Jude Badmington-Fowler
Uwch Ddarlithydd (Gwaith Cymdeithasol) a Chyfarwyddwr y Rhhaglen Gwaith Cymdeithasol Ôl-gymhwysol
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Trosolwg
Mae Jude Badmington-Fowler yn Uwch Ddarlithydd ar y Rhaglen BSc Gwaith Cymdeithasol a'r Rhaglen Ôl-gymhwyso ac yn Gyfarwyddwr y Rhaglen Gwaith Cymdeithasol Ôl-gymhwyso. Mae Jude yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, yn Gadeirydd ac yn aelod o'r Pwyllgor Uniondeb Academaidd ym Met Caerdydd, yn adolygwr Cymrodoriaethau ac yn gynghorydd addysgu, ac mae wedi gwasanaethu fel Arholwr Allanol yn flaenorol.
Cwblhaodd Jude ei Gradd BA Anrhydedd mewn Cymdeithaseg ac Addysg ym Mhrifysgol Warwick ym 1995 cyn ymgymryd ag MA / Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Goldsmiths, Llundain ym 1999. Ar ben hynny, cwblhaodd Jude Ddiploma Ôl-raddedig mewn Gwaith Cymdeithasol Uwch ac AHO ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae ganddi Ddyfarniad Ôl-gymhwyso ar gyfer Addysg Ymarfer.
Cyn ymuno â Met Caerdydd, dros yr 18 mlynedd diwethaf, mae Jude wedi bod yn ymwneud yn barhaus ag addysgu ym maes gwaith cymdeithasol ac wedi gweithio yn y byd academaidd am yr 11 mlynedd diwethaf. Cyn hyn, bu Jude yn gweithio fel Uwch Weithiwr Cymdeithasol mewn timau Gwasanaethau i Oedolion yn Llundain a Chaerdydd.