Gan gydweithio gydag athrawon, ar gyfer athrawon, fel athrawon, i ysbrydoli meddyliau Cymru yn y dyfodol — mae'r Partneriaeth Caerdydd yn cydweithio â sefydliadau blaenllaw i ddarparu addysg ymarferol o ansawdd uchel i athrawon.
Y Partneriaeth Caerdydd
Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn cynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd a'i hysgolion cysylltiedig, yn gweithio ar y cyd â Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd, Consortiwm Canolbarth y De (CSC), Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg (EAS), a Chyngor Dinas Caerdydd.
Gyda'i gilydd, mae Partneriaeth Caerdydd yn cydweithredu er mwyn sicrhau bod ein hathrawon dan hyfforddiant nid yn unig yn cyflawni, ond yn ceisio rhagori ar y safonau proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC) trwy addysg broffesiynol o ansawdd uchel sy'n drylwyr yn ymarferol ac yn heriol yn ddeallusol.
Yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac amcanion Prifysgol Metropolitan Caerdydd, nod Partneriaeth Caerdydd yw bod yn lle teg a chroesawgar ar gyfer pob athro dan hyfforddiant a staff sydd ynghlwm wrth addysg gychwynnol i athrawon. Mae hyn yn golygu bod yn rhagweithiol wrth addysgu am y gwahanol fathau o hiliaeth gan sicrhau bod pob rhanddeiliad yn dangos ymrwymiad at arfer gwrth-hiliol ac at les y gymdeithas gyfan.
'Emma a Tom Talk Teaching' yw ein podlediad, a gyflwynir gan ddarlithwyr Met Caerdydd, Emma O'Dubhchair a Tom Breeze, sy’n dod â thrafodaethau dwfn, cyfweliadau manwl ac adolygiadau o’r llyfrau a’r erthyglau diweddaraf am addysg i chi.
Gallwch chi hefyd wrando ar ein pennod 'So you want to be a teacher?' i glywed rhagor am sut beth yw astudio gyda ni, a sut i wneud yn siŵr eich bod chi’n barod am y cyfweliad.
01 - 01
Profiad Myfyrwyr a Graddedigion
01 - 08
Mae Siôn Peter Davies, a raddiodd mewn Hanes Uwchradd TAR, yn dweud wrthym am ei brofiad hyfforddi athrawon ym Met Caerdydd
Mae Hari Truman, a raddiodd mewn TAR Cynradd, yn dweud wrthym am ei phrofiad hyfforddi athrawon ym Met Caerdydd