Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Codi’r bar ar eich dyfodol a datblygu meddylfryd cyfreithiwr.
Mae ein gradd LLB yn y Gyfraith yn darparu’r wybodaeth gyfreithiol sylfaenol, a argymhellir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) a Bwrdd Safonau’r Bar (BSB), sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa yn y gyfraith ac yn eich paratoi ar gyfer y camau nesaf eich hyfforddiant cyfreithiol os oes gennych ddiddordeb bod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr.
Mae astudio’r gyfraith yn brofiad cyffrous ac ysgogol yn ddeallusol. Mae’r gyfraith yn effeithio ar bob rhan o’n bywydau beunyddiol, ac mae’r radd yn eich annog i ddatblygu dull chwilfrydig a beirniadol. Byddwch yn dysgu i feddwl yn rhesymegol, i gyfathrebu’n gryno a sut i lunio dadleuon perswadiol.
Gyda chyflogadwyedd wedi’i fewnosod trwy gydol y cwrs, ni fyddwch yn gwybod y gyfraith y tu mewn allan yn unig, byddwch yn dysgu sut i’w defnyddio’n effeithiol mewn lleoliadau ymarferol a phroffesiynol.
O’r ffug dreialon, lleoliadau gwaith ac eiriolaeth i brofiad gwaith clinig y gyfraith a chyfweld â chleientiaid, byddwn yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy ymarferol i chi ar gyfer gyrfa gyfreithiol. Bydd gennych hefyd yr opsiwn i ennill profiad byd go iawn gyda blwyddyn mewn diwydiant cyn cwblhau eich astudiaethau.
Byddwch yn gallu rhoi theori gyfreithiol i ymarfer yn ein ffug ystafell llys bwrpasol a chael eich cefnogi i wella eich sgiliau mewn cydweithredu, cyfathrebu effeithiol, ymchwil gyfreithiol, a siarad cyhoeddus.
Mae’r cwrs wedi’i addysgu o safbwynt fyd-eang, a byddwch yn dysgu pam mae’n rhaid i weithwyr proffesiynol cyfreithiol ddeall yr effaith y mae’r gyfraith yn ei chael ar hyrwyddo newid hinsawdd, cynaliadwyedd ac yn mynd i’r afael â heriau amgylcheddol er mwyn diogelu llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Byddwch yn datblygu meddylfryd cyfreithiwr sy’n barod i weithio’n effeithlon ac yn arloesol mewn amrywiaeth o yrfaoedd neu gymryd y camau nesaf o ran hyfforddiant proffesiynol i ddod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr.
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
- Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.
Mae ein gradd y Gyfraith LLB yn cynnig yr holl fodiwlau sylfaenol sydd eu hangen i fodloni’r gofynion academaidd ar gyfer symud ymlaen i hyfforddiant Bar i fod yn fargyfreithiwr yn ogystal â gwybodaeth gyfreithiol allweddol a sgiliau ymarferol sydd wedi’u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer eich Arholiadau Cymhwyster Cyfreithwyr (SQE) i fod yn gyfreithiwr ac i’r hyfforddiant proffesiynol ddod yn gyfreithiwr CILEX. Byddwch hefyd yn astudio’r modiwlau craidd arloesol canlynol sy’n seiliedig ar sgiliau:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Chwe modiwl gorfodol (120 credyd)
Modiwlau gorfodol (20 credyd yr un):
- Cyflwyniad i’r Systemau, Dulliau a Moeseg Cyfreithiol
- Cyfraith Gyfansoddiadol
- Cyfraith Contract
- Cyfraith Droseddol
- Cyfraith Weinyddol, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb
- Sgiliau Cyfreithiol a Phroffesiynol
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Pedwar modiwl gorfodol (80 credyd) a dewiswch ddau fodiwl dewisol (40 credyd)
Modiwlau gorfodol (20 credyd yr un):
- Cyfraith Camweddau
- Cyfraith Tir
- Cyflogadwyedd Cyfreithiol, Ymarfer Clinigol ar gyfer Menter a Busnesau Newydd
- Y Gyfraith ar Gynaliadwyedd, Gweithredu Hinsawdd a’r Amgylchedd
Dewiswch ddau fodiwl dewisol (20 credyd yr un):
- Cyfraith Seiber
- Cyfraith Masnachol a Diogelu Defnyddwyr
- Cyfraith Tystiolaeth ac Ymgyfreitha
Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae gennych yr opsiwn i dreulio blwyddyn mewn diwydiant ar leoliad gwaith ar ôl cwblhau eich ail flwyddyn astudio yn llwyddiannus. Mae gennym dîm lleoliad gwaith pwrpasol i’ch cefnogi i sicrhau lleoliad. Gall y profiad hwn roi hwb i’ch rhagolygon gyrfa a rhoi mantais i chi wrth wneud cais am swyddi ar ôl graddio.
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
Astudio pedwar modiwl gorfodol (80 credyd) a 40 credyd o fodiwlau dewisol.
Modiwlau gorfodol (20 credyd yr un):
- Ecciti ac Ymddiriedolaethau
- Cyfraith Ewropeaidd
- Cyfraith a Systemau Rhyngwladol a Chymharol
- Datrys Anghydfod Amgen
Modiwlau dewisol:
- Cyfraith Eiddo Deallusol (20 credyd)
- Cyfraith Teulu (20 credyd)
- Traethawd hir ac Ymchwil Cyfreithiol (40 credyd)
- Blwyddyn mewn Profiad yn y Diwydiant (40 credyd) (Dewiswch os cwblhau blwyddyn mewn diwydiant)
Dysgwch gan ein tîm addysgu sy’n weithgar ym maes ymchwil ac sydd â gwybodaeth arbenigol a phrofiad o’r diwydiant yn y sector cyfreithiol.
Byddwch yn dysgu drwy gymysgedd o ddulliau addysgu traddodiadol, gan gynnwys darlithoedd, tiwtorialau a seminarau, ochr yn ochr â dysgu profiadol gyda gweithdai ymarferol, ymarfer clinigol ymarferol, eiriolaeth a ffug dreialon yn ein hystafell ymryson bwrpasol yn Ysgol Reoli Caerdydd. Byddwch hefyd yn elwa o siaradwyr gwadd a gweithdai dan arweiniad arbenigwyr cyfreithiol.
Mae’r cyfuniad hwn o ddulliau addysgu yn sicrhau ymgysylltiad gweithredol a datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer gyrfaoedd yn y sector cyfreithiol a thu hwnt. Mae strwythur ein cwrs a’n strategaethau addysgu wedi’u cynllunio i gefnogi dysgu annibynnol wrth i chi symud ymlaen.
Byddwch yn datblygu eich sgiliau a’ch hyder mewn cyflwyno, datrys problemau a siarad cyhoeddus drwy roi theori ar waith drwy gydol y radd.
Bydd Tiwtor Academaidd Personol hefyd yn cynnig arweiniad academaidd ac yn eich cefnogi pob cam o’r ffordd.
Dewch i gwrdd â’r tîm academaidd:
- Dr Hephzibah Egede – Cyfarwyddwr Rhaglen
- Angela Joseph – Cadeirydd Maes, Y Gyfraith
- Dr Richard Lang – Uwch Ddarlithydd
- Kallie Noble – Uwch Ddarlithydd
- Dr Dimitris Xenos – Uwch Ddarlithydd
- Marc Johnson – Uwch Ddarlithydd
- Sian Turvey – Uwch Ddarlithydd
- Somtobechukwu Okpala – Darlithydd
Mae ein gradd y Gyfraith LLB yn defnyddio ystod o wahanol ddulliau asesu megis, gwaith cwrs ysgrifenedig, cyflwyniadau, adroddiadau myfyriol ac arholiadau. Yn ogystal, bydd asesiadau dilys ar leoliadau dysgu, ymarfer clinigol, ffug dreialon ac eiriolaeth.
Mae’r dull cyfunol hwn yn caniatáu ichi ddangos eich cymwyseddau mewn amrywiaeth o fformatau, gan bwysleisio sgiliau ymarferol a meddwl strategol.
Byddwch yn cael eich tywys gan ein tîm academaidd drwy gydol y broses ddysgu i’ch helpu i wella eich sgiliau a’ch dealltwriaeth drwy adborth a’ch annog i fyfyrio ar eich dysgu eich hun er mwyn dod yn ddysgwr annibynnol.
Os ydych chi’n dymuno bod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr gweithredol, mae’r radd hon yn ddelfrydol i chi. Mae ein gradd yn y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol sydd ei hangen i fodloni’r elfen academaidd hyfforddiant Bar gyda Bwrdd Safonau Bar (BSB) i fod yn fargyfreithiwr.
Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth gyfreithiol allweddol a sgiliau ymarferol sydd wedi’u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer eich Arholiadau Cymhwyster Cyfreithwyr (SQE) i ddod yn gyfreithiwr. Dysgwch fwy am hyfforddiant proffesiynol ar gyfer dod yn gyfreithwyr neu’n fargyfreithwyr ar wefannau’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) a’r Bwrdd Safonau Bar (BSB).
Bydd y radd hon hefyd yn eich helpu i ddatblygu cymwyseddau a sgiliau trosglwyddadwy i’ch paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd mewn meysydd polisi, gan gynnwys sefydliadau rhyngwladol, adrannau’r llywodraeth, y sector elusennau, a’r byd busnes.
Gyda chyflogadwyedd wedi’i integreiddio i mewn i bob agwedd ar y cwrs, byddwch yn ennill dealltwriaeth ddofn o’r gyfraith ac yn dysgu sut i’w gymhwyso’n effeithiol mewn cyd-destunau byd go iawn a phroffesiynol. Hefyd, mae opsiwn i weithio am flwyddyn mewn diwydiant cyn cwblhau eich astudiaethau.
Trwy ffug dreialon, lleoliadau gwaith, eiriolaeth, profiad clinig y gyfraith, a chyfweld cleientiaid, byddwch yn meithrin sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy i’ch paratoi ar gyfer gyrfa gyfreithiol lwyddiannus.
Rydym yn cynnal cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol y diwydiant o’r sector cyfreithiol ac rydym wedi cynnwys sgyrsiau ymarferwyr i wella’ch profiad dysgu. Mae arweinwyr y diwydiant gan gynnwys Blake Morgan a Nuffield’s Law yn cyflwyno sesiynau dosbarth meistr.
Gallwch hefyd ddatblygu eich sgiliau gwaith trwy ein Cymdeithas y Gyfraith i fyfyrwyr allgyrsiol, megis cyfweld â chleientiaid, siarad cyhoeddus, pendantrwydd, rhwydweithio a gweithio mewn tîm.
Mae tîm gyrfaoedd a chyflogadwyedd pwrpasol yn eich cefnogi ymhellach i ddod o hyd i leoliadau gwaith, interniaethau neu swyddi. Maent yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac adnoddau ar gyfer ceisiadau am swydd neu astudio.
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.
- Pwyntiau tariff: 120
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
- Lefel T: Teilyngdod.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau am y cwrs yn benodol, cysylltwch â Hephzibah Egede:
- E-bost: HEgede@cardiffmet.ac.uk
- Ffôn: 029 2041 6449

-
Cod UCAS
M100 (gradd 3 blynedd), M10F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Reoli Caerdydd
-
Hyd
3 blynedd yn llawn amser.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
5 mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.
95%
ar gyfer boddhad cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf (NSS 2024)