Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Met Caerdydd
Mae Cangen Met Caerdydd yn gymdeithas o fyfyrwyr a staff sy'n awyddus i hybu addysg a chyfleoedd cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr a staff ac sy'n cydweithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau hyn.
Y Coleg Cymraeg sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru. Mae’r Coleg yn cyflawni hyn drwy weithio yn effeithiol mewn partneriaeth gyda phrifysgolion, sefydliadau addysg bellach a darparwyr prentisiaethau i adeiladu cyfundrefn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg gynhwysol o’r radd flaenaf.
Ymaelodi
Mae cannoedd o fyfyrwyr a nifer sylweddol o staff ar draws y Brifysgol yn aelodau o'r Gangen a mae cyfle hefyd i unrhyw fyfyriwr neu aelod staff ddod yn aelod. Am fwy o wybodaeth am y Coleg neu i ddod yn aelod dilynwch y ddolen isod:
Ymaelodi | Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Drwy ddod yn aelod cewch y canlynol:
- Gwybodaeth am ddigwyddiadau cymdeithasol y Gangen gan gynnwys Cinio Blynyddol a dathliadau Gŵyl Dewi
- Gwybodaeth am raglenni hyfforddiant a datblygiad staff Cenedlaethol
- Gwybodaeth am ddatblygiadau Cenedlaethol
- Cynnig am Dystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg
- Derbyn Ysgoloriaeth gwerth £1500!
Cysylltu
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau'r Gangen neu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cysylltwch â Dr Bedwyr ab Ion Thomas, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg yn y Met (metcaerdydd@colegcymraeg.ac.uk).
Dr Bedwyr ab Ion Thomas
Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Prifysgol Metropolitan Caerdydd,
Campws Llandaf,
Rhodfa’r Gorllewin,
Caerdydd,
CF5 2YB
Cofiwch ddilyn ein cyfrif Cangen Met Caerdydd ar Instagram hefyd i glywed y diweddaraf am ddigwyddiadau a’r cyfleoedd diweddaraf!