Tystysgrif Sgiliau Iaith
Mae Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig tystiolaeth swyddogol o sgiliau iaith Gymraeg, gan ddangos gallu i ddefnyddio’r iaith yn y gweithle. Mae’r cymhwyster hwn ar gael i fyfyrwyr is-raddedig, ôl-raddedig, a staff prifysgolion yng Nghymru, yn rhad ac am ddim, ac mae’n ffordd wych o fagu hyder mewn dwy-ieithrwydd gan gynnig mantais gystadleuol i ymgeiswyr yn y byd gwaith.
Mae'r Dystysgrif wedi ennill cydnabyddiaeth eang o’i gwerth a’i phwysigrwydd mewn byd gwaith, gyda nifer o gyflogwyr eisoes yn cefnogi’r cymhwyster, megis Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ITV Cymru, Llywodraeth Cymru, a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae’r Dystysgrif yn cynnwys dwy ran: cyflwyniad llafar a phrawf ysgrifenedig, a ceir gwybodaeth fanwl i ymgeiswyr ar wefan y Coleg.
Darparir sesiynau paratoi ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio’r cymhwyster hwn gan y brifysgol, gan gynnwys golygu a chywiro testun, cyflwyniadau llafar effeithiol, a thrawsieithu.
Gellir cofrestru ar gyfer y Dystysgrif drwy wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.