Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Siarter y Myfyrwyr 2025/26

Beth yw Siarter y Myfyrwyr?

Mae Siarter y Myfyrwyr yn ddogfen bartneriaeth lefel uchel sy’n berthnasol i bawb yng nghorff myfyrwyr amrywiol Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Fe’i datblygir ar y cyd gan y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a’r myfyrwyr i ddarparu profiad i fyfyrwyr sy’n gyson â’r weledigaeth, y gwerthoedd a’r blaenoriaethau yn Strategaeth 2030

Mae’r disgwyliadau cyffredinol isod, sy’n ymgorffori gwerthoedd cymuned Met Caerdydd, yn berthnasol i’r holl themâu ac ymrwymiadau a gyflwynir yn Siarter y Myfrwyr.

Dylai pawb yng nghymuned Met Caerdydd:

  • Greu amgylchedd diogel a chroesawgar i bawb, ni waeth beth yw eu cefndir, a hyrwyddo cymuned gydlynol yn ddiwylliannol ar y campws, yn unol â’n statws fel Prifysgol Noddfa.
  • Gweithio’n weithgar i hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth a wnawn, ynghyd â hyrwyddo dealltwriaeth gyson rhwng grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a grwpiau nad ydynt yn eu rhannu.
  • Hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru ac annog defnydd o’r Gymraeg.
  • Cymryd rhan mewn partneriaethau parchus a chydweithredol, sy’n gosod Llais y Myfyrwyr yn ganolog i benderfyniadau am bob agwedd ar gylch oes myfyrwyr.
  • Annog pawb i geisio cymorth priodol ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u lles.
  • Bod yn gwrtais, yn barchus ac yn ystyriol mewn cyfathrebiadau ag eraill.
  • Arfer rhyddid mynegiant a hyrwyddo (o fewn cyfyngiadau’r gyfraith), gan gydnabod yr un rhyddid i bobl eraill.
  • Parchu hawliau unigolion a thrin pob unigolyn gydag urddas.
  • Cynnal lefel o broffesiynoldeb ac ymddygiad drwy’r amser, gan gynnwys yn y gymuned ehangach, fel cynrychiolwyr Met Caerdydd.

Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i:

  • Sicrhau safonau uchel wrth gyflwyno rhaglenni, gan ddefnyddio ymagweddau blaengar at ddysgu ac addysgu sy’n cefnogi cyflawni uchelgeisiau personol myfyrwyr a deilliannau graddedig cydnabyddedig.
  • Darparu rhychwant o adnoddau dysgu a mannau dysgu priodol a hygyrch.
  • Darparu gwybodaeth glir am raglenni a modiwlau, gan gynnwys amserlen o asesiadau.
  • Sicrhau bod mynediad ar gael i amrywiaeth o staff a gwasanaethau cymorth ar y campws ac ar-lein i gynorthwyo myfyrwyr â’u hanghenion dysgu.
  • Cydnabod a pharchu amgylchiadau personol eithriadol myfyrwyr a chefnogi ystyriaeth ychwanegol, gan ddilyn y broses Cymorth i Astudio, lle bo’n berthnasol.
  • Darparu adborth ar asesiadau o fewn 20 diwrnod gwaith.
  • Gwneud addasiadau rhesymol i brosesau dysgu ac asesu ar gyfer myfyrwyr unigol, lle bo hynny’n briodol, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
  • Gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a darparu gwybodaeth glir am gyfleoedd i fyfyrwyr astudio a chael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Sicrhau bod rheoliadau a gweithdrefnau academaidd sydd wedi’u cyflwyno yn y Llawlyfr Academaidd yn dryloyw ac yn cael eu cymhwyso’n deg i bob myfyriwr.
  • Darparu parhad dysgu a sicrhau bod myfyrwyr o hyd yn gallu cymryd rhan mewn asesiadau pe bai tarfu, am resymau allanol, ar astudiaethau.
  • Adolygu ei darpariaeth yn barhaus er mwyn gwella ansawdd a safonau.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymo i:

  • Hyrwyddo dulliau i ymgysylltu â myfyrwyr.
  • Gweithio gyda’r Brifysgol i ddatblygu deialog agored, adeiladol a pharhaus rhwng myfyrwyr a staff, ac ymhlith myfyrwyr.
  • Cynnal etholiadau democrataidd i benodi myfyrwyr-arweinwyr sy’n hyrwyddo hawliau myfyrwyr ac sy’n sicrhau partneriaeth gadarn ac effeithiol gyda’r Brifysgol.

Mae Myfyrwyr yn ymrwymo i:

  • Ymgysylltu’n weithgar â’r rhaglen o’u dewis a’r gofynion sy’n gysylltiedig â’r rhaglen honno.
  • Cyflwyno gwaith i’w asesu erbyn y terfyn amser gofynnol.
  • Ystyried a myfyrio ar eu hymchwil eu hunain ac ar adborth a gafwyd oddi wrth staff academaidd.
  • Gwneud defnydd llawn o’r dysgu, y cymorth a’r adnoddau a ddarperir.
  • Cymryd perchnogaeth ar astudio annibynnol y tu hwnt i’r gweithgarwch dysgu yn yr amserlen.
  • Cadw at reoliadau a gweithdrefnau academaidd y Brifysgol, gan gynnwys y rheiny sy’n gysylltiedig â chyflwyno asesiadau ac osgoi camymddwyn academaidd.

Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i:

  • Ddarparu cyfleoedd i godi, gwrando arno ac ymateb i lais y myfyrwyr.
  • Cefnogi cyfranogiad effeithiol mewn datblygu, adolygu a gwerthuso rhaglenni.
  • Sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod ble i fynd os nad yw’r Brifysgol yn bodloni’r safonau gofynnol.
  • Rheoli gweithdrefn Cwynion a Apeliadau Academaidd glir, sy’n cadw at ofynion Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol (OIA).

Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymo i:

  • Weithio ochr yn ochr â’r Brifysgol i ddiffinio a hyrwyddo amrywiaeth o ddulliau o ymgysylltu, gwerthuso, a gwella cyfleoedd i godi llais y myfyrwyr, gwrando arno ac ymateb iddo.
  • Hwyluso system gynrychioliadol, sydd wedi’i gwreiddio ar bob lefel y Brifysgol, i sicrhau bod problemau a syniadau myfyrwyr, gan gynnwys y rheiny gan fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg, yn cael eu codi’n brydlon a bod dolenni adborth yn cael eu cau.
  • Darparu cyngor, cymorth a chynrychiolaeth annibynnol a diduedd i unigolion a grwpiau o fyfyrwyr sy’n destun gweithdrefnau’r Brifysgol, pan ofynnir am hynny.

Mae’r myfyrwyr yn ymrwymo i:

  • Gymryd rhan mewn prosesau sydd wedi’u cynllunio i gael adborth gan fyfyrwyr a graddedigion.

Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i:

  • Fodloni ei chyfrifoldebau statudol o ran cydraddoldeb a diogelu i ddarparu amgylchedd dysgu diogel
  • Sicrhau bod llwybrau clir ac ymatebol i fyfyrwyr geisio cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl a’u lles, sy’n cyd-fynd ag argymhellion arfer gorau gan StepChange: Mentally Healthy Universities, gan gynnwys dulliau mwy diogel o ymdrin â hunanladdiad.
  • Sicrhau bod polisïau’r Brifysgol yn adlewyrchu gwaith parhaus i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Darparu amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol sy’n gwella profiad y myfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn hygyrch i’r myfyrwyr hynny sydd angen cymorth ychwanegol.
  • Darparu gwybodaeth am ble gall myfyrwyr gael at gymorth ariannol.
  • Darparu mynediad at wasanaethau cymorth Cymraeg gan gynnwys cwnsela, Tiwtoriaid Academaidd Personol a cheisiadau am gymorth ariannol.
  • Darparu gwasanaethau cymorth arbenigol i fyfyrwyr rhyngwladol i’w helpu i bontio’n hwylus i Addysg Uwch y DU, ynghyd â chyngor a chymorth ymarferol i addasu i ddiwylliant, prosesau a gweithdrefnau lleol.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymo i:

  • Gynnal ymgyrchoedd a digwyddiadau perthnasol trwy gydol cylch oes myfyriwr.
  • Cynhyrchu datganiad ymrwymiad blynyddol ar Amrywiaeth a Chynhwysiant a fydd yn amlinellu meysydd ffocws er mwyn hyrwyddo cynhwysiant ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.
  • Darparu cymorth bugeiliol i fyfyrwyr, gan gynnwys cyfeirio at wasanaethau proffesiynol.

Mae Myfyrwyr yn ymrwymo i:

  • Ymgysylltu â’u Tiwtor Academaidd Personol neilltuedig yn weithgar a mynd i sesiynau sydd wedi’u trefnu.
  • Ymddwyn yn unol â holl bolisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol a dilyn yr egwyddorion sydd wedi’u hamlinellu yn y Cod Ymddygiad Myfyrwyr.
  • Bod yn gyfrifol wrth ddatgelu honiadau o gamymddwyn ac adrodd amdanynt
  • Cydnabod pan fydd amgylchiadau yn effeithio ar eu hiechyd a’u lles a bod yn gyfrifol am geisio cymorth amserol yn rhagweithiol, gan y gwasanaeth cymorth priodol.

Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i:

  • Gefnogi profiad dysgu’r myfyrwyr trwy ddarparu gwybodaeth ac adnoddau digidol hygyrch, o ansawdd uchel.
  • Sicrhau bod myfyrwyr yn cael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf trwy blatfformau cyfathrebu digidol a sgriniau ar y campws.
  • Cyfathrebu â myfyrwyr yn yr iaith o’u dewis (Cymraeg, Saesneg, neu yn ddwyieithog).
  • Cydnabod gohebiaeth gan fyfyrwyr yn amserol.
  • Cadw at ymrwymiadau sydd wedi’u hamlinellu gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA), ac amddiffyn buddiannau myfyrwyr.
  • Darparu manylion am gostau astudio.
  • Cadw gwybodaeth bersonol myfyrwyr yn gyfrinachol yn unol â Pholisi Diogelu Data y Brifysgol a deddfwriaeth allanol.
  • Gweithredu gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a sicrhau ei bod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymo i:

  • Ddarparu amrywiaeth o gyfryngau i sicrhau cyfathrebiadau effeithiol, amserol a pherthnasol gan Undeb y Myfyrwyr.
  • Cadw gwybodaeth myfyrwyr yn gyfrinachol, yn unol â deddfau diogelu data.
  • Sicrhau ei bod yn gwrando ar lais y myfyrwyr ac yn ymateb iddo yn amserol.

Mae Myfyrwyr yn ymrwymo i:

  • Gyfathrebu’n barchus â staff a myfyrwyr y Brifysgol, ac amdanynt, bob amser, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Gwirio pob e-bost a gohebiaeth gan y Brifysgol yn rheolaidd ac ymateb neu weithredu, fel y bo angen.
  • Gwirio platfformau cyfathrebu digidol a sgriniau ar y cwmpas yn rheolaidd am ddiweddariadau a chyhoeddiadau, a chwblhau unrhyw dasgau yn amserol.
  • Cadw manylion cyswllt yn gyfredol.
  • Ymgyfarwyddo â gwybodaeth sydd ar gael am ffioedd cyrsiau a chostau astudio cysylltiedig.
  • Talu ffioedd dysgu a chostau eraill o fewn yr amserlen berthnasol.
  • Rhoi gwybod i’r Brifysgol ynghylch p’un ai Cymraeg, Saesneg neu’n ddwyieithog yw eu dewis iaith ar gyfer cyfathrebu am fater.

Mae’r Brifysgol yn ymrwymo i:

  • Ddarparu amgylchedd addysgol blaengar sy’n cefnogi myfyrwyr i gyflawni eu huchelgeisiau personol a phroffesiynol a deilliannau graddedig cydnabyddedig, trwy nodi a chysylltu eu dysgu o weithgareddau cwricwlaidd ac allgwricwlaidd.
  • Darparu mynediad at gyngor gyrfaol, datblygu sgiliau (trwy fenter Siapio Eich Dyfodol) a chyfleoedd i wella cyflogadwyedd trwy atgyfeiriadau a chyfeirio at y Gwasanaeth Gyrfaoedd.
  • Darparu cyfleoedd a chefnogaeth i astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor i wella sgiliau meddal, cyfathrebu traws-ddiwylliannol, a rhagolygon gyrfaol. 
  • Rhoi cyfle i fyfyrwyr sy’n astudio ar gampysau Caerdydd gael cydnabyddiaeth ar gyfer gweithgareddau allgwricwlaidd wedi’u dilysu, trwy Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR).

Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymo i:

Mae Myfyrwyr yn ymrwymo i:

  • Ymgysylltu â’r cyfleoedd datblygu personol a phroffesiynol sydd wedi’u cynnwys yn y cwricwlwm trwy archwilio pa gyfleoedd sydd ar gael trwy’r opsiynau astudio a ddewisoch.
  • Cymryd perchnogaeth ar ddatblygiad personol a phroffesiynol ychwanegol, a allai gynnwys cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau allgwricwlaidd a chyd-gwricwlaidd sydd ar gael trwy’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ychwanegol ac ennill profiad.
  • Ymgyfarwyddo â Siapio Eich Dyfodol (SYF) ac Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch 6.1 (HEAR) i gofnodi eu hymgysylltiad â gweithgareddau allgwricwlaidd wedi’u dilysu.
  • Ymgyfarwyddo ag unrhyw godau proffesiynol perthnasol a dilyn unrhyw safonau a osodwyd.

Cymhwyso

Mae Siarter Myfyrwyr hon yn berthnasol i bob myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglen astudio yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26.

Datganiad Amddiffyn Myfyrwyr

Bydd y Brifysgol yn cyflawni ei hymrwymiadau cytundebol i fyfyrwyr ac yn cydymffurfio â’i hymrwymiadau o dan gyfraith defnyddwyr fel y’u hamlinellir gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA). Trwy wneud hynny, bydd prifysgolion yn gweithio i amddiffyn buddiannau myfyrwyr wrth ymateb i amgylchiadau fel newidiadau sylweddol i’r ffordd o gyflwyno cwrs, neu derfynu cwrs. Mae gan y Brifysgol weithdrefnau ar waith i ymateb i’r amgylchiadau hyn, a fydd yn lliniaru’r effaith bosibl ar fyfyrwyr ac sy’n cydnabod gwahanol anghenion ei chorff myfyrwyr amrywiol.

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth am y Siarter Myfyrwyr hon, cysylltwch â: