Skip to content

Strwythur y Gangen Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Pwyllgor y Gangen

  • Cadeirydd y Gangen: Dr Bethan Gordon
  • Swyddog y Gangen: Dr Bedwyr ab Ion Thomas
  • Swyddog Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Gymraeg: Mari Williams

Pwrpas Pwyllgor y Gangen o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw datblygu ac arolygu darpariaethau academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Met. Mae’r Gangen yn sicrhau bod safbwyntiau a blaenoriaethau’r gymuned academaidd yn cael eu clywed a’u hadlewyrchu wrth ddatblygu darpariaeth addysg cyfrwng Gymraeg yn y Met.

Llysgenhadon

Trwy fod yn llysgennad, mae myfyrwyr yn cael y cyfle i hyrwyddo’r Gymraeg yn eu prifysgol ac i gyfrannu at weithgareddau marchnata’r Coleg Cymraeg, gan annog defnydd parhaus o’r Gymraeg o’r ysgol hyd at y gweithle. Mae’r rôl yn cynnwys ymweld ag ysgolion, trefnu digwyddiadau, cymryd rhan mewn cyfweliadau, ysgrifennu blogiau, a sicrhau bod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y Met yn weledol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Llysgenhadon Is-raddedig

  • Josh Withers: BSc (Anrh) Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Dwyieithog
  • Luned Jones: BSc (Anrh) Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Dwyieithog

Llysgenhadon Ôl-raddedig

  • Emma Grigorian: PhD, Seicoleg, Caffaeliad Iaith a Rhyngweithio Dynol-Cyfrifiadurol