Egwyddorion Deallusrwydd Artiffisial (AI) Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Sylfaen a Phwrpas
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cydnabod deallusrwydd artiffisial fel technoleg drawsffurfiadol sy’n cyflwyno cyfleoedd a heriau ar gyfer addysg uwch. Gan ddilyn arfer da AI addysgol a sefydlwyr, fel yr amlinellir yn egwyddorion Grŵp Russell, mae’r egwyddorion hyn yn sefydlu fframwaith ar gyfer defnyddio AI mewn ffordd briodol a chyfrifol sy’n cefnogi rhagoriaeth addysgol tra’n cynnal uniondeb academaidd.
Nid yw agwedd Met Caerdydd tuag at AI yn golygu ei wahardd yn llwyr nac yn caniatáu defnydd anghyfyngedig, ond yn hytrach ei weithredu’n bwrpasol wedi’i arwain gan safonau moesegol eglur ac amcanion addysgiadol. Dylai offerynnau AI weithredu mewn rôl gydweithredol, gan fwyhau ond heb gymryd lle barn bod dynol lle mae’n cael ei ddosbarth ar draws ein prosesau addysgol, gweinyddol ac ymchwil.
Fframwaith Uniondeb Academaidd
Polisi Craidd
Mae Rheoliadau Prifysgol Met Caerdydd ynghylch arfer academaidd annheg yn sefydlu bod defnydd amhriodol o feddalwedd neu wasanaethau deallusrwydd artiffisial wrth gwblhau asesiadau yn cyfateb i gamymddwyn academaidd. Mae’r brifysgol yn gweithredu ar yr egwyddor y bydd briffiau aseiniad yn adnabod yn benodol lle gall defnyddio AI fod yn briodol; yn yr holl achosion eraill, nid yw’n cael ei ganiatáu.
Canllawiau sy’n Benodol i Aseiniad
Rhaid i bob brîff aseiniad ddatgan yn eglur p’un a yw AI yn cael ei ganiatáu, ac ym mha fodd, gan greu tryloywder a chysondeb ar draws yr holl waith academaidd. Mae’r agwedd hon yn alinio gydag arferion gorau’r sector ac yn sicrhau bod myfyrwyr yn deall disgwyliadau ym mhob cyd-destun asesiad, gan leihau ansicrwydd, dryswch a chamymddwyn academaidd anfwriadol.
Gorfodi a Chefnogaeth
Mae fframwaith academaidd y brifysgol yn trin camddefnyddio AI yn dor-rheol difrifol sy’n gallu arwain at ddirwyon yn amrywio o rybuddion i gwblhau i anghymhwyso’n llwyr. Fodd bynnag, mae Met Caerdydd yn rhoi pwyslais ar ddysgu a datblygu dros fesurau cosbol yn unig. Mae gofyn i fyfyrwyr y canfyddir sy’n euog o dorri polisïau defnyddio AI ymgymryd â modiwlau “Camymddygiad Academaidd a Sgiliau Astudio” er mwyn eu cefnogi i ddatblygu sgiliau llythrennedd AI priodol.
Egwyddorion Defnydd Moesegol
Tryloywder ac Atebolrwydd
- Rhaid i unrhyw gymorth AI a ddefnyddir mewn gwaith academaidd gael ei gydnabod yn briodol.
- Rhaid i fyfyrwyr a staff ddeall y gallai dulliau darganfod AI gael eu defnyddio.
- Mae penderfyniadau dynol yn parhau i fod yr awdurdod pennaf ym mhob proses academaidd a gweinyddol.
- Rhaid i’r defnydd o AI gyfrannu at uniondeb addysgol gan ei gefnogi yn hytrach na’i danseilio.
Pwrpas Addysgiadol
Dylai AI gael ei ddefnyddio’n bwrpasol er mwyn:
- Cefnogi, gwella a chyfoethogi’r profiad dysgu.
- Hyrwyddo lles myfyrwyr a staff.
- Gwella deilliannau dysgu.
- Cefnogi prosesau effeithlon ar draws pob mae gweithgaredd y Brifysgol.
- Datblygu ffordd o feddwl yn feirniadol ynghylch gwybodaeth sydd wedi’i chynhyrchu gan AI, gan gydnabod budd ond gochel rhag rhagfarn ac anghywirdeb.
Tegwch a Hygyrchedd
Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod rhoi AI ar waith yn hyrwyddo tegwch addysgiadol yn hytrach na chreu rhwystrau. Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod:
- Rhaid i adnoddau AI fod yn hygyrch mewn ffordd deg i bob myfyriwr lle maent yn cael eu darparu a’u cefnogi’n ganolog gan y Brifysgol.
- Gall cymwysiadau AI arloesol fod o fudd arbennig i fyfyrwyr gydag anableddau dysgu, rhwystrau o ran iaith, ac anghenion dysgu amgen.
- Dosbarthu adnoddau a buddsoddiad mewn adnoddau AI yn cydbwyso’r cyfyngiadau cyllidebol gydag ymrwymiadau mynediad teg.
- Mae’r gwasanaethau Digidol a Llyfrgell, fel prif ddarparwyr a chefnogwyr dosbarthu adnoddau AI, yn gweithio’n weithredol i sicrhau bod hygyrchedd eang at adnoddau AI.
Safonau Ymchwil a Phroffesiynol
Moeseg Ymchwil
Rhaid i’r holl ymchwil sy’n ymwneud â thechnolegau AI gydymffurfio gyda’r safonau uchaf o ymddygiad a moeseg proffesiynol, gan sicrhau bod yr ymchwil a gynhelir ac adrodd amdano yn fanwl gywir, yn wir ac yn deg. Mae’r brifysgol yn cefnogi astudiaethau sy’n edrych ar heriau moesegol gyda defnyddio technoleg ddigidol a datblygu fframweithiau ar gyfer gweithrediad AI sy’n gadarn yn foesegol.
Datblygiad Staff
Mae Met Caerdydd yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol cefnogi pob aelod o staff wrth ddatblygu llythrennedd AI. Mae’r brifysgol yn ceisio darparu:
- Hyfforddiant a gwybodaeth sylfaenol am holl adnoddau AI ac egwyddorion, a’r ffordd o’u defnyddio’n briodol ac yn ddiogel
- Datblygu sgiliau i fwyhau gwerth AI tra’n lleihau llwyth gwaith
- Cefnogaeth ar gyfer defnyddio AI yn effeithiol mewn prosesau sy’n cefnogi addysgu, dysgu, ymchwil a gweinyddu
- Mynediad at wybodaeth gyfredol drwy gyfranogi mewn mentrau cydweithredol a phrosiectau ymchwil
- Hyfforddiant fodiwlaidd, wedi’i ddiweddaru’n rheolaidd ar gyfer staff academaidd a staff gwasanaethau proffesiynol
Llywodraethiant a Gweithrediad
Fframwaith Sefydliadol
Mae llywodraethiant AI Met Caerdydd yn gweithredu o fewn strwythur Llywodraethiant ehangach a fframwaith moesegol y Brifysgol, gan sicrhau aliniad gyda gwerthoedd craidd creadigrwydd, arloesi, cynhwysiant ac ymddiriedaeth. Mae strwythur llywodraethiant y Brifysgol yn cynnwys mecanweithiau ar gyfer adolygiad parhaus ac addasu adnoddau AI ar draws gwahanol feysydd o weithgaredd y Brifysgol wrth i dechnolegau ac arferion gorau esblygu.
Ymgysylltiad Cymunedol
Mae dull y brifysgol yn rhoi pwyslais ar ddatblygiad cydweithredol drwy:
- Bolisi adolygu rheolaidd ac ymgysylltiad gyda’r sector gyfan.
- Cyfranogiad gweithredol mewn cymunedau o ymarfer er mwyn rhannu gwybodaeth a dadansoddi adnoddau newydd.
- Casglu adborth gan fyfyrwyr yn systematig drwy arolygon, grwpiau ffocws a chylchoedd rhoi adborth.
- Mae addasu’n barhaus yn adlewyrchu anghenion myfyrwyr a phrofiad bywyd.
Gwelliant Parhaus
Mae Met Caerdydd yn cynnal ymrwymiad i esblygiad a gwelliant drwy:
- Ddiweddaru hyfforddiant yn rheolaidd er mwyn adlewyrchu galluoedd AI sy’n newid.
- Cyfranogi mewn gweithgareddau’r sector ar gyfer defnydd arloesol a chyfrifol o AI mewn addysg.
Ymrwymiad i Weithredu
Mae’r egwyddorion cynhwysfawr yma’n darparu cymuned Met Caerdydd gydag arweiniad eglur ar gyfer defnyddio AI’n gyfrifol tra’n cefnogi cenhadaeth y brifysgol o ddarparu addysg arloesol o safon uchel. Mae’r egwyddorion yn sicrhau bod Met Caerdydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer llwyddiant mewn byd sy’n gynyddol wedi’i integreiddio gydag AI, tra’n cynnal y gwerthoedd academaidd sylfaenol sy’n sail i ragoriaeth addysgiadol.
Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i wneud yr egwyddorion hyn yn hygyrch drwy ddeunyddiau arweiniol cynhwysfawr a’u cynnal fel dogfennau byw sy’n esblygu gyda datblygiadau technolegol ac arferion gorau addysgol.