Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA - Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Student teacher photographed in their classroom Student teacher photographed in their classroom
01 - 02

Yma ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd rydym yn darparu llawer o gyfleoedd amrywiol ac unigryw i astudio Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) drwy gyfrwng y Gymraeg.

Teacher smiles at pupil Teacher smiles at pupil

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Cyflwynir darlithoedd gan ein staff brwdfrydig sy’n brofiadol iawn yn eu meysydd arbenigol. Gyda’n cyrsiau hyblyg ac amrywiol mae’n bosibl dilyn eich cwrs yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy’r Gymraeg.

Mae Met Caerdydd yn awyddus i helpu a chefnogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith mewn awyrgylch gefnogol a chynhwysol.

 

Astudio trwy gyfrwng y GymraegAstudio trwy gyfrwng y Gymraeg
01 - 04

Ein Cyrsiau Darpariaeth Gymraeg

01 - 04

Pam astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Met Caerdydd?

  • Bydd y Gymraeg yn cael lle amlwg iawn yn y cwricwlwm newydd sydd i ddechrau mewn ysgolion Cymraeg a hefyd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Gyda chymhwyster AGA o Brifysgol Met Caerdydd bydd yn bosibl ymgeisio am swyddi yn y ddau sector, felly cyfle gwych ar gyfer swyddi yn y dyfodol yn enwedig gyda thwf ysgolion cyfrwng Cymraeg.
  • Mae’r gymuned AGA Cymreig ym Met Caerdydd yn agos ac rydym yn falch o’r gefnogaeth a roddwn i’n myfyrwyr. Mae ein grwpiau addysgu yn fach ac oherwydd hyn mae cefnoageth ar gael yn academaidd ac o ran lles myfyrwyr.
  • Yn Met Caerdydd rydym yn croesawu myfyrwyr sydd â chefndir iaith amrywiol. Rhoddir 25 awr i bob myfyriwr gefnogi a mireinio eu sgiliau iaith er mwyn magu hyder.
  • Yn ogystal, mae ein grŵp Pontio yn gynllun newydd sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer myfyrwyr sy’n llai hyderus y neu Cymraeg ond sydd am gryfhau’r iaith a’i defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

Dewch i Gwrdd â'r Tîm | Darpariaeth Gymraeg

Sioned Dafydd

Dewch i gwrdd â Sioned Dafydd, darlithydd mewn TAR Cynradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Gina Morgan

Dewch i gwrdd â Gina Morgan, darlithydd TAR Uwchradd Cymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Bethan Rowlands

Dewch i gwrdd â Bethan Rowlands, darlithydd mewn TAR Cynradd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Eisiau dysgu mwy am astudio gyda ni?
Dewch i'n gweld yn ein Diwrnodau Agored.

Archebu eich lle