Digwyddiadau Croeso
Mae gennym nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich profiad ym Met Caerdydd ac i ymgartrefu yn eich cartref newydd. Mae rhai ar agor i bob myfyriwr newydd, ac mae rhai wedi’u cynllunio ar gyfer grwpiau penodol.
Trosglwyddo i'r Brifysgol
Mae ein Digwyddiad Trosglwyddo i’r Brifysgol yn cynnig cyflwyniad tawel a chefnogol i fywyd prifysgol i fyfyrwyr sydd well ganddynt amgylchedd tawelach.
Bydd cyfle i chi gwrdd â'r Tîm Cymorth i Fyfyrwyr, cysylltu â myfyrwyr newydd eraill, cwblhau'r broses gofrestru, casglu eich cerdyn adnabod myfyriwr, a mynd ar daith dywys o amgylch y campws.
Mae'r digwyddiad yn darparu gwybodaeth ymarferol ac yn eich helpu i ymgyfarwyddo â phrosesau a gwasanaethau'r brifysgol.
Erbyn diwedd y dydd, byddwch chi'n teimlo'n fwy hyderus, gwybodus, ac wedi'ch paratoi ar gyfer eich diwrnod cyntaf fel myfyriwr yn y brifysgol.
Paratoi ar gyfer Met Caerdydd
Bydd y digwyddiad hwn yn rhedeg ar y ddau gampws ar 4 Medi, 2026, ac mae ar agor i bob myfyriwr israddedig newydd. Byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen i gofrestru yn ystod yr haf. Mae’r diwrnod i gyd yn ymwneud â’ch paratoi ar gyfer dechrau rhagorol ym Met Caerdydd, eich helpu i ymgyfarwyddo â’ch campws a rhoi cyfle i chi gwrdd ag eraill myfyrwyr cyn Wythnos Groeso. Byddwch hefyd yn gallu casglu eich MetCard os ydych chi wedi cofrestru ac wedi uwchlwytho eich llun. Noder bod croeso cynnes hefyd i fyfyrwyr sydd wedi’u gwahodd i fynychu’r digwyddiad Pontio i fynychu’r digwyddiad Paratroi ar gyfer Met Caerdydd!
Croeso i Fyfyrwyr Rhyngwladol
Mae’r digwyddiad hwn wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol newydd. Bydd ein tîm Ymgysylltu Byd-eang yn cysylltu â myfyrwyr rhyngwladol gyda rhagor o fanylion.
Digwyddiadau Symud i Mewn
Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n symud i neuaddau preswyl y Brifysgol. Gallwch ddysgu mwy am ar ein tudalennau Symud i Mewn.
Wythnos Groeso – Dydd Llun, 21 Medi tan ddydd Gwener, 25 Medi
Croeso! Mae’n wirioneddol bwysig eich bod chi’n ymgysylltu â’ch rhaglen Wythnos Groeso. Yn ystod yr wythnos hon, byddwch yn darganfod popeth sydd angen i chi ei wybod i ddechrau eich astudiaethau yn llwyddiannus ym Met Caerdydd a byddwch yn cwrdd â thîm eich rhaglen. Byddwn yn anfon dolen atoch i’ch amserlen Wythnos Groeso gyda manylion yr holl sesiynau y mae angen i chi fynychu ddechrau mis Medi. O gwmpas y sesiynau hyn, bydd ein hybiau gwybodaeth Wythnos Groeso ar agor i chi ymweld â nhw rhwng 9yb a 4yp, yn cynnwys timau gan gynnwys Gwasanaethau Myfyrwyr, TG, Llyfrgelloedd ac Undeb y Myfyrwyr. Bydd cyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn teithiau o amgylch y campws a siarad â myfyrwyr presennol.
Bydd hwb Campws Llandaf yn cau ddydd Mercher, 23 Medi wrth i’r holl weithgaredd symud i Gyncoed ar gyfer Ffair y Glas Undeb y Myfyrwyr. Ni ddylid colli hynny. Dysgwch fwy am yr hyn mae Undeb y Myfyrwyr wed’i gynllunio ar eich cyfer chi.
Noder bod digwyddiadau Croeso i fyfyrwyr TAR yn digwydd yn gynharach ym mis Medi. Bydd y myfyrwyr hyn yn cael eu hanfon drwy e-bost yn uniongyrchol gyda’r manylion.