Sefydlwyd Prifysgol Metropolitan (UWIC gynt) ym 1996 pan ddaeth
yn un o golegau Prifysgol Cymru. Fodd bynnag, mae gwreiddiau Prifysgol Metropolitan Caerdydd yng nghanol yr
1800au, ac mae'n falch iawn o'i hanes. Isod, ceir rhai o'r digwyddiadau
pwysig dros y 150 mlynedd ddiwethaf a ffurfiodd y Brifysgol presennol.
Yn gryno:
1865: Agorwyd yr Ysgol Gelf yn Adeilad yr Hen Lyfrgell Rydd, Heol Santes
Fair, Caerdydd.
1900: Symudwyd yr Ysgol Gelf i Adeiladau Technegol Dumfries
Place.
1940 (tua): Agorwyd Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd ar Heol
Crwys.
1949: Symudodd yr Ysgol Gelf i Dŷ'r Brodyr.
1950: Agorodd Coleg Hyfforddiant Caerdydd ym Mharc y Mynydd
Bychan.
1954: Agorodd Coleg Technegol Llandaf yn Rhodfa'r Gorllewin, Campws Llandaf
UWIC bellach.
1962: Symudodd Coleg Hyfforddiant Caerdydd i adeiladau newydd yng
Nghyncoed, Campws Cyncoed UWIC bellach.
1965: Symudodd y Coleg Celf a Dylunio (fel y gelwid Ysgol Gelf a Dylunio
Caerdydd bryd hynny) i adeiladau newydd yng Ngerddi Howard, Campws Gerddi Howard
UWIC bellach.
1966: Symudodd Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd i Rodfa Colchester,
Campws Rhodfa Colchester UWIC bellach.
1976: Unodd y pedwar coleg i greu Athrofa Addysg Uwch
Morgannwg.
1990: Newidiodd yr athrofa ei henw i Athrofa Addysg Uwch Caerdydd i baratoi
ar gyfer ei hymgorfforiad.
1992: Ym mis Ebrill, cafodd yr Athrofa ei hymgorffori. Bellach roedd yn
gorff annibynnol, nad oedd o dan awdurdod y cyngor sir
lleol.
1993: Rhoddwyd y pŵer i'r Athrofa ddyfarnu ei graddau ei hun, ond
penderfynodd gryfhau'r cysylltiadau presennol â Phrifysgol
Cymru.
1996: Daeth yr Athrofa yn goleg Prifysgol Cymru a newidiwyd ei henw i
Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC).
2004: Codwyd statws UWIC o fewn y Brifysgol o Goleg y Brifysgol i Sefydliad
Cyfansoddol, y lefel uchaf o aelodaeth.
2006: Dathlodd UWIC ei ben-blwydd yn ddeg oed.
Gwneir ymdrech
barhaol yn UWIC i gynnal a chodi'r safonau i bawb sy'n astudio yma. Yn 2007 UWIC
oedd y brifysgol gyntaf yn y DU y dyfarnwyd Nod Siarter Rhagoriaeth y
Llywodraeth iddi am y pumed tro. Mae UWIC yn ymrwymedig i bennu safonau uchel i
sicrhau bod yr addysg a gaiff ei myfyrwyr o'r safon uchaf ac yn atgyfnerthu
gweledigaeth, cenhadaeth, gwerthoedd ac arwyddair UWIC.
2011: UWIC yn mabwysiadu ei henw newydd, sef Prifysgol Metropolitan Caerdydd a thrwy hynny ddynodi'n genedlaethol ac yn rhyngwladol ei bod yn gadael Prifysgol Cymru. Bydd yr enw yn amlygu fwyfwy'r balchder yn ei lleoliad ym mhrifddinas Cymru fel Prifddinas Dysgu.
Mae'r brifysgol hon wedi bod yn rhan annatod o'r ddinas ers 1865. Rydym yn falch o fod yn brifysgol gref, gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, yr economi, lles cymdeithasol a diwylliannol Caerdydd a de ddwyrain Cymru.
Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd mae ymdrech barhaus i gynnal a chodi safonau i bawb sy'n astudio yma. Yn 2007, o dan ein henw blaenorol, UWIC oedd y brifysgol gyntaf yn y DU i ennill Nod Siarter am Ragoriaeth y Llywodraeth am y pumed tro. Rydym wedi ein hymrwymo i osod safonau uchel i sicrhau bod yr addysg a dderbynnir ein myfyrwyr o'r radd flaenaf ac yn atgyfnerthu ein gweledigaeth, cenhadaeth a'n harwyddair.