Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Datblygu arferion a dulliau gweithredu a all gael effaith amgylcheddol gadarnhaol trwy ddylunio ac adeiladu adeiladau.
Dewch i gychwyn ar daith drawsnewidiol gyda'n rhaglen Dylunio a Thechnoleg Bensaernïol - gradd achrededig broffesiynol a fydd yn eich helpu i ddarganfod y ffordd gymhleth y mae adeiladau'n gweithio ac yn eich arfogi â'r technegau a'r sgiliau sy'n hanfodol i'w hadeiladu.
Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan Sefydliad Siartredig Technolegwyr Pensaernïol (CIAT) sydd, fel y corff cymhwyso ar gyfer Technoleg Bensaernïol, yn galluogi graddedigion i weithio tuag at ddod yn aelod siartredig llawn (MCIAT). Mae'r cwrs hefyd wedi'i achredu gan Gymdeithas Siartredig y Peirianwyr Adeiladu (CABE), sy'n caniatáu i raddedigion ddod yn aelodau siartredig o'r sefydliad hwn yn dilyn cyfnod cymhwyso addas ar ôl graddio.
Byddwch yn astudio cwricwlwm rhyngddisgyblaethol wedi'i gyfoethogi gan ddarlithoedd cyffrous, seminarau sy'n ysgogi'r meddwl, gweithdai ymarferol, ac amser stiwdio pwrpasol. Byddwch yn meithrin eich meddwl yn greadigol, eich sgiliau dadansoddi, ac ysbryd cydweithredu.
Wrth i chi symud ymlaen trwy'ch astudiaethau, byddwch yn dod yn ymwybodol o sut mae technoleg bensaernïol yn effeithio ar y byd o'n cwmpas, yn lleol ac yn fyd-eang a sut y gall eich arferion a'ch dulliau gael effaith amgylcheddol gadarnhaol.
Bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y byd go iawn, gan gynnwys gwaith gyda chymunedau a chyflogwyr lleol, yn ogystal â chyfleoedd i brofi diwylliannau eraill trwy gyfleoedd i astudio dramor.
Wedi’i hachredu gan
Drwy ddarlithoedd, seminarau, ymarferion ac amser yn ein stiwdios dynodedig, byddwch yn dysgu i feddwl yn greadigol ac yn ddadansoddol. Byddwch yn astudio pynciau craidd gan gynnwys technoleg bensaernïol, deunyddiau adeiladu a gwyddoniaeth bensaernïol ac yn dod yn fedrus ym Modelu Gwybodaeth Adeiladu a Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur.
Byddwch yn datblygu sgiliau cyflwyno cryf hefyd ac yn ymdrin ag amrywiaeth o gymwyseddau allweddol ar hyd eich cwrs, gan gynnwys:
- lluniadu pensaernïol a sgiliau cyflwyno
- dylunio adeiladau, dehongli briffiau a boddhau anghenion cleientiaid
- technoleg adeiladu – sut caiff adeiladau eu strwythuro a’u hadeiladu
- deunyddiau a gorffeniadau adeiladu
- y gyfraith a’r rheoliadau sy’n ymwneud â dylunio adeiladau
- ysgrifennu manylebau
- manylion pensaernïol
- cadwraeth ac ailwampio adeiladau
- gwyddoniaeth bensaernïol – gwresogi, oeri, awyru ac ati
- arloesedd a chynaliadwyedd
- ymarfer proffesiynol, gwaith ymarfer pensaernïol
Bydd paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol yn flaenoriaeth. Bydd strwythur y cwrs yn rhoi cyfle gwych i astudio ar gyfer gradd ryngosod bedair blynedd. Byddwch yn treulio eich trydedd flwyddyn yn magu profiad dwys o’r diwydiant drwy fod ar leoliad gyda phractis pensaernïol. Bydd cyfleoedd hefyd i astudio dramor, i gydweithredu ar waith ymchwil ac i gael profiad yn y byd go iawn – a’r cyfan wedi’i gynllunio i’ch paratoi ar gyfer eich cam nesaf wedi graddio.
Mae’r cwrs wedi’i achredu gan CIAT (Sefydliad Siartredig Technolegwyr Pensaernïol) a CABE (Cymdeithas Siartredig Peirianwyr Adeiladu) a fydd yn galluogi graddedigion i ddod yn aelodau siartredig llawn yn y proffesiwn amrywiol a chyffrous hwn.
Blwyddyn Un
Pwnc: Technoleg Bensaernïol 1 – 40 credyd
Pwnc: Technoleg Bensaernïol 2 – 20 credyd
Bydd eich tymor cyntaf yn eich cyflwyno i fyd technoleg bensaernïol, gan roi mewnwelediad i rôl fythol-newid ymarferydd yn y maes hwn. Mewn cyfres o ddarlithoedd ac ymarferion, byddwch yn archwilio i waith dylunio, adeiladu a gwasanaethu adeiladau domestig codiad isel. A byddwch yn datblygu’ch sgiliau mewn dylunio drwy gymorth cyfrifiadur a gwneud modelau yn rhithiol ac yn ffisegol.
Hanfodion Ymchwil - 20 credyd*
Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau ymchwil academaidd craidd myfyrwyr gan gynnwys dod o hyd i ffynonellau, gwerthuso hygrededd, a dadansoddi gwybodaeth. Bydd yn darparu'r sylfeini a fydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin eu hyder i gymryd rhan mewn disgwrs damcaniaethol a deialogau sy'n seiliedig ar syniadau a fydd yn ofynnol trwy gydol eu hastudiaethau israddedig.
Dealltwriaeth Ryngddisgyblaethol - 40 credyd
Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i egwyddorion gweithio Rhyngddisgyblaethol: gweithio ar y cyd, meddwl a myfyrio'n feirniadol. Bydd prosiectau o fewn y modiwl yn eich herio i weithio gyda disgyblaeth arall i archwilio thema neu her gymdeithasol a diwylliannol.
Blwyddyn Dau
Pwnc: Archwilio Technoleg Bensaernïol - 40 credyd
Byddwch yn gwella eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymarfer drwy ddarlithoedd ac ymarferion a fydd yn ymdrin â dylunio, adeiladu a gwasanaethu adeiladau ffrâm sydd â nifer ganolig o loriau. Byddwch yn parhau i ychwanegu at eich datblygiad proffesiynol ynghyd â’ch sgiliau cyflwyno a lluniadu technegol.
Gwyddor Bensaernïol - 40 credyd
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar wyddor technoleg bensaernïol. Byddwch yn archwilio gwasanaethu adeiladau, tân, draenio a rheolaethau amgylcheddol. A byddwch yn cymhwyso ac yn arddangos eich gwybodaeth trwy weithgareddau dysgu a phrosiectau stiwdio.
Cyd-destunau Byd Go Iawn - 20 credyd
Mae'r modiwl Cyd-destunau Byd Go Iawn yn eich herio i gymhwyso'r ymwybyddiaeth leol a'r sgiliau meddwl am y dyfodol i ddefnyddio'ch ymarfer eich hun wrth greu neu hyrwyddo gwerth ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid a chymunedau allanol.
Cynnig Ymchwil - 20 credyd*
Mae'r Cynnig Ymchwil yn cynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau ymchwil, atgyfnerthu eich profiad ymchwil a chyfeirio eich cyfraniad lefel 6 o amgylch ymholiad o'ch dewis sydd wedi'i ysbrydoli gan eich dysgu ar draws yr holl fodiwlau ar lefel 4 a 5. Defnyddir y cynnig ymchwil hwn i barhau â'ch datblygiad personol a phroffesiynol ar lefel 6 lle byddwch yn nodi llwybr ar gyfer eich ymholiad eich hun.
Blwyddyn Tri
Pwnc: Y Gweithiwr Technoleg Bensaernïol Proffesiynol – 40 credyd
Dyma’r cyfle i chi gael cynllunio’n weithredol a dechrau eich gyrfa – p’un ai y byddwch yn dod yn weithiwr proffesiynol neu’n symud ymlaen ymhellach yn eich astudiaethau. Byddwch yn magu mewnwelediad dwysach i rôl technolegydd pensaernïol proffesiynol ac yn parhau i weithio’n fwy annibynnol.
Profiad Ymarferol - 20 credyd
Nod y modiwl yw cefnogi eich parodrwydd i ddatblygu eich gyrfa broffesiynol unigryw. Bydd yn ymgorffori priodoleddau sy'n adlewyrchu gofynion ymarfer yn y byd go iawn sy'n cyd-fynd â'ch disgyblaeth arbenigol.
Cewch gyfle i fyfyrio ar sut mae eich profiadau dros y 3 blynedd diwethaf wedi caniatáu ichi ddatblygu'n weithiwr proffesiynol wrth baratoi ar gyfer gwaith lefel graddedig, astudio parhaus, ymchwil, a mentrau entrepreneuraidd.
Cyfraniad - 40 credyd*
Mae eich ymarfer yn seiliedig ar eich gwybodaeth. Cewch gyfleu i arddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad ymchwil terfynol, lle byddwch yn archwilio syniadau ar ffurf ysgrifenedig ac ymarferol.
*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
Dewis cwrs rhyngosod
Bydd yn bosib strwythuro’r cwrs hefyd ar ffurf gradd ryngosod. Rhwng blynyddoedd 2 a 3, gallwch weithio am flwyddyn mewn practis pensaernïol neu bractis adeiladu tebyg a fydd yn canolbwyntio ar ddylunio. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu ymhellach y sgiliau a gafodd eu hennill ym mlynyddoedd 1 a 2 ac i fagu profiad gwerthfawr mewn amgylchedd byd go iawn. O ganlyniad bydd eich CV a’ch cyflogadwyedd yn gwella’n fawr.
Mae pob rhaglen israddedig yn yr Ysgol Gelf a Dylunio yn cael ei haddysgu o fewn amgylchedd dysgu rhyngddisgyblaethol.
Mae ein cwricwlwm sy’n arwain y sector wedi’i gynllunio mewn perthynas â llenyddiaeth gyfredol ac arferion gorau ledled y DU ac Ewrop, gan ddarparu cyfleoedd dysgu dilys i fyfyrwyr gyda ffocws ar sefyllfaoedd bywyd go iawn a datrys problemau byd go iawn. Mae ein graddedigion yn barod ar gyfer, ac yn addasadwy i, weithio a byw yn yr 21ain ganrif, wedi’u gyrru gan greadigrwydd, cyfrifoldeb cymdeithasol, llythrennedd y dyfodol a meddwl ac ymddygiadau entrepreneuraidd. Gallwch ddarllen mwy am ein cwricwlwm israddedig yma.
Dysgu yn y Stiwdio
Cyflwynir pob rhaglen drwy ddull dysgu yn y stiwdio, gydag amgylchedd dilys sy’n annog cydweithio, archwilio annibynnol, a phrofiad dysgu a rennir. Mae gofodau stiwdio wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion penodol eich disgyblaeth, gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu megis seminarau grŵp, beirniadaethau, cyflwyniadau, tiwtorialau un-i-un, gweithdai technegol, ac astudiaeth annibynnol dan arweiniad. Mae’r amgylchedd hwn yn cefnogi datblygiad dysgu dan arweiniad myfyrwyr, lle gallwch lunio ffocws ac arbenigedd eich ymchwil, gan weithio’n annibynnol gyda chanllawiau gan staff academaidd a thechnegol arbenigol.
Gweithdai Ymarferol
Byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau stiwdio a gweithdai ymarferol, gan feithrin sgiliau craidd mewn deunyddiau a phrosesau sy’n berthnasol i’ch disgyblaeth. Mae darlithoedd yn darparu fframwaith damcaniaethol sy’n ategu eich ymarfer stiwdio, tra bod seminarau grŵp llai yn cynnig cefnogaeth wedi’i thargedu ar gyfer twf ymarferol. Mae prosiectau grŵp cydweithredol yn creu cyfleoedd i feithrin cysylltiadau a datblygu sgiliau gwaith tîm a all ymestyn i brosiectau allgyrsiol neu bersonol. Mae beirniadaethau rheolaidd (beirniadaethau stiwdio), sesiynau briffio a chyflwyniadau wedi’u cynllunio i ddatblygu meddwl yn feirniadol, cyfathrebu effeithiol a meithrin hyder i gyflwyno gwaith yn weledol ac ar lafar.
Dysgu yn Seiliedig ar Brosiectau
Nod strategaethau dysgu yw datblygu cymwyseddau proffesiynol wrth hyrwyddo meddwl yn feirniadol a chreadigol. Rhoddir ffocws cryf ar ddysgu sy’n seiliedig ar brosiectau a dysgu sy’n seiliedig ar broblemau, lle byddwch yn mynd i’r afael â phrosiectau sy’n amrywio o ran cwmpas: o friffiau penodol i brosiectau byw dan arweiniad myfyrwyr a phrosiectau byd go iawn. Mae pob prosiect yn eich herio i ddadansoddi problemau, cynnal ymchwil, gwneud penderfyniadau, a datblygu atebion technegol a chreadigol. Bydd gan brosiectau amcanion diffiniedig, ond fe’ch anogir i ddatblygu dehongliad unigol.
Hunanfyfyrio
Cefnogir myfyrwyr ymhellach trwy Gynllun Datblygu Personol (CDP) strwythuredig, sy’n annog hunanfyfyrio a datblygiad proffesiynol. Mae’r ddogfen hon yn gwasanaethu fel cofnod o ddatblygiad a phortffolio, gan dynnu sylw at eich corff o waith sy’n esblygu. Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn cael eich cyflwyno i senarios byd go iawn, gan gydweithio’n aml â gweithwyr proffesiynol allanol yn y diwydiant, siaradwyr gwadd, neu ar leoliadau, gan roi amlygiad gwerthfawr i chi i safonau ac arferion y diwydiant.
Adnoddau Rhithiol
Mae cymorth ychwanegol ar gael trwy diwtoriaid academaidd personol, sy’n rhoi arweiniad ar faterion academaidd a’ch taith drwy’r radd, gan gyfrannu at lesiant myfyrwyr a’ch helpu i ddod o hyd i lwybr proffesiynol o fewn y rhaglen. Mae Amgylchedd Dysgu Rhithiol yn ategu dysgu wyneb yn wyneb trwy gynnig ystod o adnoddau, fforymau trafod ac offer hunanasesu. Mae’r platfform hwn hefyd yn galluogi asesiad ffurfiannol ac yn hwyluso cyfathrebu o fewn y rhaglen.
Mae’r dull dysgu ac addysgu integredig hwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn caffael gwybodaeth sylfaenol a sgiliau uwch, penodol i’r ddisgyblaeth. Drwy gyfuno dealltwriaeth ddamcaniaethol â chymhwysiad ymarferol, mae’r cwrs yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dysgu gydol oes gynaliadwy ac yn eu cyfarparu â’r cymwyseddau i lywio a chyfrannu at eu meysydd dewisol.
Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:
Sgiliau: Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.
Cyd-Destun: Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’u lleoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.
Syniadau: Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn eich disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol. Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.
Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.
Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.
Er y bydd eich dysgu wedi’i ddylunio i’ch datblygu yn dechnolegydd pensaernïol cytbwys, bydd eich cwricwlwm wedi’i strwythuro yn yr un modd â’ch potensial mewn golwg.
Felly bydd y pwyslais a fydd wedi’i roi ar eich etheg gwaith, yn greadigol ac yn academaidd, wedi’i baru â ffocws sylweddol ar brofiad yn y byd go iawn: o adeiladu cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau hyd at friffiau byw ac, os byddwch yn dewis, cymorth wrth i chi ffurfio eich busnes eich hunan.
Ar hyd eich amser yn yr Ysgol Gelf a Dylunio byddwch yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r tu fewn i’ch diwydiant ac yn clywed oddi wrthyn nhw, ac yn hogi eich sgiliau a’ch syniadau ar gyfer mantais fasnachol a phroffesiynol. Bydd prosiectau traws-ddisgyblaethol yn eich paratoi ar gyfer gwaith tîm yn nes ymlaen a bydd briffiau byw yn eich paratoi ar gyfer dyddiadau cau a a galwadau manylebau tynn.
Bydd graddedigion oddi ar y rhaglen mewn lle sefyllfa dda i ymuno â phractis pensaernïol yn gweithio’n dechnolegwyr pensaernïol. Cewch eich annog i barhau â’ch datblygiad proffesiynol drwy ddod yn aelod siartredig o CIAT (Sefydliad Siartredig Technolegwyr Pensaernïol) a/neu CABE (Cymdeithas Siartredig Peirianwyr Adeiladu).
Cynigion Nodweddiadol
- Pwyntiau tariff: 96-120
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
- Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Beth sydd wedi’i gynnwys?
Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleusterau arbenigol ar gyfer ein rhaglenni creadigol, gyda stiwdios pwrpasol, gweithdai pwrpasol, ac offer technegol helaeth. Byddwch yn cael mynediad i’r gweithdai hyn yn dilyn sesiynau sefydlu llwyddiannus, a chewch eich cefnogi gan dîm technegol medrus iawn.
Ni chodir ffi stiwdio arnoch a chewch yr holl ddeunyddiau hanfodol sydd eu hangen arnoch i ddysgu’r prosesau y mae eich cwrs yn gofyn amdanynt.
Mae Met Caerdydd yn Gampws Creadigol Adobe®, ac mae gan fyfyrwyr YGDC fynediad i’r Adobe® Creative Cloud llawn heb unrhyw gost ychwanegol.
Rydym yn ymfalchïo yn arwain y ffordd mewn arferion stiwdio a gweithdy cynaliadwy. Boed hynny’n llythrennedd carbon, ailddefnyddio, lleihau gwastraff a gwyddor deunyddiau, byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio deunyddiau’n ymwybodol wrth i chi ddatblygu ffordd eich hun o weithio. Bydd y canlynol hefyd yn rhan ohono:
- Stiwdios pwrpasol ar gyfer gwaith annibynnol neu astudiaeth grŵp
- Teithiau astudio yn y DU sy’n ganolog i’ch profiad dysgu
- Cyfleusterau digidol creadigol wedi’u teilwra i’ch cwrs, fel meddalwedd benodol, cyfleusterau argraffu neu offer delweddu digidol
- Cyfleusterau TG a llyfrgell, sy’n cynnwys ystod eang o lyfrau artistiaid, cyhoeddiadau, cyfnodolion, cylchgronau ac adnoddau digidol i gefnogi eich dysgu a’ch ymchwil
Beth yw cost ychwanegol?
Wrth ddatblygu prosiectau unigol, byddwch yn dewis ac yn darparu eich deunyddiau eich hun, y gellir prynu llawer ohonynt am bris cost ar y campws. Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i ddeunyddiau ychwanegol yn dibynnu ar eich uchelgeisiau creadigol a’ch cyllideb, ac yn unol â’n harferion cynaliadwy a diogel.
Mae’n bosib y bydd angen offer penodol i’r cwrs arnoch, ond bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar eich ymarfer. Anfonir pecyn ymuno atoch cyn i chi ddechrau, yn cynnwys gwybodaeth fanwl am unrhyw offer a argymhellir gan gynnwys cyngor ar fanylebau gliniaduron. Rydym yn argymell nad ydych yn gwneud pryniannau mawr cyn derbyn y pecyn ymuno neu siarad ag aelod o staff.
Rhai enghreifftiau o gostau ychwanegol:
- Bydd gliniadur neu dabled yn ddefnyddiol i fyfyrwyr a bydd angen iddynt ganiatáu iddynt brynu apiau a meddalwedd
- Teithiau astudio a rhaglenni cyfnewid dewisol yn y DU neu dramor
- Lleoliadau a chostau cysylltiedig fel teithio a llety
- Mynediad dewisol i FabLab Caerdydd sy’n destun taliadau am ddefnyddio offer a deunyddiau
- Costau deunyddiau wrth ddewis defnyddio offer arbenigol yn annibynnol, fel argraffu ffabrig digidol, argraffu 3D a thorri laser
- Costau eraill fel argraffu, copïo a phrynu gwerslyfrau
Am wybodaeth gyfredol am ffioedd dysgu a chymorth ariannol a allai fod ar gael tra byddwch ym Met Caerdydd, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau rhaglen-benodol, cysylltwch â’r tiwtoriaid ar architectureenquiries@cardiffmet.ac.uk.
-
Cod UCAS
W290
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
-
Cychwyn
Derbyniadau ym mis Medi ac Ionawr ar gael. I fyfyrwyr sy’n dechrau ym mis Ionawr, mae’r flwyddyn gyntaf wedi’i chywasgu, gyda’r Ail Flwyddyn yn dechrau ym mis Medi’r un flwyddyn.
-
Hyd
3 blynedd yn llawn amser.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.
Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.