Llais y Myfyrwyr
Mae gan Undeb y Myfyrwyr Swyddog Cymraeg sy’n cynrychioli ein myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg. Mae’r swyddog yn aelod o bwyllgorau Cymraeg y Brifysgol er mwyn sicrhau bod llais ein myfyrwyr yn ganolog i’n holl weithrediadau.
- Mae Pwyllgor Defnyddio’r Gymraeg yn:
- Goruchwylio gweithrediad a monitro Safonau’r Gymraeg
- Sicrhau bod ein gwasanaethau Cymraeg yn hygyrch ac o ansawdd uchel
- Helpu normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y Brifysgol
- Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Dewch i wybod ein Swyddog Cymraeg
Dewch i wybod mwy am Lia Huws, ein Swyddog Cymraeg ar gyfer 2025-26.
O ble wyt ti'n dod?
Rwyf yn dod o Ynys Môn.
Pa gwrs wyt ti'n astudio?
Rwyf newydd ennill gradd mewn Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol a bellach yn mynd ymlaen i astudio cwrs Meistr mewn Maeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Sut brofiad wyt ti wedi’i gael fel myfyrwraig Cymraeg ym Met Caerdydd?
Fel myfyriwr Cymraeg, mae’r tair blynedd diwethaf wedi bod yn bositif iawn gyda digon o hwyl. Roedd yn braf cael parhau gyda fy astudiaethau yn y Gymraeg, ynghyd a’r cyfle i gymdeithasu a chreu ffrindiau newydd gan ddefnyddio’r iaith.
Beth hoffet ti wneud i gefnogi myfyrwyr Cymraeg Met Caerdydd?
Hoffwn fod yn llais cadarn i gynrychioli ac uno mwy o fyfyrwyr Cymraeg Met Caerdydd. Un agwedd dw i wedi sylweddoli dros y tair blynedd diwethaf, yw bod gymaint o fyfyrwyr Cymraeg ddim yn ymwybodol o’r nifer o siaradwyr Cymraeg sydd o fewn y Brifysgol tu hwnt i’r cyrsiau dwyieithrwydd, ynghyd a’r adnoddau ychwanegol sydd ar gael. Felly fy ngobaith yw dod a ni at ein gilydd er mwyn parhau i gryfhau'r gymuned Gymraeg o fewn Met Gaerdydd.
Sut gall myfyrwyr rannu eu safbwyntiau a’u syniadau gyda ti?
Peidiwch ag oedi i ddod ata i os oes gyda chi unrhyw gwestiwn, safbwynt neu syniad rydych eisiau rhannu. Mae modd cysylltu â mi dros e-bost SUswyddogcymraeg@cardiffmet.ac.uk neu os ydych chi’n digwydd fy ngweld i o gwmpas y campws plîs dewch am sgwrs!