Skip to content

PhD Ysgoloriaeth: Datblygiad Corfforol yn y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru

Mae’n bleser gan Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Prifysgol Metropolitan Caerdydd gynnig ysgoloriaethau ymchwil Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru (WGSSS) (Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol yr ESRC) sydd wedi’u hariannu’n llawn yn Llwybr Addysg fydd yn dechrau ym mis Hydref 2026.

Teitl PhD

Deall gwybodaeth, cymhwysiad ac effaith datblygiad corfforol yn y blynyddoedd cynnar yng Nghymru

Sefydliad Partner

Blynyddoedd Cynnar Cymru (sefydliad trydydd sector)

Crynodeb o’r Prosiect

Bydd y PhD cydweithredol hwn, dan arweiniad Prifysgol Metropolitan Caerdydd mewn partneriaeth a Blynyddoedd Cynnar Cymru, yn archwilio sut mae datblygiad corfforol yn cael ei ddeall, ei gymhwyso a’i brofi mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Cymru. Bydd y prosiect yn ymchwilio i wybodaeth ac ymarfer presennol ymarferwyr, ac yn gwerthuso effaith ymyriadau cymunedol ac ysgol sy’n cael eu cynllunio i wella llythrennedd corfforol a datblygiad cyfannol plant.

Gan ddefnyddio dull dulliau cymysg, gan gynnwys arolwg ar draws Cymru ac ymyriadau wedi’u cyd-gynhyrchu gydag ymarferwyr, rhieni ac addysgwyr, bydd yr ymchwil yn cynhyrchu tystiolaeth i lywio ymarfer, hyfforddiant a pholisi yn y blynyddoedd cynnar. Nod y prosiect yw gwella canlyniadau mewn datblygiad corfforol, gwybyddol ac emosiynol, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol, a chyfrannu at ddarpariaeth genedlaethol y blynyddoedd cynnar.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gydag Blynyddoedd Cynnar Cymru, gan gael mynediad at rwydwaith cenedlaethol eang o weithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar a chyfrannu at effaith ymarferol go iawn ar draws y sector.

Meini Prawf Mynediad

I dderbyn cyllid un o ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS, mae’n rhaid bod gennych chi gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais.

Hyd yr astudiaeth

Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddi yn rhan-amser).

Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu.Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.

Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio

Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr WGSSS gwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.

Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys

Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion UKRI o ran bod yn gymwys.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae’r WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy’n cynnwys pawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.

Asesu

Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad. Yn rhan o'r broses gyfweld, bydd gofyn i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel

Sut i wneud cais

Dylai ceisiadau ddod i law erbyn 23 Ebrill 2026 fan bellaf gan gynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen. Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.   

Dylai pob cais gael ei gyflwyno drwy – Ysgoloriaethau Gradd Ymchwil - ESSHResearchdegrees@cardiffmet.ac.uk

Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:  

  • Ffurflen Gais Ysgoloriaeth WGSSS 2026
  • CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen)
  • Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd. 
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol) 
  • Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)

Cyllid

Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.

Os oes gennych chi anabledd, efallai y bydd gennych chi hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.