Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae gan y Met nifer o gyrsiau lle mae bosib astudio rhan o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma rhestr o'r cyrsiau hynny:
Os wyt ti ar un o'r cyrsiau is-raddedig hyn ac am dderbyn ysgoloriaeth (hyd yn oed os nad wyt ti wedi dewis astudio yn Gymraeg eto), yna cysyllta â Dr Bedwyr ab Ion Thomas (Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg) metcaerdydd@colegcymraeg.ac.uk.
Ysgoloriaeth Cymhelliant (£1,500)
Er mwyn derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant mae'n rhaid astudio o leiaf 1/3 (40 credyd) o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhoddir £500 y flwyddyn dros hyd y cwrs hyd at £1,500.
Prif Ysgoloriaeth (£3,000)
Er mwyn derbyn Prif Ysgoloriaeth mae’n rhaid astudio o leiaf 2/3 (80 credyd) o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhoddir £1,000 y flwyddyn dros hyd y cwrs hyd at £3,000. Nifer cyfyngedig o'r Prif Ysgoloriaethau sydd ar gael, a bydd y Brifysgol yn enwebu unigolion i dderbyn yr Ysgoloriaeth hon.
Ysgoloriaethau Eraill
Mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau eraill, megis ysgoloriaethau ôl-raddedig, a gellir darganfod ychwaneg o wybodaeth yn eu cylch drwy ddilyn y ddolenni hyn: Ysgoloriaethau | Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Ysgoloriaethau Ymchwil | Coleg Cymraeg Cenedlaethol.