Ysgoloriaeth PhD: O'r Cae i fod yn Rhiant
Mae'r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd yn falch iawn o gynnig ysgoloriaeth Ysgol Graddedigion Cymru ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol (WGSSS) (ESRC DTP) a ariennir yn llawn yn y Llwybr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gan ddechrau ym mis Hydref 2026.
Teitl y prosiect
O'r cae i fod yn rhiant: Cyd-greu system iechyd benywaidd ar gyfer pêl-droedwyr proffesiynol sy'n dychwelyd i chwarae ôl-enedigol
Partner y prosiect
‘Women's Super League Football’
Disgrifiad o'r Prosiect
Bydd yr ysgoloriaeth hon yn datblygu'r system iechyd amenedigol gyntaf ar gyfer pêl-droed menywod proffesiynol, gan fynd i'r afael â'r nifer cynyddol o chwaraewyr sy'n llywio beichiogrwydd a dychwelyd i chwarae ôl-enedigol. Gan ddefnyddio dull cymysg, gan gyfuno profiad byw, consensws rhanddeiliaid, gwyliadwriaeth iechyd a dulliau cyd-ddylunio, bydd y prosiect yn darparu argymhellion gweithredadwy i lywio polisïau ac ymarfer clinigol y Women's Super League. Yn ganolog i'r prosiect mae cefnogi ac optimeiddio arferion dychwelyd i chwarae a gwella iechyd a lles mamau ar draws pêl-droed proffesiynol.
Y partner cydweithredol yw'r Women's Super League Football, sy'n gyfrifol am adeiladu'r gystadleuaeth clwb pêl-droed merched mwyaf cystadleuol trwy eu dwy gynghrair ar gyfer pêl-droed proffesiynol yn Lloegr
Meini Prawf Mynediad
I dderbyn cyllid un o ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS, mae’n rhaid bod gennych chi gymwysterau neu brofiad sy'n cyfateb i radd anrhydedd yn y DU ar lefel dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch, neu radd meistr. Mae croeso i fyfyrwyr sydd â chefndir academaidd anhraddodiadol hefyd wneud cais.
Hyd yr astudiaeth
Mae hyd yr astudiaeth yn amrywio o 3.5 i 4.5 blynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddi yn rhan-amser).
Mae hyd yr astudiaeth yn dibynnu ar brofiad ymchwilio blaenorol ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr a asesir drwy gwblhau Dadansoddiad o’r Anghenion Datblygu.Rydyn ni’n croesawu ceisiadau am astudio’n amser llawn ac yn rhan-amser.
Lleoliad ymarfer wrth ymchwilio
Bydd gofyn i bob myfyriwr a ariennir gan yr WGSSS gwblhau lleoliad Ymarfer wrth Ymchwilio a ariennir am gyfanswm o 3 mis (neu’r hyn sy’n gyfwerth iddo yn rhan-amser). Bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gwblhau lleoliad mewn sefydliad academaidd, polisi, busnes neu gymdeithas sifil.
Gofynion rhyngwladol ynghylch bod yn gymwys
Mae ysgoloriaethau ymchwil yr WGSSS ar gael i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Caiff hyd at 30% o'n carfan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Ni chodir y gwahaniaeth rhwng ffi y DU a'r ffi ryngwladol ar fyfyrwyr rhyngwladol. Dylai ymgeiswyr fodloni gofynion UKRI o ran bod yn gymwys.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae’r WGSSS wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu diwylliant sy’n cynnwys pawb. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bob aelod o'r gymuned fyd-eang waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, ailbennu rhywedd, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol.
Asesu
Bydd yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad. Yn rhan o'r broses gyfweld, bydd gofyn i ymgeiswyr roi cyflwyniad byr ac ateb cyfres o gwestiynau gan y panel.
Sut i wneud cais
Dylai ceisiadau ddod i law erbyn 23 Ebrill 2026 fan bellaf gan gynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen. Oherwydd nifer y ceisiadau a ddaw i law, ni fydd ceisiadau anghyflawn yn cael eu hystyried.
Dylai pob cais gael ei gyflwyno drwy – Ysgoloriaethau Gradd Ymchwil - ESSHResearchdegrees@cardiffmet.ac.uk
Cofiwch gynnwys y dogfennau canlynol yn eich cais:
- Ffurflen Gais Ysgoloriaeth YGGCC 2026
- CV academaidd (dim mwy na dwy dudalen).
- Dau eirda academaidd neu broffesiynol (mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â chanolwyr a chynnwys y geirdaon yn eu cais. Mae’n rhaid i'r geirdaon fanylu ar gryfderau ymchwil yr ymgeisydd.
- Tystysgrifau a thrawsgrifiadau gradd (gan gynnwys cyfieithiadau os yw'n berthnasol)
- Os yw'n berthnasol, prawf o Gymhwysedd yn y Saesneg (gweler gofynion mynediad y sefydliad)
Cyllid
Mae ysgoloriaethau ymchwil a ariennir gan yr ESRC yn talu ffioedd dysgu, cyflog byw di-dreth blynyddol yn unol ag isafswm cyfraddau UKRI (£20,780 ar hyn o bryd) ac mae'n cynnwys mynediad at Grant Cymorth Hyfforddiant Ymchwil.
Os oes gennych chi anabledd, efallai y bydd gennych chi hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar ben eich ysgoloriaeth ymchwil.