Myfyriwr clirio yn tynnu sylw at sut roedd cais ar hap i’r brifysgol yn foment o fod ‘yn y lle iawn, ar yr amser iawn’
Mae myfyrwraig hŷn a gafodd ei hysbrydoli i wneud cais i’r brifysgol drwy Glirio wedi egluro sut roedd y penderfyniad i astudio eto yn gyfle i newid ei ffordd o fyw, ennill annibyniaeth a chamu allan o'r hyn oedd yn gyfarwydd iddi.
Roedd Atlanta Paraskeva, sydd bellach yn 24 oed, o Swydd Gaerloyw, yn 21 oed ac ar wyliau yng Nghopenhagen pan wnaeth gais munud olaf i astudio ar radd BA (Anrh) Dylunio Tecstilau Prifysgol Metropolitan Caerdydd drwy Glirio - ar ôl ailddarganfod cariad at gelf yn ystod taith i'r ddinas.

Gall darpar fyfyrwyr wneud cais am gyrsiau drwy Glirio yn ystod cyfnod penodol bob blwyddyn (5 Gorffennaf – 20 Hydref 2025) os ydynt yn derbyn graddau uwch neu is nag y disgwylir, os ydynt wedi newid eu meddwl ar eu cwrs presennol neu os ydynt wedi methu dyddiad ymgeisio UCAS.
Dywedodd Atlanta: “Pan adawais y coleg yn 18 oed, doedd gen i ddim syniad beth roeddwn i eisiau ei wneud nesaf. Roedd fy holl ffrindiau'n mynd yn syth i'r brifysgol, felly penderfynais wneud rhestr o fanteision ac anfanteision a sylweddoli nad oedd prifysgol yn iawn i fi ar y pryd.
“Roeddwn i wedi gwirfoddoli a gweithio gyda phlant wrth dyfu i fyny, felly pan welais swydd fel prentis ymarferydd blynyddoedd cynnar, penderfynais ymgeisio am hwn yn lle.”
Ar ôl cymhwyso yn y proffesiwn gofal plant, gweithiodd Atlanta mewn meithrinfa drwy gydol pandemig COVID-19. Mae hi bellach yn falch ei bod wedi gwneud y penderfyniad i aros a mynd i'r brifysgol ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach fel nad oedd ei phrofiad prifysgol “yng nghanol y cyfnod clo.”
Roedd ymuno â'r proffesiwn gofal plant a gweithio drwy gydol y pandemig yn golygu ei fod yn brofiad gwahanol iawn gyda'r holl gyfyngiadau ar waith,” mae Atlanta yn parhau wrth ddweud: “Nid oedd y profiad fel y gallai gofal plant fod, ac fe wnaeth lygru’r profiad i mi. Gydag oriau mor hir, roeddwn i'n teimlo fel petawn i'n gweithio drwy'r amser - sylweddolais nad dyma'r bywyd roeddwn i eisiau mor ifanc.”
Wrth wneud sylwadau ar y penderfyniad i wneud cais i Brifysgol Met Caerdydd drwy Glirio yn ystod gwyliau gyda'i mam yn 2021, dywedodd Atlanta: “Roeddwn i bob amser wedi caru gwneud pethau ac fe wnes i gwrs sylfaen mewn celf ar ôl sefyll fy arholiadau Safon Uwch. Ond dim ond yn ystod taith i Copenhagen a gweld pobl eraill oedd wrth eu bodd â chelf a chlywed eu profiadau o lygad y ffynnon y des i o hyd i fy angerdd eto go iawn.
“Mae mynd i’r brifysgol wedi bod yn fwy am ddod yn annibynnol yn hytrach na dim ond cael swydd neu yrfa i mi. Edrychais ar brifysgolion eraill ond Met Caerdydd yn unig y gwnes gais amdano, gan ei fod yn teimlo fel yr un mwyaf addas i mi.”
Mae Atlanta newydd raddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn BA (Anrh) Dylunio Tecstilau. Gyda chariad at ddylunio patrymau, mae hi nawr yn bwriadu dechrau chwilio am swyddi print yn Llundain neu Fanceinion.
Dywedodd Lisa Bowen, Pennaeth Derbyniadau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Mae dod i’r brifysgol ar ôl cyfnod i ffwrdd o astudio neu ddewis newid gyrfa yn benderfyniad mawr i’w wneud, ond rydym bob amser yn atgoffa myfyrwyr bod ganddyn nhw opsiynau. Mae'n llawer gwell archwilio llwybr newydd nag aros ar un nad yw'n teimlo'n iawn. Mae prifysgol yn brofiad unwaith mewn oes - ac mae lle i newid bob amser.”
Ychwanegodd Atlanta: “Rydw i wedi mwynhau’r cwrs ym Met Caerdydd yn fawr iawn, roedd yna lawer o ryddid a chefnogaeth a’r cyfle i brofi pob maes o ddylunio. Rydw i hefyd wedi gwneud ffrindiau gwych.
“Mae mynd i’r brifysgol wedi caniatáu i mi daflu fy holl bryderon o’r neilltu. Meddyliau megis, 'Ydw i'n ddigon da?' neu 'Dydw i ddim yn artist' a'm gwthio allan o fy mharth cysur. Ni wyddoch beth mae’r dyfodol yn cynnig – felly dw i'n meddwl bod yn rhaid i chi fod yn ddigymell gyda phethau mewn bywyd.”
Mae rhagor o gyngor ar Glirio a sut i wneud cais ar gael ar wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd.