Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Celf a Dylunio - Meistr drwy Ymchwil (MRes)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae’r MRes (C&D), Meistr Ymchwil mewn Celf a Dylunio yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd am baratoi ar gyfer ymchwil lefel doethurol mewn Celf a Dylunio (PhD neu Ddoethuriaeth Broffesiynol) neu ar gyfer datblygu ystod o sgiliau ymchwil creadigol i wella eu hymarfer neu eu gyrfa ym maes celf a dylunio, yn genedlaethol neu yn rhyngwladol.

Mae’r rhaglen yn addas ar gyfer myfyrwyr heb fawr o brofiad neu ddim profiad o ymchwilio mewn unrhyw faes ymchwil yn ogystal â’r rhai sydd â phrofiad blaenorol o ymchwil proffesiynol a/neu academaidd mewn Celf a Dylunio neu faes perthnasol.

Cyfunir ein haddysgu drwy seminarau â chyflenwi ac asesu ar-lein. Mae hyn yn golygu y gellir astudio’r rhaglen yn hyblyg ar y campws a/neu o leoliad pellennig. Gallai myfyrwyr ddewis treulio’u hamser i gyd yn astudio ar y campws neu o leoliad o hirbell a ffeirio rhwng modiwlau yn hawdd.

Mae ymchwil creadigol yn ganolog i Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd a cheir yno ystod o ganolfannau a grwpiau yn ymwneud ag ymchwil creadigol a thrawsddisgyblaethol blaengar ac arloesol yn tynnu at y Celfyddydau, y Gwyddorau, y Dyniaethau ac Athroniaethau.

Gallwch ddewis lleoli eich prosiect ymchwil o fewn un o’r grwpiau hyn neu ddatblygu ymholiad annibynnol.

Mae’r ysgol yn annog ymchwil cydweithredol aml-ddisgyblaethol, rhyng-ddisgyblaethol a thraws-ddisgyblaethol. Rydyn ni’n cynorthwyo ein myfyrwyr i weithio gyda disgyblaethau ymchwil eraill, sectorau masnachol a chymunedol o gwmpas y byd a chanolfannau ymchwil eraill ar draws y Brifysgol ehangach.

Byddwn yn gweithio gyda chi i lunio cynnig ymchwil deniadol a dichonadwy ar gyfer ymchwil ac astudiaeth bellach. Byddwn hefyd yn eich helpu i gysylltu gydag ymchwilwyr eraill o gwmpas y byd.

Cwrs dan arweiniad prosiect ydy MRes (C&D). Mae myfyrwyr yn nodi pwnc ymchwil ac mae cwestiynau yn adeiladu ar hynny, tra’n dysgu ystod o ddulliau ymchwil a thrwy brofi eu syniadau mewn cymuned gefnogol ond cadarn o artistiaid ac ymchwilwyr.

Mae’r cwrs yn cychwyn heb unrhyw ragdybiaethau am fan cychwyn prosiectau’r myfyrwyr na sut y byddai’r prosiectau yn datblygu a cheir meddwl agored am bosibiliadau arferion ymchwil creadigol ym maes Celf a Dylunio.

Ar y cwrs byddwch yn ymgyfarwyddo a chysylltu ag arbenigedd ymchwil blaengar y byd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Mae ystod ein hymchwil yn ymestyn dros yr empirig a’r gwyddonol i’r barddonol a’r damcaniaethol, gan dynnu ar y Celfyddydau, y Gwyddorau, y Dyniaethau a’r Athroniaethau.

Rydyn ni’n annog prosiectau sy’n ceisio gweithio mewn dull aml-ddisgyblaethol, cyd-ddisgyblaethol neu draws-ddisgyblaethol gyda disgyblaethau ymchwil eraill yn ogystal â gyda sectorau masnachol a chymunedol mewn cymdeithas yn unrhyw le’n y byd ac wrth gwrs gyda chanolfannau ymchwil eraill ar draws y Brifysgol ehangach.

Mae’r rhaglen yn para dros dri semester llawn amser a thros bum semester rhan-amser. Cynhelir pob un o’r modiwlau achrededig am un semester:

  • Semester 1 (Hydref) – Tiriogaethau Ymchwil
  • Semester 2 (Gwanwyn) – Sgiliau Ymchwil
  • Semester 3 (Haf) – Canlyniadau Ymchwil neu ar gyfer (myfyrwyr llawn amser yn unig) cynigir opsiwn
  • Semester 3 (Hydref) – Canlyniadau Ymchwil

Gall myfyrwyr llawn amser ddewis cynnwys egwyl yn ystod yr haf ai peidio. Gall myfyrwyr ddefnyddio’r cyfnod hwn ar gyfer amser gyda’r teulu neu wyliau, ymchwil personol, profiad gwaith neu ddychwelyd i gyflogaeth.

Gall myfyriwr llawn amser sy’n cychwyn y rhaglen ym mis Hydref naill ai gwblhau‘r Medi canlynol (drwy parhau drwy fis Gorffennaf ac Awst, cyfnod o 12 mis) neu’r Rhagfyr canlynol (gan gymryd egwyl dros yr haf, cyfnod o 18 mis).

Rhaid i fyfyrwyr y DU/UE hysbysu’r rhaglen a’r ysgol o’u bwriad cyn cychwyn y modiwl ‘Canlyniad Ymchwil’ yn semester tri.

Rhaid i fyfyrwyr tu allan i’r DU/UE hysbysu’r Rhaglen, yr Ysgol a’r Swyddfa Ryngwladol cyn gwneud y cais cychwynnol am fisa.

Semester 1 ART7111

Mae myfyrwyr yn cychwyn drwy astudio modiwl a luniwyd i’w harwain drwy syniad ymchwil a’i diriogaeth er mwyn datblygu eu gallu i ffocysu ac hefyd i ddatblygu eu hunan-hyder gydag ymchwil celf a dylunio yn ei amryfal ddulliau.

Addysgir y modiwl hwn yn fanwl a’i oruchwylio drwy gyfres o seminarau a gynhelir yn ysbryd haelioni deallusol agored a thrafod syniadau yn drylwyr. Erbyn diwedd y modiwl, bydd gan y myfyrwyr syniad clir o’u hymchwil, ei ymarferoldeb a’u lle yn y ‘diriogaeth’ sy’n datblygu.

Semester 2

Mae myfyrwyr yn astudio modiwl arbenigol ar Sgiliau Ymchwil yn yr ail semester, a’u hymgorffori yn fwy trwyadl o fewn llwybr ymchwil.

Lluniwyd yr hyfforddiant ar sgiliau ymchwil y mae’r rhaglen MRes (C&D) yn ei gynnig gan ystyried myfyrwyr o wahanol gefndiroedd. Er ei bod yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes â phrofiad o ymchwil mewn Celf a Dylunio, efallai fel israddedigion, lluniwyd y rhaglen i gynnwys cymuned ehangach fyd-eang. Erbyn diwedd y modiwl bydd gan fyfyrwyr yr arbenigedd ymchwil i fod yn sail i’w syniadau gyda dull ymchwilio clir yn ogystal â’r sgiliau i ystyried syniadau a data.

Semester 3

Mae myfyrwyr yn cwblhau’r rhaglen drwy astudio modiwl terfynol a fydd yn eu galluogi i ddatblygu thesis ymchwil byr (ar ffurf testun i ategu corff o ymarfer a/neu destun) yn ogystal â chynnig drafft o gynnig cychwynnol cyffredinol am radd ym Met Caerdydd neu yn unrhyw brifysgol arall.

Ar ddiwedd y modiwl, bydd gan fyfyrwyr syniad clir o’u darpar ddyfodol fel graddedigion ymchwil.

Semester 1 a 2

Mae modiwl sengl di-gredyd yn cyd-redeg â’r modiwlau eraill, sy’n cynnig cyfres o seminarau ymchwil a Syniadau.

Pennir cynnwys y modiwl hwn gan weithgaredd ymchwil staff Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Bydd staff a myfyrwyr PhD/DProf yn dewis cynnal cyfres o seminarau yn seiliedig ar eu hymchwil ym maes celf a dylunio ac a fydd yn gwahodd myfyrwyr i ymholi ymhellach, ar sail deunydd damcaniaethol a hanesyddol penodol.

Gwahoddir pob siaradwr i rannu eu gwaith ymchwil am 45 munud ac yn dilyn ceir 15 munud o Holi ac Ateb ac yna trafod yn anffurfiol.

Lluniwyd y rhaglen i fod yn brofiad dysgu cyfoethog a thrylwyr i’r myfyrwyr, a’r cyfan gyda chymorth a chyfarwyddyd tiwtorialau personol.

Mae’r cwrs yn un cydweithrediadol, yn ddeallusol hael a chefnogol gyda’r nod o gynnig cyfle i’r myfyrwyr adfyfyrio’n ddeallus a pharhaus, cyfle am astudiaeth a ffocws academaidd yn ogystal â chyfle am ystyriaeth ddamcaniaethol ac ymchwil ymholgar.

Bydd y rhaglen yn cynnwys pob math o ymchwil celf a dylunio dan gyfarwyddyd a thybiannol. Fe’i lluniwyd i alluogi darpar arbenigedd ddoethurol wrth ddatblygu arbenigedd ymchwil ym maes Celf, Dylunio a Phensaernïaeth.

Yn unol â dull yr Ysgol o fynd ati i ymchwilio, ni fydd y rhaglen yn gwahaniaethu’n benodol rhwng ‘theori’ ac ‘ymarfer’ fel dulliau ymchwil ond yn hytrach bydd ei dull o ddatblygu sgiliau ymchwil yn holistaidd, eang a chynhwysol – ac eto yn y pen draw yn drylwyr – dulliau a fydd yn troi o gwmpas y ffordd orau o ateb y cwestiwn ymchwil a nodwyd.

Gall myfyrwyr sy’n astudio’r rhaglen ddilyn ymchwil penodol a llwybrau ymarfer arbrofol dan arweiniad staff academaidd sydd â gyrfaoedd sefydledig a/neu ysgolheictod ac ymchwil o’r radd uchaf.

Addysgir y rhaglen yn gyfangwbl drwy seminarau ‘bwrdd crwn’ gyda chyfarfodydd goruchwylio personol. Mae’r seminarau hyn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu cynllun ymchwil a rhaglen ddysgu personol gyda goruchwyliaeth bersonol tuag at ganlyniad ymchwil creadigol a thrylwyr.

Mae’r dysgu hwn drwy seminar wedi’i gyfuno â’r cyflenwad ar-lein yn golygu y gellir astudio’r rhaglen yn hyblyg ar y campws a/neu o leoliad o hirbell.

Gallai myfyrwyr ddewis treulio’u hamser i gyd ar y campws neu o leoliad o hirbell a ffeirio rhwng y dulliau yn hawdd.

Asesir pob modiwl a gredydir trwy ‘bortffolio’ sy’n cynnwys gwaith cwrs, gan gynnwys testun a chyflwyniad, viva voce ac ymarfer os yw’n briodol ac fel y manylir yn nisgrifiad y modiwl, y llawlyfr a’r ddogfennaeth friffio.

Mae’r asesiad portffolio yn hanfodol i asesiad lefel Gradd Meistr mewn Celf a Dylunio ac mae’n fethodoleg hirsefydlog a ddefnyddir yn helaeth yn y maes hwnnw. Mae’r asesiad portffolio yn gyfarwydd i fyfyrwyr israddedig ac fe’i defnyddiwyd ers rhai blynyddoedd yn y rhaglenni eraill yn yr Ysgol Celf a Dylunio ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Dyluniwyd yr asesiad portffolio gyda natur drawsddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol ymarfer ac ymchwil Celf a Dylunio mewn golwg. Mae ymchwil Celf a Dylunio fel arfer yn cyfuno deunydd testunol ag ymarfer creadigol mewn symiau amrywiol, yn unol â hynny mae’r asesiad portffolio yn cynnwys cyfuniad o:

  • Testun academaidd
  • Testun hapfasnachol
  • Testun dan gyfarwyddyd (h.y., Cynnig Ymchwil)
  • Ymarfer
  • Viva Voce
  • Cyflwyniad
  • Arddangosfa

Nid yw’r eitemau hyn yn cael eu hasesu fel eitemau unigol ond fe’u cymerir fel corff o waith mewn un asesiad ‘portffolio’ i gyrraedd un marc crynodol. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw myfyrio ar yr hyn y mae’n angenrheidiol iddynt ei gyflwyno yn eu portffolio er mwyn cwrdd â’r canlyniadau dysgu a sicrhau yn eu viva voce y gallant gyfleu mewnwelediad beirniadol a dyfnder gwybodaeth yn y cysylltedd a’r cydlyniad rhwng y gwahanol fathau o destun-ymarfer-cyflwyniad-arddangosfa.

Mae’r rhaglen hon yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer gyrfa mewn ymchwil greadigol, fel gweithiwr proffesiynol yn y celfyddydau sy’n ymgymryd ag unrhyw fath o ymarfer sy’n cael ei yrru gan ymchwil yn eu maes, neu i unrhyw un sy’n bwriadu mynd ymlaen i gwblhau PhD. neu DProf. Mae’r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau paratoi ar gyfer ymchwil ar lefel doethuriaeth mewn Celf a Dylunio neu i ddatblygu ystod o sgiliau ymchwil creadigol i wella eu celf neu ymarfer dylunio neu yrfa, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae’r MRes (C&D) yn gorffen gyda datblygu Cynllun Datblygu Ymchwil Personol. Bwriad hyn yw darparu tystiolaeth o Feistrolaeth myfyrwyr mewn ymchwil mewn Celf a Dylunio ynghyd â darparu dogfen a all fod yn ddefnyddiol wrth wneud cais am astudiaeth Ddoethurol yn y dyfodol mewn unrhyw brifysgol.

Fel rheol mae angen gradd anrhydedd israddedig dda (2.1 neu uwch) ar gyfer mynediad. Fodd bynnag, croesewir ymgeiswyr sydd â phrofiad neu gymwysterau proffesiynol perthnasol a chânt eu hystyried yn unigol a bydd myfyrwyr sydd â gradd israddedig wannach gyffredinol ond sydd wedi dangos rhagoriaeth yn agweddau damcaniaethol Celf a Dylunio hefyd yn cael eu hystyried.

Ymgeiswyr Rhyngwladol:

Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth eu bod yn rhugl i safon IELTS 6.5 (6.5 gwrando a 6.0 ym mhob elfen arall) neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar ein gwefan

Proses Ddethol:

Ar ôl derbyn cais myfyriwr gellir eu gwahodd yn bersonol neu gan Microsoft Teams (neu debyg) i gyfarfod byr gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen neu’r enwebai i drafod y rhaglen yn fwy manwl ac ystyried sut y bydd y rhaglen yn gweddu i’w cefndir a’u hanghenion yn y dyfodol.

Sut i Wneud Cais:

Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i’r Brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. Am wybodaeth bellach ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Cyn gwneud cais, gofynnir i fyfyrwyr UE/Rhyngwladol gysylltu â Dr Fiaz Hussain (fhussain@cardiffmet.ac.uk) i drafod y gweithdrefnau angenrheidiol mewn perthynas ag astudio gyda ni.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd o sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y tudalen RPL.

Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a’r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.

Ffioedd Rhan-amser:

Codir y taliadau fesul Modiwl Unigol oni nodir yn wahanol: Is-raddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 credyd. Yn gyffredinol, bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn ar gyfer astudiaethau Israddedig ac Ôl-raddedig; i gael gwir brisiad, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

Os ydych chi’n fyfyriwr yn y DU/UE, cysylltwch â Dr Stephen Thompson (sthompson@cardiffmet.ac.uk).

Os ydych chi’n fyfyriwr Rhyngwladol, cysylltwch â Dr Fiaz Hussain (fhussain@cardiffmet.ac.uk).

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae’r Meistr drwy Ymchwil (MRes) mewn Celf a Dylunio yn rhan o raglen MRes Prifysgol Met Caerdydd ac mae’n unigryw o fewn sector Sefydliadau Addysg Uwch (HEI) y DU. Mae’r MRes wedi’i gynllunio i ymgorffori cyfnod a addysgir (80 credyd) a chyfnod ymchwil (100 credyd) a fydd yn cefnogi ymgeiswyr o gamau cysyniadau cychwynnol a datblygu syniadau ymchwil, a dadansoddi llenyddiaeth empirig yn feirniadol, hyd at gynllunio a chwblhau prosiect ymchwil annibynnol sylweddol mewn pwnc arbenigol. Mae’r dull modiwlaidd, gydag asesiadau penodol, yn rhoi cerrig milltir clir i ymgeiswyr olrhain eu cynnydd drwy gydol y rhaglen astudio, tra bod y traethawd hir 100 credyd yn sicrhau bod mwyafrif y credyd a astudiwyd yn cael ei ddyfarnu i ymchwil annibynnol. Mae’r nodweddion hyn yn sicrhau bod y rhaglenni MRes yn rhoi mwy o ffocws ar ymchwil na rhaglenni meistr a addysgir nodweddiadol (e.e., MSc, MA), gan ddileu’r ansicrwydd sy’n deillio’n aml wrth astudio am gwrs Lefel 7 llai strwythuredig, fel yr MPhil.

Bydd ymgeiswyr yn cwblhau 80 credyd o astudio sy’n gysylltiedig ag ymchwil (y Cyfnod a Addysgir) a 100 credyd o ymchwil annibynnol (y Cyfnod Ymchwil). Bydd ymgeiswyr yn elwa o hyblygrwydd y rhaglen drwy ddewis y modiwlau sy’n briodol i’w prosiect ymchwil.

Yng Nghyfnod a Addysgir y rhaglen, bydd ymgeiswyr yn cwblhau 40 credyd o fodiwlau (2 x 20 credyd) ar bynciau craidd sy’n gysylltiedig ag ymchwil ochr yn ochr â’u cyfoedion o lwybrau MRes eraill a 40 credyd o fodiwlau (2 x 20 credyd) sy’n cyd-fynd â’u maes pwnc.

Y Cyfnod a Addysgir – Modiwlau Craidd

Modiwl 1 – Datblygu eich Syniad Ymchwil

Mae’r modiwl cyntaf hwn yn rhoi sylfaen i ymgeiswyr yn y broses ymchwil, gan gwmpasu agweddau megis: athroniaethau ymchwil personol, creu nodau ac amcanion, methodolegau ymchwil, gweithio ar y cyd, moeseg ymchwil a datblygu cynaliadwyedd mewn ymchwil, ysgrifennu beirniadol, chwilio am lenyddiaeth a rheoli cyfeiriadau, eiddo deallusol, a meddwl dylunio ar gyfer dulliau sy’n canolbwyntio ar bobl.

Modiwl 3

Mae ymgeiswyr yn dewis 1 o’r canlynol:

  • Datblygu Sgiliau Ymchwil Meintiol
  • Datblygu Sgiliau Ymchwil Dulliau Cymysg
  • Datblygu Sgiliau Ymchwil Ansoddol

Bydd ymgeiswyr yn dewis dilyn arbenigedd sgiliau ymchwil meintiol, ansoddol neu ddulliau cymysg yn dibynnu ar natur eu maes astudio arfaethedig yn y Cyfnod Ymchwil. Bydd y modiwlau hyn yn ymdrin â phynciau gan gynnwys rheoli prosiectau, cynnal a dehongli profion ystadegol, dulliau cyflwyno canlyniadau, ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd academaidd, a sgiliau astudio. Yn seiliedig ar ddealltwriaeth o ddylunio ymchwil (Modiwl 1), sgiliau ymchwil (Modiwl 3) ac arbenigedd y pwnc (Modiwl 2), bydd cynnig ymchwil ar gyfer eu prosiect ymchwil terfynol yn cael ei ddatblygu a’i gyflwyno fel dull asesu yn y modiwl hwn. Yn ogystal, bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno cynnig moeseg ar y cam hwn o’u hymgeisyddiaeth hefyd.

Y Cyfnod a Addysgir – Modiwlau Angenrheidiol

Bydd pob ymgeisydd sydd wedi cofrestru ar yr MRes mewn Celf a Dylunio yn cwblhau’r modiwlau Paratoi ar gyfer Eich Prosiect Ymchwil.

Modiwl 2 a Modiwl 4 – Paratoi ar gyfer Eich Prosiect Ymchwil 1 a 2

Bydd ymgeiswyr yn datblygu rhinweddau sy’n angenrheidiol ar gyfer eu prosiect ymchwil dewisol. Yn dilyn cyflwyniad modiwl anghydamserol, a thrafodaethau gyda’u tîm goruchwylio, bydd angen i ymgeiswyr benderfynu pa lwybr asesu y maent am ei ddilyn yn y modiwl (gweler isod am opsiynau posibl). Darperir cefnogaeth academaidd drwy gydol y modiwl trwy garedigrwydd y tîm goruchwylio. Mae’r gyfres o asesiadau yn fwriadol eang i ystyried ymgeiswyr sydd angen datblygu gwahanol feysydd fel:

  • sgiliau clinigol ymarferol (enghraifft o asesiad – datblygu ymarferol neu bortffolio)
  • mireinio technegau casglu data (enghraifft o asesiad – adroddiad technegol ar ddata peilot)
  • sgiliau ysgrifennu (enghraifft o asesiad – naratif/adolygiad systematig)
  • cysyniadau dylunio (asesiad enghreifftiol – datblygu prototeip)

Modiwl 5 – Prosiect Ymchwil

Bydd ymgeiswyr yn cwblhau prosiect ymchwil annibynnol, wedi’i bwysoli ar gyfer 100 credyd, lle byddant yn gallu cymhwyso eu harbenigedd newydd mewn ymchwil a gwybodaeth benodol i’r pwnc. Bydd y prosiect ymchwil terfynol yn benodol i’r ddisgyblaeth a gall fod ar ffurf y mathau o gyflwyniadau canlynol:

  • Traethawd ymchwil traddodiadol (hyd at uchafswm o 20,000 o eiriau)
  • 1-2 llawysgrif(au) ymchwil i’w hadolygu gan gymheiriaid

Bydd y prosiect terfynol yn cael ei asesu drwy arholiad viva voce ffurfiol. Rhoddir ystyriaeth i ansawdd a chynnwys y cyflwyniad ysgrifenedig, ond hefyd i’r ffordd y mae’r ymgeisydd yn amddiffyn ei waith yn annibynnol ac yn glir.

Y cymhwyster ar adeg gadael ar gyfer y cwrs hwn fydd y Dystysgrif Ôl-raddedig (PGCert) mewn Egwyddorion Ymchwil a enillir trwy gwblhau 60 credyd o astudiaeth yn llwyddiannus.

Drwy gydol yr MRes, bydd amrywiaeth o ddulliau Dysgu ac Addysgu yn cael eu defnyddio gan gynnwys:

  • cyflwyno darlithoedd a seminarau anghydamserol ar-lein (e.e., dysgu gwrthdro neu wedi’i recordio ymlaen llaw, cyrchu darlithoedd neu fideos wedi’u recordio, gweithgareddau dysgu wedi’u cynllunio ar-lein, cyfrannu at drafodaeth ar gyfer gwaith grŵp)
  • rhyngweithiadau wyneb yn wyneb ag aelodau’r tîm goruchwylio
  • dysgu sefyllfaol wedi’i amserlennu (e.e., gwaith maes, casglu data, gwaith labordy wedi’i amserlennu gyda goruchwyliaeth)
  • cymorth academaidd wedi’i amserlennu (e.e., gweithdai asesu, adborth wyneb yn wyneb, sesiynau tiwtorial seiliedig ar bynciau, sesiynau sgiliau academaidd, goruchwylio ymchwil)
  • dysgu dan arweiniad annibynnol (e.e., paratoi darllen gwrthdro, astudio annibynnol ar gyfer aseiniadau, gwaith stiwdio neu labordy ar brosiectau unigol, darllen ac ymchwil, mynediad annibynnol at gefnogaeth sgiliau academaidd penodol)

Cefnogir hyn drwy’r Rhith-amgylchedd Dysgu Moodle, sy’n rhoi mynediad at ddeunyddiau allweddol, taflenni a phapurau ymchwil.

Bydd angen i’r ymgeiswyr wneud cryn dipyn o waith dysgu annibynnol a hunan-astudio. Mae astudio o’r fath yn galluogi ymgeiswyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o gysyniadau’r modiwl yn annibynnol ac i gwblhau ymarferion ffurfiannol a chrynodol.

Bydd Tîm Goruchwylio hefyd yn cael ei ddyrannu i bob ymgeisydd ar ddechrau’r rhaglen. Disgwylir i ymgeiswyr gysylltu â’u Tîm Goruchwylio yn ystod eu hastudiaethau, a’u cadw’n gyfredol â chynnydd trwy ‘gyfarfodydd adolygu carreg filltir’ rheolaidd.

Yng Nghyfnod a Addysgir yr MRes, mae gan bob modiwl ei ffurf ei hun o asesu. Caiff y rhan fwyaf o fodiwlau eu hasesu drwy bortffolio gwaith cwrs a all gynnwys rhai o’r opsiynau canlynol:

  • Erthyglau Ymchwil
  • Portffolios Profiad Ymarferol
  • Allbynnau sy’n Gysylltiedig â Dylunio
  • Gweithiau Creadigol ac Artistig
  • Dadansoddiad Beirniadol o Ymchwil Gyhoeddedig
  • Proses Adolygu Llenyddiaeth Systematig
  • Posteri
  • Adolygiadau Moeseg
  • Cynigion Ymchwil
  • Cynnig Ymchwil

Yng Nghyfnod Ymchwil yr MRes, bydd ymgeiswyr yn cael eu cefnogi gan eu tîm goruchwylio i gwblhau prosiect ymchwil terfynol sy’n cynnwys naill ai:

  • Traethawd ymchwil traddodiadol (hyd at uchafswm o 20,000 o eiriau)
  • 1-2 llawysgrif(au) ymchwil i’w hadolygu gan gymheiriaid (nodwch, nid oes angen i’r llawysgrifau fod wedi’u cyflwyno’n ffurfiol i gyfnodolyn adolygu gan gymheiriaid fel rhan o’r asesiad)

Yna bydd y prosiect ymchwil terfynol yn cael ei asesu trwy Arholiad Viva Voce ffurfiol.

Mae’r MRes yn paratoi ymgeiswyr ar gyfer y cam nesaf yn eu gyrfa ymchwil, boed hynny’n dilyn rhaglen ymchwil bellach (fel PhD neu Ddoethuriaeth Addysgol) neu’n dechrau mewn swydd sy’n seiliedig ar ymchwil.

Bydd graddedigion MRes wedi datblygu sgiliau craidd mewn meddwl beirniadol, myfyrio ac ysgrifennu academaidd, dylunio ymchwil a dulliau ymchwil, moeseg ac uniondeb, a materion sy’n cyd-fynd ag ymchwil ddibynadwy.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer graddedigion o ystod o wahanol ddisgyblaethau. Mae’r gofynion mynediad penodol yn cynnwys:

  • Gradd anrhydedd (dosbarthiad 2.1 neu uwch) mewn disgyblaeth berthnasol
  • Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith eithriadol a helaeth mewn rolau rheoli hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad i’r rhaglen

Ymgeiswyr Rhyngwladol

Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 o leiaf (gyda lleiafswm o 6.5 yn y cydrannau Darllen ac Ysgrifennu) neu gyfwerth. Am fanylion llawn ynglŷn â sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefn Ddethol

Fel arfer, dewisir myfyrwyr ar sail ffurflen gais wedi’i chwblhau’n llawn ynghyd â:

  • curriculum vitae (CV) yn amlinellu tystiolaeth o wybodaeth flaenorol am y pwnc
  • trawsgrifiad gradd, meysydd llafur modiwl ar gyfer gwybodaeth benodol i’r pwnc a chopi o draethodau hir blaenorol
  • datganiad personol
  • cynnig ymchwil (uchafswm o 1500 o eiriau) sy’n amlinellu eu maes ymchwil
  • cyfeiriadau academaidd

Gofynnir i ymgeiswyr ddod i gyfweliad os yw’r cynnig ymchwil a’r cam ymgeisio yn dderbyniol. Gellir cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb, drwy Teams neu dros y ffôn gyda Chydlynydd Ysgol MRes a Chydlynydd Astudiaethau Ôl-raddedig cyn gwneud unrhyw gynnig.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i’r Brifysgol drwy ein system ymgeisio hunanwasanaeth. Am ragor o wybodaeth ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Gwahoddir ymgeiswyr MRes i fod yn rhan o Gymuned Ymchwil Doethurol Met Caerdydd a chysylltu â chyfoedion sy’n astudio graddau ymchwil mewn ystod eang o feysydd.

Bydd ymgeiswyr yn gallu cael mynediad at fannau astudio a chymdeithasu pwrpasol ar draws campysau megis mannau penodol i’r Ysgol a’r Ganolfan Ymchwilwyr Doethurol sydd wedi’i lleoli ar gampws Cyncoed sydd ar gael i bob ymgeisydd gradd ymchwil.

Fel rhan o’r Gymuned Ymchwilwyr Doethurol, bydd llais ymgeiswyr MRes yn cael ei gynrychioli gan y Grŵp Ymchwilwyr Doethurol (DRG) i gynrychioli ac eiriol dros eu buddiannau a’u hadborth. Mae’r DRG yn cynnwys cynrychiolwyr o bob Ysgol academaidd ac anogir ymgeiswyr i gysylltu â chynrychiolwyr eu Hysgol i roi adborth ar eu profiad. Mae’r DRG yn trefnu Cynhadledd Ymchwilwyr Doethurol flynyddol sy’n rhoi cyfle i ymgeiswyr ennill profiad o gyflwyno eu hymchwil mewn lleoliad cynhadledd i’w cyfoedion mewn amgylchedd cefnogol. Yn ogystal â’r gynhadledd flynyddol, mae’r DRG yn trefnu amryw o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn megis sesiynau Cyfoedion-i-Gyfoedion a digwyddiadau rhwydweithio a chymdeithasol. Bydd digwyddiadau hefyd yn cael eu trefnu gan Ysgolion, fel Encilfeydd Ysgrifennu, ac yn ganolog, fel hyfforddiant sgiliau ymchwil, lle gall ymgeiswyr ymgysylltu â chyfoedion y tu hwnt i’w carfan.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â csadresdegrees@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

  • Hyd

    12 neu 18 mis yn llawn amser. 24 mis yn rhan-amser.

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

  • Hyd

    18-24 mis yn llawn amser. 36-48 mis yn rhan-amser.

Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.