Skip to content

Cwynion

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau o ansawdd uchel. Rhan annatod o hyn yw monitro a gwerthuso'r gwasanaethau hynny i wella ansawdd ac i sicrhau bod safonau penodol yn cael eu bodloni.

Rydym yn croesawu adborth gan fyfyrwyr, staff a'r cyhoedd sy'n dweud wrthym pryd rydym wedi perfformio'n dda a phryd y gallem wella, ac rydym yn annog pob sylw sy'n ein helpu i wella ein gwasanaeth.

Ar adegau pan nad yw mecanweithiau adborth yn ddigonol i ddelio â materion a godwyd, mae gan y Brifysgol Bolisi a Gweithdrefn Cwynion ffurfiol.

Mae'r weithdrefn gwyno yn cynnwys tri cham i ganiatáu i faterion gael eu datrys mor effeithlon â phosibl cyn gynted â phosibl:

 

Cam 1

Datrys yn gynnar ar lefel leol

Codi materion yn uniongyrchol gyda'r gyda'r sawl yr ydych yn delio ag ef i sicrhau datrysiad cynnar.

Cam 2

Ymchwiliad Ffurfiol

Asesu tystiolaeth ac ystyried y canlyniad a ddymunir – penderfynu a fydd y gŵyn ffurfiol yn cael ei chadarnhau ai peidio.

Cam 3

Cyfnod adolygu

Adolygiad diduedd er mwyn gwirio bod y prosesau cywir wedi'u dilyn.

 

Sut i wneud Cwyn

Os oes gennych chi bryder, dylech godi’r mater yn lleol gyda'r sawl yr ydych yn delio ag ef ar unwaith e.e. gyda'r staff sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth penodol neu gyda thîm eich rhaglen os yw'n ymwneud â chwrs prifysgol – gelwir hyn yn ddatrysiad cynnar (Cam Un uchod).

Os nad ydych yn gallu datrys y mater yn lleol neu os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, dylech e-bostio complaints@cardiffmet.ac.uk gyda chymaint o wybodaeth â phosibl, gan gynnwys;

  • Eich enw
  • Eich manylion (rhif myfyriwr, staff, ymwelydd, aelod o’r cyhoedd)
  • Manylion eich cwyn (beth, ble, pryd)
  • Camau a gymerwyd i’w ddatrys yn anffurfiol (gan gynnwys dyddiadau)
  • Canlyniad a geisir
  • Tystiolaeth ategol (negeseuon e-bost, sgrinluniau ac ati)

Bydd eich cŵyn cael ei asesu gan y tîm Cwynion ac Ymddygiad a fydd yn cadarnhau'r camau priodol nesaf ac a ellir ystyried y materion a godwyd fel cwyn ffurfiol.

Cymhwysedd

Mewn rhai achosion, efallai na fydd y Polisi a'r Weithdrefn Cwynion yn ffordd briodol o ddatrys y gŵyn– gweler y tabl isod

Os oes amheuaeth, gellir gofyn am gyngor gan y Tîm Cwynion, a fydd yn eich cynghori a ddylid dilyn gweithdrefn arall.

Myfyrwyr mewn sefydliad partner

Dylid codi cŵyn trwy weithdrefn fewnol y sefydliad partner yn gyntaf. Os ydych yn anfodlon â chanlyniad y weithdrefn leol, gellir ystyried cwyn o dan Gam Tri (Adolygu) o weithdrefn Met Caerdydd os yw'n ymwneud e.e. â safonau academaidd a/neu ansawdd cyfleoedd dysgu.

Natur y mater Polisi/Gweithdrefn Berthnasol

Aflonyddu a Bwlio 

Gweithdrefn Disgyblu Myfyrwyr – myfyrwyr

Polisi Aflonyddu a Bwlio - staff

Canlyniadau academaidd 

Gweithdrefn Apelio

Gweithdrefnau Undeb y Myfyrwyr 

Gweithdrefn Cwyno Undeb y Myfyrwyr 

Cod Ymddygiad Aelodaeth Undeb y Myfyrwyr 

Cwynion staff 

Polisi Cwynion Staff

Materion Disgyblu neu Gamymddwyn (e.e. honiadau o ymddygiad troseddol)

Gweithdrefn Disgyblu Myfyrwyr

Gweithdrefn Disgyblu Staff

Polisi ar Ddefnyddio Gwybodaeth Dwyllodrus, Ffug, Anghywir neu Gamarweiniol i gael Mynediad i'r Brifysgol

Polisi Asesu Myfyrwyr Go Iawn

Materion ariannol 

Gweler Hyb Polisi ar gyfer Rheoliadau Ariannol a pholisïau sy'n gysylltiedig â chyllid 

Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol 

Polisi Rhyddid Gwybodaeth

Polisi Diogelu Data  

Defnyddio'r Weithdrefn Gwyno – Cwestiynau Cyffredin

Mae'r Polisi a'r Weithdrefn Cwynion ar gael i'w defnyddio gan fyfyrwyr, staff ac aelodau o'r cyhoedd.

Lle bo'n bosibl, dylai'r unigolyn dan sylw gyflwyno cŵyn. Os derbynnir cŵyn gan drydydd parti (e.e. rhiant neu warcheidwad), bydd protocolau diogelu data yn cael eu dilyn.

Gellir defnyddio'r Weithdrefn Gwyno i godi pryderon am bolisïau, prosesau, cyfleusterau neu wasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol neu am gamau gweithredu neu ddiffyg camau gan y Brifysgol neu ei staff.

Pan fo pryderon yn ymwneud â materion nad oes gan y Brifysgol awdurdodaeth drostynt ac na all gymryd unrhyw gamau, ni fydd cŵyn ffurfiol yn cael ei hystyried. Er enghraifft, os yw rhywun yn dymuno cwyno am barcio diystyriol oddi ar y campws, dylid cyfeirio pryderon at y cyngor lleol neu'r heddlu.

Mae'r Polisi a'r Weithdrefn Cwynion yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â chyfleusterau, darpariaeth neu ddarparu cyrsiau, llety ond nid dyma'r mecanwaith i adolygu neu newid canlyniad academaidd.

Os yw myfyriwr yn dymuno codi mater sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'i asesiad academaidd (canlyniad y Bwrdd Arholi neu bwyllgor), mae'n debygol y bydd angen iddynt gyflwyno apêl. Gellir dod o hyd i wybodaeth am Apeliadau academaidd ar ein gwefan.

Dim ond canlyniad academaidd y gall y gweithdrefnau apelio ei ddarparu a rhaid ei godi o fewn amserlenni penodol yn syth ar ôl derbyn canlyniadau academaidd neu ganlyniadau pwyllgor.

Enghreifftiau pan fydd y Brifysgol yn cadw'r hawl i beidio ag ystyried y gŵyn ar gyfer ymchwiliad Cam Dau:

  • Gwneir y cais y tu allan i'r amserlen a nodwyd
  • Mae'r mater a godwyd wedi cael ei ystyried ac wedi derbyn ymateb sy’n ddigonol ac nid oes unrhyw gamau pellach y gallai'r Brifysgol eu cymryd yn rhesymol
  • Mae'r cais yn cael ei ystyried yn faleisus neu'n aflonyddgar
  • Os gwneir y gŵyn yn ddienw
  • Dylid ymdrin â'r achos trwy bolisi/gweithdrefn wahanol

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i beidio ag ymchwilio neu weithredu ar gwynion dienw, y rhai a godwyd ar ran trydydd parti dienw neu pan fydd trydydd parti yn gwneud cŵyn ar ran rhywun arall heb eu caniatâd ysgrifenedig.

Ydyn. Os oes pryder / mater cyffredin rhwng grŵp o fyfyrwyr a'u bod yn dymuno dod â'r mater i sylw'r Brifysgol, yna mae hyn yn bosibl. Gweler rhagor o wybodaeth yn y Polisi a Gweithdrefn Cwynion.

Oes, ni fydd cŵyn fel arfer yn cael ei hystyried heb dystiolaeth ategol.

Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • Gwybodaeth gyhoeddedig
  • Gohebiaeth (e.e. negeseuon e-bost)
  • Tystiolaeth feddygol
  • Adroddiadau gan weithwyr proffesiynol
  • Gwybodaeth ariannol
  • Datganiadau gan dystion

Dylai unrhyw sgrinluniau gael enw/rhif myfyriwr (a lle bo'n bosibl, y dyddiad) yn amlwg.

Os yw unrhyw wybodaeth/tystiolaeth yn ymwneud â pherson arall, rhaid i chi sicrhau bod gennych eu caniatâd i'w rhannu ac esbonio yn eich cwyn â phwy mae'r dystiolaeth yn cyfeirio ato.

Os cyflwynir eich cŵyn fwy na Tri mis ar ôl y digwyddiad perthnasol, mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i beidio â'i ystyried.

Dylid cyflwyno cŵyn ffurfiol o fewn 10 diwrnod gwaith o'r dyddiad y methwyd dod i ddatrysiad cynnar. 

E-bostiwch complaints@cardiffmet.ac.uk gyda chymaint o wybodaeth â phosibl, gan gynnwys yr isod. Os nad ydych yn cynnwys yr holl wybodaeth isod, gall hyn arwain at oedi wrth ymchwilio i'ch cŵyn.

  • Enw (a rhif myfyriwr, os yw'n briodol)
  • Eich manylion - p'un a ydych chi'n fyfyriwr, aelod o staff, ymwelydd neu aelod o'r cyhoedd
  • Manylion eich cŵyn (beth, ble, pryd)
  • Unrhyw gamau a gymerwyd i ddatrys eich cŵyn yn anffurfiol (gan gynnwys dyddiadau)
  • Canlyniad a geisir
  • Tystiolaeth Ategol

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i'r egwyddor o drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae gennych hawl i gyflwyno cŵyn yn Gymraeg ac os ydych yn nodi y byddai'n well gennych dderbyn gohebiaeth a gwybodaeth gysylltiedig yn y dyfodol drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd y Brifysgol yn ymdrechu i hwyluso hyn.

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd yn angenrheidiol nac yn ddefnyddiol i achwynydd gael ei gynrychioli'n gyfreithiol a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol iawn y byddai hyn yn briodol. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at y tîm cwynion.

Ein nod yw rhoi canlyniad i'ch cwyn cyn gynted â phosibl, fel arfer o fewn 30 diwrnod gwaith.

Mewn rhai achosion lle mae'r cwynion yn gymhleth, os yw sawl person yn cymryd rhan neu pan nad yw pobl allweddol ar gael i gymryd rhan yn yr ymchwiliad, gall cŵyn gymryd mwy o amser. Fodd bynnag, bydd y tîm yn eich diweddaru ar gynnydd eich cŵyn ac yn rhoi gwybod i chi pryd y byddwch chi'n derbyn canlyniad/diweddariad a'r rhesymau dros unrhyw oedi.

Nid yw pob cŵyn yn cael ei chadarnhau ac rydym yn gwerthfawrogi bod yr achwynydd yn annhebygol o fod yn hapus â chanlyniad Cam Dau mewn achos o'r fath, fodd bynnag, dim ond os bodlonir rhai seiliau y gellir uwchgyfeirio cŵyn (gweler isod).

Os ydych chi'n credu bod canlyniad ymchwiliad Cam Dau yn afresymol neu os nad yw elfen o’ch cŵyn wedi'i hystyried yn llawn, gallwch ofyn am adolygiad o'r ymchwiliad (Cam Tri) o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn canlyniad Cam Dau.

Dylid cyflwyno cais am adolygiad drwy e-bost i complaints@cardiffmet.ac.uk ond dim ond ar un neu ragor o'r seiliau canlynol y caiff ei dderbyn:

  • bod gwall gweithdrefnol wedi bod yn yr ymchwiliad Cam Dau;
  • bod tystiolaeth newydd ar gael, na ellid disgwyl yn rhesymol i chi ei chynhyrchu yn gynharach;
  • nad oedd y canlyniad yn rhesymol yn yr amgylchiadau.

Os derbynnir y cais, bydd ymchwiliad Cam Dau yn cael ei adolygu gan rywun nad yw'n rhan o'r camau cynharach.

Ar ddiwedd yr adolygiad, bydd unrhyw argymhellion yn cael eu cyfathrebu i bawb sy'n cymryd rhan ac efallai y bydd llythyr Cwblhau Gweithdrefnau (COP) yn cael eich cyhoeddi.

Mae'r OIA (Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol) yn ombwdsmon allanol sy'n ystyried apeliadau a chwynion sy'n ymwneud â'r sector Addysg Uwch yng Nghymru a Lloegr.

Unwaith y bydd myfyriwr wedi mynd ar drywydd apêl neu gŵyn trwy weithdrefnau eu prifysgol eu hunain, os nad ydynt yn hapus o hyd, mae ganddynt hyd at ddeuddeg mis i wneud cwyn i'r OIA a fydd yn ymchwilio, os yw'r gŵyn yn gymwys. Er mwyn cyflwyno cwyn i'r OIA, rhaid i fyfyriwr fod wedi derbyn 'llythyr Cwblhau Gweithdrefnau' sy'n nodi sut mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymchwilio i'r mater(au).

Cyngor, Cefnogaeth a Chynrychiolaeth

Mae cyngor gweithdrefnol ar gael gan y tîm Cwynion y gellir cysylltu â nhw drwy e-bost yn complaints@cardiffmet.ac.uk.

Mae cymorth a chyngor annibynnol ar gyflwyno cwyn hefyd ar gael i fyfyrwyr Met Caerdydd gan Undeb y Myfyrwyr.

Gall achwynydd, unrhyw berson y mae cŵyn wedi’i gyflwyno yn eu herbyn neu unrhyw dystion ddod ag unigolion gyda nhw i’r cyfarfod (e.e. ffrind, aelod o'r teulu, swyddog Undeb y Myfyrwyr neu undeb proffesiynol). Fodd bynnag, ni allant siarad ar ran neu gynrychioli'r unigolyn oni bai ei fod wedi'i gytuno ymlaen llaw fel addasiad rhesymol oherwydd anabledd.