Skip to content

Cwynion

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau o ansawdd uchel i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd. Yn hanfodol i hyn mae monitro a gwerthuso’r gwasanaethau hynny er mwyn gwella ansawdd ac er mwyn sicrhau bod safonau penodol yn cael eu bodloni.

Mae gennym amrywiaeth o fecanweithiau ar waith er mwyn sicrhau bod myfyrwyr, staff a’r cyhoedd yn cael cyfle i gymryd rhan lawn yn natblygiad a gwelliant gwasanaethau a disgwylir y bydd pawb yn manteisio i’r eithaf ar y rhain wrth fynegi eu barn.

Codi Pryder

Rydym yn cydnabod y gall fod adegau pan nad yw mecanweithiau adborth yn ddigonol i ddelio â phroblemau. Dyma’r rheswm y sefydlwyd Gweithdrefn Gwyno. Dylid defnyddio’r Weithdrefn Gwynion pan nad yw ymdrechion anffurfiol i ddatrys y mater o fewn yr Ysgol neu’r Uned wedi datrys y mater.

I godi pryder anfonwch e-bost at complaints@cardiffmet.ac.uk gyda chymaint o wybodaeth â phosibl, gan gynnwys;

  • Enw
  • Eich Manylion (cyfeiriad ebost, staff, ymwelydd, cyhoeddus)
  • Manylion yn gwyn
  • Nodwch y camau a gymerwyd i ddatrys y gwyn yn anffurfiol (gan gynnwys dyddiadau)
  • Y canlyniad y gobeithir ei gael
  • Tystiolaeth ategol (ebost, sgrinluniau etc.)

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac wedi mabwysiadu'r egwyddor o drin y Saesneg a'r Gymraeg yn gyfartal. Yn ogystal â gallu gwneud cwyn drwy gyfrwng y Gymraeg, gallwch hefyd ddefnyddio’r weithdrefn gwyno isod i wneud cwyn ynglŷn â’n cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg.

Cyngor

Mae cyngor gweithdrefnol ar gael gan y Swyddog Cwynion, a gellir cysylltu â nhw ar e-bost yn complaints@cardiffmet.ac.uk. Mae cefnogaeth a chyngor annibynnol ar gyflwyno cwyn hefyd ar gael i fyfyrwyr gan Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd.

Gweithdrefnau