Skip to content

Gradd Sylfaen Technoleg Ddeintyddol - FdSc

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Cynigir y cwrs ar sail astudio’n rhan-amser dros dair blynedd, gan arwain at Radd Sylfaen mewn Technoleg Ddeintyddol. Cynhelir dysgu trwy brofi ymarferol yng weithle’r myfyriwr.

Mae'r trefniant hwn yn cynnig cyfle i integreiddio, dadansoddi, myfyrio ar, a chymhwyso'r gweithdrefnau technegol mae myfyrwyr yn eu profi yn y gweithle a thrwy gydol y cwrs. Mae'r modiwlau a gyflwynir yn cynnwys gweithgynhyrchu dyfeisiau deintyddol efelychiedig, prosiectau dysgu yn y gwaith sy'n ymgorffori achosion cleifion dilys, portffolios a gweithgareddau eraill. Wrth gymryd rhan mewn dysgu yn y gweithle, disgwylir i fyfyrwyr ymgysylltu â gofal i gleifion o fewn Cwmpas Ymarfer Technegydd Deintyddol.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys 12 modiwl gorfodol sydd wedi’i gynllunio i gyflawni canlyniadau ac ymddygiadau Fframwaith Ymarferydd Diogel y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar gyfer cofrestru fel Technegydd Deintyddol. Mae'r maes llafur yn ymdrin ag agweddau sylfaenol ar gynhyrchu dyfeisiau deintyddol, fel coronau, pontydd, dannedd gosod, ac offer orthodontig symudadwy. Bydd myfyrwyr yn dysgu dulliau traddodiadol a dylunio a gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiaduron. Yn ogystal, mae cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau sydd wedi'u teilwra i'w diddordebau personol neu anghenion penodol yn y gweithle y tu allan i'r cwricwlwm craidd.

Mae'r rhaglen yn cynnwys Lefelau academaidd 4 a 5, sy'n gyfanswm o 240 credyd, wedi'u rhannu dros dair blynedd (80 credyd fesul blwyddyn academaidd). Felly, cwblheir Lefel 4 erbyn diwedd semester 1 blwyddyn 2, ac mae Lefel 5 yn dechrau ar ddechrau semester 2 ym mlwyddyn 2. Mae pob modiwl yn 20 credyd. Mae'r brifysgol yn derbyn ceisiadau ym mis Medi ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau ar Lefel Academaidd 4. Dim ond ar ôl cwblhau'r holl fodiwlau yn y lefel flaenorol yn llwyddiannus y gall myfyrwyr symud ymlaen o Lefel 4 i Lefel 5.

Dyma fodiwlau'r cwrs:

Blwyddyn Un (Lefel 4).

  • Prosthodonteg Symudadwy A.
  • Yr Ymarferydd Diogel a Dysgu Seiliedig ar Waith A.
  • Prosthodonteg Sefydlog A.
  • Anatomeg a Ffisioleg Deintyddol.

Blwyddyn Dau (Lefelau 4 a 5).

  • CAD/CAM mewn Deintyddiaeth.
  • Yr Ymarferydd Diogel a Dysgu Seiliedig ar Waith B.
  • Prosthodonteg Symudadwy B.
  • Deunyddiau Deintyddol Cymhwysol.

Blwyddyn Tri (Lefel 5).

  • Orthodonteg.
  • Prosthodonteg Sefydlog B.
  • Paratoi ar gyfer Ymarfer a Dysgu Seiliedig ar Waith C.
  • Technoleg Deintyddol Gyfunol.

Mae manylion llawn pob modiwl ar gael gan gyfarwyddwr y rhaglen, y mae ei gyfeiriad e-bost isod.

 

Gall myfyrwyr llwyddiannus ddod o hyd i waith mewn labordai deintyddol masnachol, practisau deintyddol, neu labordai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Yn ogystal, gall myfyrwyr ddewis dilyn astudiaethau pellach.

Mae'r rhai sy'n cwblhau'r Radd Sylfaen mewn Gwyddoniaeth (FdSc) yn gymwys i symud ymlaen i'r rhaglen Baglor mewn Gwyddoniaeth gydag Anrhydedd (BSc Hons) amser llawn yn y brifysgol hon.

Dylai ymgeiswyr feddu ar o leiaf un cymhwyster Safon Uwch neu gymhwyster cyfatebol a bod yn gweithio fel hyfforddai mewn labordy deintyddol neu bractis deintyddol. Mae'r rhaglen hon yn hwyluso gweithwyr deintyddol proffesiynol sy'n gweithio mewn rolau hybrid o fewn eu cwmpas ymarfer, fel nyrs/technegydd deintyddol, i'w chwblhau. Fodd bynnag, os ydych chi'n bwriadu astudio wrth gyflawni rôl hybrid, mae'n bwysig trafod hyn gyda chyfarwyddwr y rhaglen cyn gwneud cais er mwyn sicrhau bod amgylchiadau eich gweithle yn addas.

Anogir myfyrwyr aeddfed neu unigolion heb gymwysterau ffurfiol sydd â phrofiad perthnasol i wneud cais; fodd bynnag, efallai y bydd angen iddynt gymryd rhan mewn proses gyfweld fwy helaeth.

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder hyd at IELTS 6.5 o leiaf yn gyffredinol, gydag o leiaf 6.0 ym mhob elfen, neu gyfwerth. Am fanylion llawn ynglŷn â sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg, ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Sut i Wneud Cais.

Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r Brifysgol drwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau gwefan Sut i Ymgeisio.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026/27 yw 31 Gorffennaf 2026.

 

Mae'r rhaglen yn cynnwys 80 credyd y flwyddyn (mae'r gost fesul 10 credyd ar gael ar ein gwefan ffioedd dysgu).

Mae dogfen estynedig 'Ffeithiau Allweddol i Ymgeiswyr' ar gael o'n tudalen gwefan Dogfennau Ategol Gorfodol, ac rydym yn argymell eich bod yn darllen hon cyn gwneud cais.

Fel rhan o'r broses ymgeisio, mae'n ofynnol i gyflogwr y myfyriwr lenwi Ffurflen Lleoliadau, sydd ar gael ar dudalen gwefan Dogfennau Ategol Gorfodol. Ar ddechrau'r rhaglen, rhaid i fyfyrwyr, mentoriaid a chyflogwyr hefyd gwblhau llif gwaith lleoliadau ychwanegol a darparu rhagor o wybodaeth a dogfennaeth. Mae'r cam hwn yn hanfodol i sicrhau bod y gweithle yn ddiogel ac wedi'i yswirio'n ddigonol. Os na chwblheir y llif gwaith hwn, gellir gwahardd y myfyriwr tan y flwyddyn ganlynol.

Rhaid i fentor gweithle cofrestredig y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC) gefnogi myfyrwyr drwy gydol y rhaglen. Dylai mentoriaid fod yn ymwybodol eu bod nhw bob amser yn gyfrifol am y myfyrwyr; gweler Canllawiau'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar gyfer y rhai sy'n cyflogi, goruchwylio neu hyfforddi myfyrwyr, hyfforddeion neu ddysgwyr.

Presenoldeb.

Mae'r rhaglen hon yn mabwysiadu model cyflwyno hyblyg. Fel arfer, nid oes angen myychu’r campws ar sail wyneb yn wyneb fwy na chwech o weithiau bob blwyddyn academaidd ar gyfer hyfforddiant ac asesu. Fodd bynnag, gall myfyrwyr ddod i Brifysgol Met Caerdydd ar adegau ychwanegol yn ystod y flwyddyn i ddefnyddio'r cyfleusterau gyda threfniant ymlaen llaw.

Yn ystod y flwyddyn academaidd, mae ymrwymiad i neilltuo o leiaf 1 diwrnod yr wythnos ar gyfer gweithgareddau hyfforddi ar-lein ac yn y gweithle, gyda diwrnodau ychwanegol yn ofynnol yn ystod cyfnodau asesu. Rhaid i fyfyrwyr gael mynediad at fideo-gynadledda gyda chyfrifiadur personol neu ddyfais symudol gyda chysylltiad band eang yn y gwaith a gartref i fynychu ar-lein yn wythnosol.

Mae'r rhaglen wedi'i datblygu i alluogi gweithwyr proffesiynol deintyddol sy'n gweithio mewn rolau hybrid, e.e., nyrs/technegydd deintyddol, i'w chwblhau.

Asesu:

Mae'r rhaglen yn asesu myfyrwyr yn barhaus trwy dasgau ysgrifenedig ac ymarferol. Nid oes arholiadau ysgrifenedig yn yr ystyr draddodiadol; yn lle hynny, mae amrywiaeth o asesiadau seiliedig ar waith, portffolios a phrofion gwybodaeth yn rhan annatod o'r rhaglen. Mae mentoriaid gweithle yn gyfrifol am oruchwylio tasgau ymarferol sy'n gysylltiedig ag asesu yn y gweithle.

Mae eich amgylchiadau gwaith yn dylanwadu ar ffactorau y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol, a all fod o fantais neu anfantais i chi yn ystod gwahanol asesiadau. Mae'r rhaglen o fudd i'r rhai sydd â phrofiad mewn rolau eraill ym maes deintyddiaeth, a dylai ymgeiswyr nad ydynt wedi gweithio mewn rôl gefnogol neu rôl arall o'r blaen ystyried gweithio fel hyfforddai am gyfnod cyn dechrau'r rhaglen.

Rhaid i fyfyrwyr gael mynediad at offer ac arbenigedd yn yr arbenigeddau technoleg ddeintyddol canlynol: Prosthodonteg Symudadwy (dannedd gosod cyflawn a rhannol, gan gynnwys dannedd gosod crom cobalt), Prosthodonteg Sefydlog (coronau a phontydd), Orthodonteg (offer symudadwy), a systemau CAD/CAM ar gyfer prosthodonteg symudadwy a sefydlog. Os na allwch gael mynediad at y rhain yn eich gweithle, rhaid i chi drefnu i ymweld â labordai gerllaw neu deithio i Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Gan fod llai o bresenoldeb wyneb yn wyneb, disgwylir i'r myfyriwr a'i fentor yn y gweithle wneud penderfyniadau a barnu'n annibynnol ar staff y brifysgol, a rhaid i fyfyrwyr llwyddiannus fod yn frwdfrydig ac yn drefnus, gyda sgiliau datrys problemau cadarn.

Gweithdrefn Ddethol:

Cynhelir y broses dethol gqychwynnol yn y gweithle gan staff a gyflogir mewn labordai neu bractisau deintyddol masnachol neu wasanaethau iechyd. Nodir y gofynion mynediad uchod.

Disgwylir i fyfyrwyr gael eu cyflogi ar gytundeb neu gontract amser llawn.

Rhaid i Labordai Deintyddol basio cyfweliad archwilio i sicrhau amgylchedd gwaith diogel i fyfyrwyr. Mae manylion llawn am y cyfweliad archwilio i'w gweld yn y Ffurflen Lleoliadau, sydd ar gael o dudalen Dogfennau Ategol Gorfodol ein gwefan. Mae cyfweliadau archwilio wedi'u hamserlennu rhwng yr 8fed a'r 12fed o Fehefin 2026, a rhwng y 10fed a'r 14eg o Awst 2026, rhwng 10:00 a 15:00.

Rhaid i'r myfyriwr a'i fentor fynychu digwyddiad hyfforddi undydd yn adran Technoleg Ddeintyddol Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ar ddydd Gwener Wythnos Groeso'r brifysgol. Gellir dod o hyd i ddyddiad yr Wythnos Groeso ar dudalen wefan dyddiadau'r tymor.

 

Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Edward Mapley:

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

  • Hyd

    3 blynedd yn rhan-amser.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.