Gwybodaeth ac Ymsefydlu yn eich Llyfrgell
Proses Ymsefydlu'r Llyfrgell
Eich cerdyn adnabod myfyriwr yw eich cerdyn llyfrgell ac allwedd eich drws hefyd. Gallwch gael benthyg 30 o lyfrau (ar y tro) ac adnoddau electronig diderfyn (e-lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data).
Mae sesiwn sefydlu'r Llyfrgell yn archwilio sut i gael gafael ar yr adnoddau a'r cymorth a gynlluniwyd i'ch cefnogi yn eich dysgu drwy gydol eich amser ym Met Caerdydd.
Mae'n broses sefydlu ar-lein, felly gallwch ei chwblhau unrhyw bryd a dylai gymryd tua 10 munud i wylio’r fideo ar y dudalen Hanfodion y Llyfrgell.
Mae gan dudalennau gwe y Gwasanaethau Llyfrgell wybodaeth am oriau agor, mynediad i fannau astudio 24 awr, ystafelloedd astudio a llawer mwy. Gallwch e-bostio'r Llyfrgell, defnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs fyw neu ddod i siarad â'n tîm Llyfrgell cyfeillgar wyneb yn wyneb yn ystod yr Wythnos Groeso.