Mae S4C wedi cyhoeddi bwrsari newyddiaduraeth chwaraeon newydd a fydd bellach ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd – gyda’r nod o ddenu talent newydd o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol i’r byd darlledu.
Mae Bwrsariaeth Cyfryngau Chwaraeon S4C yn cynnig cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu sgiliau ar gwrs MSc Darlledu Chwaraeon Met Caerdydd. Yn ogystal, bydd y person llwyddiannus yn cael profiad ymarferol gyda thîm chwaraeon digidol S4C a rhai o gwmnïau cynhyrchu mwyaf Cymru, a’r cyfle i gael gwaith â thâl ar ôl i’r cwrs ddod i ben.
Wrth drafod Bwrsariaeth Cyfryngau Chwaraeon S4C, dywedodd Joe Towns, Cyfarwyddwr Cwrs y Radd Meistr Darlledu Chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae’r cyfle hwn yn berffaith i unrhyw un sy’n awyddus i weithio ym maes cynhyrchu darlledu chwaraeon. Mae’r cyfuniad o hyfforddiant mewn prifysgol a phrofiad gwaith ymarferol yn arbennig. Gyda haf o chwaraeon o’m blaenau, dyma’r amser perffaith i wneud cais i fod yn rhan o’r diwydiant cyffrous hwn yn y dyfodol.”
Mae S4C eisoes yn cynnig Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T. Glynne Davies gyda Phrifysgol Caerdydd – gan roi’r cyfle i astudio ar y cwrs MA JOMEC mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu.
Y gobaith yw y bydd y bwrsariaethau’n apelio at bobl o dras leiafrifol ethnig, anabledd a/neu sy’n dod o gefndir economaidd-gymdeithasol difreintiedig. Mae’r Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth hefyd ar agor i unrhyw un sydd y cyntaf i siarad Cymraeg yn rhugl o fewn y teulu.
Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C, am y ddau fwrsariaeth: “Rydym wrth ein bodd yn cydweithio â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd ac yn buddsoddi yn yr hyfforddiant hwn. Mae S4C yn benderfynol o helpu pobl talentog yng Nghymru i ddatblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i ddod yn rhan o’n gweithlu, beth bynnag fo’u cefndiroedd. Rydym yn annog unrhyw un sydd â dymuniad i weithio yn y byd darlledu i ystyried gwneud cais am y cyfleoedd gwych hyn.”
Mae ceisiadau ar gyfer Bwrsariaeth Cyfryngau Chwaraeon S4C 2025/26 bellach ar agor a gall myfyrwyr wneud cais drwy wefan S4C.
Dysgwch fwy am radd meistr cyfryngau Darlledu Chwaraeon Met Caerdydd.