Cwestiynau Cyffredin Myfyrwyr Newydd
A: Bydd amserlenni'r Wythnos Groeso ar gael o 1 Medi 2025 ar adran glasfyfyrwyr y wefan. Byddwn hefyd yn anfon y ddolen atoch yn eich e-byst croeso. Bydd y rhain yn cynnwys manylion eich sesiwn academaidd gyntaf. Bydd eich cyfarwyddwr rhaglen hefyd yn cysylltu â chi ym mis Medi i rannu'r wybodaeth hon, ac unrhyw beth arall y mae angen i chi ei wybod sy'n benodol i'ch cwrs.
Gallwch weld amserlen eich cwrs (ar ôl yr Wythnos Groeso) ar ôl i chi gofrestru ar y dudalen hon.
A: Gallwch weld dyddiadau’r tymhorau ar y dudalen hon.
A: Unwaith y bydd eich lle wedi'i gadarnhau a'ch bod wedi cwblhau'r broses ymrestru ar-lein, gallwch lanlwytho ffotograff ar gyfer eich Cerdyn Met. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.
A: Ar ôl i chi gwblhau'r broses ymrestru ar-lein, bydd eich manylion mewngofnodi defnyddiwr Met Caerdydd yn cael eu hanfon i'ch cyfeiriad e-bost personol. Unwaith y bydd gennych eich cyfrif Met Caerdydd, gallwch ddefnyddio eich e-bost drwy'r ap Outlook y gallwch chi ddod o hyd iddo drwy'r adran Apps ar dudalen hafan Microsoft 365.
GAIR O GYNGOR: Eich enw defnyddiwr Met Caerdydd ar gyfer gwasanaethau Microsoft yw st[eich rhif myfyriwr]@outlook.cardiffmet.ac.uk e.e. st12345678@outlook.cardiffmet.ac.uk – peidiwch ag anghofio'r rhan @outlook.cardiffmet.ac.uk!
A: Defnyddiwch yr ap geteduroam i gysylltu â'r rhwydwaith eduroam. Mae eich enw defnyddiwr ar gyfer cysylltu ag eduroam ychydig yn wahanol i'ch enw defnyddiwr ar gyfer gwasanaethau Microsoft! Eich enw defnyddiwr yw st[eich rhif myfyriwr]@cardiffmet.ac.uk (dim "outlook" yn yr ôl-ddodiad). Mae manylion llawn ar gael yng nghanllaw wybodaeth Halo: Halo - Connect to Cardiff Met's Wi-Fi - preferred method
A: Gallwch ailosod eich cyfrinair drwy'r system Rheoli Cyfrinair.
A: Moodle yw eich amgylchedd dysgu ar-lein, a fydd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o'ch rhaglen astudio.
Dim ond un o'r systemau a'r meddalwedd pwysig y byddwch chi'n eu defnyddio ym Met Caerdydd yw Moodle. Pan fyddwch chi wedi ymrestru, bydd angen i chi gwblhau'r broses sefydlu Hanfodion Digidol, sy'n cyflwyno systemau a gwasanaethau TG hanfodol eraill ac yn archwilio sut y gallwch eu defnyddio'n ddiogel; gofalwch eich bod yn cwblhau'r broses.
A: Bydd, bydd angen gliniadur arnoch i gefnogi eich astudiaethau. Does dim angen iddo fod yn un drud. Ar ôl i chi ymrestru, edrychwch ar ein cyngor ar brynu dyfais. Rydym hefyd yn cynnig cynllun benthyca gliniadur am ddim o'r sêffs gliniaduron ar lawr gwaelod y Canolfannau Dysgu ar y ddau gampws. Mae benthyciadau hirach hefyd ar gael am hyd at fis yn ystod y tymor, ar gael o'r Desgiau Cymorth.
A: Gall pob myfyriwr osod Office (Word, Excel, PowerPoint, Outlook a Teams) am ddim. Pan fyddwch chi wedi ymrestru, gallwch weld y canllawiau Halo i gael gwybodaeth: Halo - Install Microsoft 365 Apps. Efallai y bydd eich cwrs yn gofyn i chi ddefnyddio meddalwedd arall yn ystod eich astudiaethau, fel Adobe Creative Cloud. Mae'r pecynnau meddalwedd hyn ar gael ar gyfrifiaduron y Canolfannau Dysgu, yn y cnawd ac yn aml o bell drwy Find A PC. Gallwch hefyd osod llawer o raglennni ar eich dyfais bersonol eich hun. Dydyn ni ddim yn argymell prynu unrhyw feddalwedd eich hun nes i chi weld beth sydd ar gael drwy Met Caerdydd.
A: Pan fyddwch wedi ymrestru, y ffordd fwyaf cyfleus o gael help yw drwy ddefnyddio Porth Help Halo. Mae Halo yn cynnwys llwyth o erthyglau a all eich helpu chi i ddatrys problem eich hun. Os na allwch chi ddod o hyd i ateb, gallwch sgwrsio ag aelod o staff y ddesg gymorth neu gofnodi tocyn gyda manylion eich problem. Gellir defnyddio Halo i gael help TG nawr, ond cyn bo hir bydd Halo yn gallu helpu gydag ymholiadau eraill Met Caerdydd - fel cwestiynau am ymrestru, llety a'r llyfrgell.
A: Ar ôl i chi gwblhau'r broses ymrestru, gallwch ddefnyddio eich mewnrwyd myfyrwyr – MetCanolog. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y dudalen MetCanolog hon. Gallwch hefyd ddefnyddio'r ap myfyrwyr CampusM.
A: Mae llawer o wybodaeth ar ein tudalennau llety ac ar dudalen 'Symud i mewn i Neuadd Breswyl' yr hyb glasfyfyrwyr. Gallwch gysylltu â'n tîm llety drwy e-bostio accomm@cardiffmet.ac.uk neu ffonio 029 2041 6188.
Bydd holl fyfyrwyr Met Caerdydd ar gyfer 2025-26 yn gallu cael aelodaeth Met Actif am ddim, gyda mynediad diderfyn i'r campfeydd yn Llandaf a Chyncoed, ynghyd â'r pwll nofio yng Nghyncoed, am y flwyddyn gyfan.
I gofrestru am ddim, lawrlwythwch:
Mae rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i gadw’n heini a defnyddio cyfleusterau chwaraeon yma. Gallwch ddysgu mwy am ymuno â chlwb neu gymdeithas ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
A: Mae yna lawer o lefydd i gael pryd poeth, coffi, byrbryd a'ch hanfodion ar draws ein dau gampws. Mae gwybodaeth am gyfleusterau campws, gan gynnwys ein holl leoliadau arlwyo, ar MetCanolog, y gallwch ei ddefnyddio pan fyddwch chi wedi ymrestru.
A: Oes. Os ydych chi'n symud i'r ardal, mae'n bwysig cofrestru'n gynnar gyda meddyg teulu lleol fel y gallwch gael cymorth yn gyflym pan fydd ei angen arnoch. Mae cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghaerdydd a'r Fro yn rhwydd. Yn syml, dewch o hyd i feddygfa sy'n agos i’ch cyfeiriad prifysgol a chysylltwch â'r feddygfa i weld a ydyn nhw'n derbyn cleifion newydd.
Bydd cyfle i fyfyrwyr gofrestru gyda Meddyg Teulu yn ystod Ffair y Glas Undeb y Myfyrwyr ar ddydd Mercher, 24 Medi.
NEU
Gallwch ddod o hyd i feddygfa sy'n agos at eich cyfeiriad newydd yma.
I gofrestru, gallwch naill ai gasglu ffurflen o'r feddygfa ei hun neu gofrestru ar-lein os yw'r cyfleuster hwnnw ar gael. Edrychwch ar wefan y feddygfa i weld a yw hyn yn bosibl.
I gofrestru gyda meddyg teulu, bydd angen y canlynol arnoch:
- Eich tref a'ch gwlad enedigol
- Eich cyfeiriad yn ystod y tymor
- Cyfeiriad eich meddygfa deulu flaenorol
Gallwch astudio unrhyw le sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd gan y bydd ChwilioMet yn gadael i chi gael gafael ar e-lyfrau a bydd Moodle yn gadael i chi gael gafael ar gynnwys eich cwrs ar-lein. Mae'r mannau astudio ar y campws yn cynnwys y llyfrgelloedd yng Nghyncoed a Llandaf. Mae gan y llyfrgell staff cyfeillgar sy'n barod i helpu ac ystod eang o gyrsiau hyfforddi, teithiau ac adnoddau. Galwch heibio neu edrychwch ar-lein.
Mae yna hefyd amrywiaeth o opsiynau o ran mannau astudio tawel i fyfyrwyr ar gampysau Cyncoed a Llandaf.
A: Eich cerdyn adnabod myfyriwr yw eich cerdyn llyfrgell ac allwedd eich drws hefyd. Gallwch gael benthyg 30 o lyfrau (ar y tro) ac adnoddau electronig diderfyn (e-lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data). Mae gan y llyfrgell staff cyfeillgar sy'n barod i helpu ac ystod eang o gyrsiau hyfforddi, teithiau ac adnoddau. Galwch heibio neu edrychwch ar-lein.
Mae rhagor o wybodaeth am gwblhau proses sefydlu'r llyfrgell yma.
A: Mae rhagor o wybodaeth am Gymorth i Fyfyrwyr yma.
A: Gall ein tîm llesiant helpu gyda hyn. Llenwch y ffurflen hon i gychwyn y broses. Mae rhagor o wybodaeth am Gymorth i Fyfyrwyr yma.
A: Oes. Gallwch gael gwybodaeth am ein Gwasanaeth Llesiant, gan gynnwys sut i drefnu apwyntiad gyda'r tîm, adnoddau hunangymorth ac adnoddau iechyd meddwl eraill am ddim, gan gynnwys swyddogaeth cymorth ar-lein 24/7.
A: Oes. Os ydych chi'n wynebu anawsterau ariannol, mae gennym Gynghorwyr dynodedig sy’n rhan o’n Tîm Cyngor Ariannol sy'n gallu cynnig cyngor ar gyllid, cyllidebu a rheoli arian, a chymorth ariannol. Gallwch hefyd ddod o hyd i lwyth o gyngor ar ein tudalen Gweithredu ar Gostau Byw ar MetCanolog, sy’n cynnwys cyngor ar ffyrdd o gadw costau i lawr a pha gymorth sydd ar gael, o de a choffi am ddim yn ein ceginau cymudo ac ymaelodi â'r gampfa am ddim i atgyweiriadau am ddim a chyfnewid dillad yn ein diwrnodau cymunedol. Gallwch ddefnyddio MetCanolog ar ôl i chi ymrestru. Cadwch lygad am ein cynigion costau byw mewn lleoliadau arlwyo hefyd.
A: Mae llawer o wybodaeth am deithio o gwmpas y ddinas ar y dudalen we hon, gan gynnwys gwybodaeth am y cynllun MetWibiwr. Mae’r cynllun hwn yn cynnig teithiau bws am brisiau gostyngedig rhwng campysau a chanol y ddinas yn ystod y tymor.
A: Mae cynllun MetWibiwr yn cynnig teithiau bws am bris gotyngedig srhwng campysau a chanol y ddinas yn ystod y tymor. Mae tocyn bws blynyddol MetWibiwr fel arfer yn costio £330. Fodd bynnag, gall myfyrwyr Met Caerdydd 18-21 oed sicrhau tocyn bws, sy'n caniatáu teithio diderfyn ar draws y ddinas, am ddim ond £110*. Mae Met Caerdydd wedi ymrwymo i gynnig gostyngiad o £110 fel cymorth costauy byw i'r 800 o fyfyrwyr cyntaf sy'n prynu tocyn Met Wibiwr, ac mae cynllun Fy Ngherdyn Teithio Llywodraeth Cymru yn lleihau'r gost i'r rhai 18-21 oed, gan £110 pellach.
Bydd tocynnau i'r rhai sy’n 22 oed a hŷn yn £220 (cymorth costau byw o £110 gan Met Caerdydd).
I gael tocynnau trên rhatach, codwch daflen cerdyn rheilffordd i fyfyrwyr yn yr orsaf reilffordd, llenwch hi ac, os ydych chi wedi cofrestru, gallwn ei stampio i chi yn y parth-g.
A: Fel prifysgol gynaliadwy, rydym yn cynghori'n gryf i chi beidio â dod â'ch car i Gaerdydd oni bai ei fod yn hanfodol, er enghraifft, os oes gennych chi anawsterau symud. Ni all myfyrwyr wneud cais am drwydded parcio fel arfer. Mae rhagor o wybodaeth yma. Os oes gennych chi Fathodyn Glas, gallwch barcio mewn lle anabl. I gael rhagor o fanylion, siaradwch â carparkmanagement@cardiffmet.ac.uk. Os ydych chi'n anabl ac nad oes gennych chi Fathodyn Glas, siaradwch â'r tîm Llesiant.
Mae rhagor o wybodaeth am opsiynau teithio a thrafnidiaeth ar MetCanolog – gallwch ddefnyddio hwn ar ôl i chi ymrestru.
A: Cofrestrwch gyda thestudio@cardiffmet.ac.uk i ychwanegu mynediad am ddim i'r storfeydd beiciau diogel at eich Cerdyn Met.