Mae Met Caerdydd yn un o brifysgolion athletau gorau'r DU, sy’n gorffen ymhlith yn rheolaidd ymhlith y tri uchaf ym Mhencampwriaethau Athletau Dan Do ac Awyr Agored BUCS.
Fel athletwr sy’n fyfyriwr ym Met Caerdydd, byddwch yn rhan o'r unig raglen academaidd yn y DU sydd â mynediad at gyfleuster hyfforddi dan do ac awyr agored llawn, a mynediad at ystod o hyfforddwyr ar draws pob un o’r campau sy'n cynhyrchu athletwyr sy'n cynrychioli Gwledydd Cartref a Phrydain Fawr ar lefel grŵp oedran a lefel uwch.
Mae aelodaeth ar lefel clwb yn cynnwys aelodaeth o'r cyfleuster am y flwyddyn, crys ymarfer, mynediad i raglen gystadlu helaeth, gan gynnwys cyfres Grand Prix Met Caerdydd, Cynghrair XC Gwent, Digwyddiad Deuol Dan Do, Varsity a chymhwysedd i gynrychioli Met Caerdydd ym 5 digwyddiad Pencampwriaeth BUCS sy’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.
Mae'r clwb hefyd yn cynnal cynnig gweithgareddau hamdden, a gynhelir gan ein pwyllgor profiadol a chyfeillgar a'n hyfforddwyr sy’n fyfyrwyr, i'r rhai sy'n newydd neu'n dychwelyd i fyd athletau.
Cwrdd â'r Tîm
Mae ein Rhaglen Athletau yn cael ei harwain gan Bennaeth Athletau, Rhiannon Hawker, a'i chefnogi gan ein Cydlynydd Clybiau a Chystadlaethau, Emily Thomas.
Phil Warwicker, ein Prif Hyfforddwr Athetau i Blant, sy'n arwain ar gyflwyno'r Rhaglen i Blant a chlwb Saethwyr Caerdydd.
Yn ogystal, rydym yn gweithio gyda nifer o Hyfforddwyr Perfformiad dawnus ac angerddol sy'n darparu hyfforddiant i'n myfyrwyr drwy gydol eu hamser ym Met Caerdydd. Mae’r tîm hefyd yn gweithio ochr yn ochr â phwyllgor clwb y myfyrwyr i sicrhau bod gan bob athletwr fynediad at gyfleoedd hyfforddi a chystadlu.
Para-athletau ym Met Caerdydd
Mae Athletau Met Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi Para Chwaraeon, ac ymhlith ein cymuned o gyn-fyfyrwyr, mae Aled Davies a Harrison Walsh. Mae ein darpariaeth perfformiad Para-athletau a chyfleoedd cystadlu wedi'i integreiddio'n llawn â’r rhaglen berfformiad ehangach, ac rydym yn ymdrechu i hwyluso cymaint o gyfleoedd cystadlu â phosibl a gymeradwywyd gan y WPA i athletwyr o fewn ein cystadlaethau ein hunain a Phencampwriaethau BUCS.
Rydym yn gweithio'n agos gyda grŵp o hyfforddwyr ac ymarferwyr sydd â gwybodaeth arbenigol am bara-athletau ac sy'n cefnogi athletwyr i gyfrannu at dimau BUCS tra hefyd yn targedu eu nodau penodol drwy gydol y tymor athletau ehangach.
Rhaglen Perfformiad Athletau
Mae gan Glwb Athletau Met Caerdydd hanes cyfoethog o lwyddiant ym Mhencapwriaety BUCS, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr wedi bod yn rhan o dimau a fu’n cystadlu ym Mhencampwriaethau Grwpiau Oedran, Ewrop a byd-eang.
Mae'r rhaglen perfformiad athletau yn cefnogi tua 30 o aelodau ein clwb sy'n cyflawni orau bob blwyddyn gydag ystod eang o wasanaethau perfformiad a gwyddor chwaraeon.
Mae athletwyr sy’n perfformio ar lefel uchel ym Met Caerdydd yn cael eu cefnogi i lwyddo ar y lefel uchaf posibl mewn camp penodol. Mae'r gefnogaeth a ddarperir yn dibynnu ar lefel perfformiad yr athletwr, gydag athletwyr yn cael eu rhann i ddwy haen o gefnogaeth: Haen 1 – Llwybr Perfformiad ar y Cyd Met Caerdydd ac Athletau Cymru a Haen 2 – Llwybr Datblygu Perfformiad Met Caerdydd.
Yn ogystal ag elwa o fynediad at amseroedd hyfforddi unigryw ein cyfleusterau perfformio, mae aelodau'r rhaglen perfformiad yn derbyn cefnogaeth gwerth miloedd o bunnoedd, gan gynnwys cefnogaeth ac arweiniad yn y meysydd canlynol:
- Ffisiotherapi
- Therapi Meinwe Meddal
- Hyfforddi
- Cryfder a Chyflyru
- Dull o Fyw Athletwyr sy’n perfformio ar lefel uchel
- Ffisioleg
- Biomecaneg
- Seicoleg
- Maeth
Darllenwch y wybodaeth lawn am y rhaglen perfformiad athletau.
Dyfernir ysgoloriaethau i'n perfformwyr gorau ac fe'u dyfernir fel gwobr ariannol blynyddol.
Mae ein tîm o staff yn nodi ymgeiswyr sydd â photensial fel rhan o'r cylch derbyn – nid oes proses ymgeisio uniongyrchol ar gyfer ysgoloriaethau athletau.
Bydd athletwyr yn cael eu gwahodd yn awtomatig i fod yn rhan o'r Rhaglen Perfformiad ar sail eu perfformiadau diweddar a meini prawf penodol. Rhaid bod canlyniadau wedi'u cyflawni ar/ar ôl 1 Ionawr y flwyddyn mynediad (h.y. ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau yn 2025, rhaid bod canlyniadau wedi'u cyflawni ar/ar ôl 1 Ionawr 2025).
Rhaid i bob canlyniad ar gyfer 100m, 200m, clwydi sbrintio a neidiau llorweddol gael canlyniad gwynt cyfreithlon, ac ni dderbynnir perfformiadau sydd wedi’u hamseru â llaw.
Mae safonau'r Rhaglen Perfformiad ar gyfer 2025/26 isod:
|
Digwyddiad |
Merched |
Dynion |
||
|
Haen 1 |
Haen 2 |
Haen 1 |
Haen 2 |
|
|
100m* |
10.60 |
10.75 |
11.75 |
12.05 |
|
200m* |
21.40 |
21.95 |
24.40 |
25.00 |
|
400m |
47.50 |
48.50 |
55.00 |
56.50 |
|
800m |
1:50.00 |
1:53.00 |
2:08.00 |
2:12.00 |
|
1500m |
3:49.00 |
3:51.00 |
4:24.00 |
4:31.00 |
|
S/C*** |
9:05.00 |
9:25.00 |
6:45.00 |
7:05.00 |
|
5000m |
14:15.00 |
14:30.00 |
16:15.00 |
16:50.00 |
|
10,000m |
30:00.00 |
31:00.00 |
34:45.00 |
35:45.00 |
|
Clwydi Sbrintio* *** |
14.30 |
14.90 |
13.80 |
14.30 |
|
Clwydi 400m*** |
52.50 |
54.50 |
60.30 |
64.00 |
|
Naid Uchel |
2.08 |
1.96 |
1.75 |
1.66 |
|
Neidio â pholyn |
4.75 |
4.40 |
3.85 |
3.35 |
|
Naid Hir* |
7.30 |
6.95 |
6.05 |
5.55 |
|
Naid Driphlyg* |
14.90 |
14.00 |
12.55 |
11.70 |
|
Taflu Maen *** |
15.90 |
13.60 |
13.50 |
12.10 |
|
Disgen*** |
49.50 |
43.50 |
46.00 |
42.00 |
|
Morthwyl*** |
64.00 |
50.00 |
55.00 |
48.00 |
|
Gwaywffon*** |
64.00 |
55.00 |
46.50 |
39.00 |
|
Decathon/Heptathlon*** |
6850 |
6450 |
5100 |
4800 |
* ni fydd amseroedd/pellteroedd gyda chymorth gwynt ac amseroedd â llaw yn cael eu hystyried
*** mae safonau sy’n ymwneud â pherfformiadau gydag offer Hŷn, ond bydd disgresiwn yn cael ei gymhwyso lle dangoswyd y potensial i berfformio gydag offer Dan 20
Digwyddiadau
Bob blwyddyn, mae Met Caerdydd yn cynnal cyfres o gystadlaethau dan do, ac mae gan ein haelodau fynediad rhad ac am ddim i bob un ohonynt. Mae digwyddiadau Clasur y Nadolig a Grand Prix Non Thomas hefyd ymhlith y digwyddiadau dan do agored mwyaf blaenllaw a phoblogaidd yng nghalendr gemau'r DU bob blwyddyn.
- Digwyddiad Deuol Met Caerdydd yn erbyn Prifysgol Birmingham
- Clasur Nadolig Met Caerdydd (gan gynnwys Pencampwriaethau 3000m Cymru)
- Grand Prix Non Thomas y Flwyddyn Newydd Met Caerdydd
Clwb Athletau
Athletau i Blant
Mae’r Clwb ac Academi Athletau ar gyfer athletwyr ifanc wedi'i leoli yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol (NIAC).
Mae Athletau i Blant Met Caerdydd wedi' leoli yng Nghyfleusterau Chwaraeon Met Caerdydd. Rydym yn cynnig rhaglenni hamdden a chystadleuol, a’r cyfle i gystadlu ledled Cymru a Lloegr i blant 5 oed a hŷn.
Archebwch sesiynau a chyrsiau athletau i blant ar-lein neu drwy'r Ap Chwaraeon Met Caerdydd.
Dysgwch fwy am ein rhaglen Athletau i Blant.