Skip to content

Safbwynt Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar Ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) Cynhyrchiol

Datganiad Safbwynt

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cydnabod y traweffaith ddwys mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) Cynhyrchiol yn ei gael ar draws addysg, ymchwil, diwydiant a chymdeithas. Rydym yn cydnabod y buddion anferthol y gall AI ddod, ond hefyd rydym yn cydnabod y risgiau posib a’r pryderon sy’n cael eu mynegi o amgylch gwahanol agweddau o’r dechnoleg. Fel Prifysgol fodern uchelgeisiol a blaengar, rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu gydag adnoddau AI mewn ffordd sy’n edrych am ymlaen, sy’n gyfrifol yn foesegol ac sydd wedi’i alinio gyda’n cenhadaeth a’n gwerthoedd craidd.

Ein Dull

Rydym yn cymryd safbwynt positif yn seiliedig ar egwyddor integreiddio AI yn rhan o’n dysgu, addysgu, ymchwil ac arferion gweithredol. Mae AI yn cynnig potensial aruthrol i wella profiad y myfyriwr, cyflogadwyedd myfyrwyr, galluogi dysgu wedi’i bersonoli, cefnogi gweithgareddau’r ymchwiliwr a chynyddu effeithlonrwydd mewn tasgau gweinyddol ac academaidd.

Rydym yn credu bod adnoddau AI pan gânt eu defnyddio’n foesegol, yn gallu grymuso myfyrwyr a staff, gan gynnig ffyrdd newydd i’w harchwilio, creadigrwydd, ac optimeiddio prosesau academaidd. Fodd bynnag, rydym yn hynod ymwybodol o’r ystyriaethau sy’n mynd ochr yn ochr gyda’r technolegau pwerus hyn, yn fwyaf nodedig yr uniondeb a thrylwyredd academaidd sydd o’r pwys mwyaf.

Er mwyn mynd i’r afael â’r dirwedd hon sy’n newid, rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo llythrennedd o amgylch technoleg AI ymysg ein myfyrwyr a’n staff a meithrin diwylliant o’i ddefnyddio’n gyfrifol ymysg pob aelod o’n cymuned. Mae hyn yn golygu darparu arweiniad eglur ar pryd a sut y gall, neu na all, adnoddau AI gael eu defnyddio i gefnogi dysgu a gwaith, tra’n pwysleisio’r angen hanfodol am feddyliau gwreiddiol, gwerthusiad beirniadol o gynnwys a gynhyrchwyd gan AI yn feirniadol, a phriodoli tryloyw pan mae AI wedi cael ei ddefnyddio.

Symud Ymlaen

Wrth i dechnolegau AI barhau i symud yn eu blaen, byddwn yn parhau i gymryd rhan yn weithredol yn natblygiad polisïau a chanllawiau cynhwysfawr fydd yn sicrhau integreiddiad moesegol, teg ac effeithiol AI ar draws pob agwedd o fywyd yn y brifysgol. Bydd y polisïau hyn yn mynd i’r afael â meysydd megis defnydd priodol mewn gwaith cwrs ac ymchwil, preifatrwydd data, a meithrin sgiliau llythrennedd AI ar gyfer pawb.

Ein hymrwymiad i’n cymuned yw i ddefnyddio buddion AI er mwyn cyfoethogi’r profiad addysgol, symud gwybodaeth yn ei blaen a pharatoi ein cymuned ar gyfer y dyfodol, y cyfan tra’n dal y safonau uchaf o onestrwydd academaidd a thrylwyredd.

Rydym yn gwahodd trafodaeth agored ar draws cymuned y brifysgol er mwyn helpu i siapio ein hymateb ar y cyd yn barhaus ac i sicrhau bod AI yn gweithredu fel adnodd parhaus ar gyfer grymuso.