance of Cardiff School of Technologies. Inside the entrance of Cardiff School of Technologies.

Archwiliwch Ein Cyfleusterau

Wedi’i dylunio gyda chyflogadwyedd mewn golwg, mae’r Ysgol Dechnolegau yn cynnig cyfleusterau modern sy’n cynnwys ystod o labordai ac offer o safon diwydiant sy’n cyfoethogi eich dysgu ymarferol.

Mae ein mannau cymdeithasol ac astudio unigryw yn darparu’r gofod perffaith i weithio, ymlacio a chysylltu, gan ganiatáu i fyfyrwyr ryngweithio ac adeiladu cymuned gryf.

01 - 04
A person assembles electronics in front of a laptop computer. A person assembles electronics in front of a laptop computer.

Astudio Diogelwch Cyfrifiadurol

Cyfleoedd Profiad yn y Diwydiant

Cyfleoedd i gysylltu ag arbenigwyr yn y diwydiant drwy sgyrsiau gwadd a digwyddiadau rhwydweithio, ac i fanteisio ar gefnogaeth helaeth gan ein tîm gyrfaoedd – gyda’r opsiwn o leoliad blwyddyn o hyd yn y diwydiant. Mae ein myfyrwyr wedi cael lleoliadau gyda sefydliadau blaenllaw fel McLaren, HMRC, Lloyds Bank, Thales a mwy.

01 - 04
A person sits on a couch with a laptop computer resting on their knee. A person sits on a couch with a laptop computer resting on their knee.

Astudio Diogelwch Cyfrifiadurol

Cysylltiadau â’r Diwydiant

Wedi’i gefnogi gan bartneriaid allweddol yn y diwydiant a phroffesiynol, gan gynnwys CIISec, CREST, a Cyber First, ac wedi’i achredu dros dro gan yr NCSC i gyd-fynd â safonau’r diwydiant a gwella cyflogadwyedd. Mae cydweithrediadau â sefydliadau fel Canolfan Seiber Gydnerth Cymru (WCRC), Thales (NDEC), Airbus, a Charmwood Risk Management hefyd yn darparu cyfleoedd rhwydweithio cryf.

01 - 04
A person plugs cables into computer network equipment. A person plugs cables into computer network equipment.

Astudio Diogelwch Cyfrifiadurol

Hyfforddiant Seiberddiogelwch Ymarferol

Mae modiwlau wedi’u hintegreiddio â chynnwys ardystio proffesiynol fel Cisco Networking (CCNA), Hacio Moesegol Ardystiedig (CEH) yn ogystal â hyfforddiant ar gyfer Archwilio Mewnol ISO27001. Bydd gennych fynediad i labordai arbenigol ar gyfer sgiliau ymarferol mewn profion hacio, dadansoddi bregusrwydd, a datblygu systemau diogel.

01 - 04