Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod gan ein tîm dysgu ystod eang o brofiad. Mae gennym staff sy’n gyn swyddogion heddlu yn y DU ac UDA, a chyn Ymchwilwyr Lleoliadau Trosedd sy’n dod â’u harbenigedd i’r rôl ac yn rhannu eu profiadau gyda’r myfyrwyr. Mae gallu tynnu ar astudiaethau achos uniongyrchol yn help mawr i daflu goleuni ar sut beth yw plismona mewn gwirionedd ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr brofi eu sgiliau wrth feddwl am sut y byddent yn delio â sefyllfa pe baent wedi bod yn Swyddogion Heddlu go iawn.
Kelly Hill, Uwch Ddarlithydd Plismona Proffesiynol a Chyfarwyddwr Rhaglen
Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r radd BA (Anrh) Plismona Proffesiynol ym Met Caerdydd wedi’i drwyddedu gan y Coleg Plismona ac yn seiliedig â’r cwricwlwm plismona cenedlaethol ar gyfer mynediad cychwynnol i’r gwasanaeth heddlu.
Mae’r radd hon wedi’i chynllunio i’ch arfogi gyda sylfaen academaidd ac ymarferol gref mewn plismona modern, gan eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd mewn plismona a’r system cyfiawnder troseddol ehangach.
Mae’r radd gyffrous hon yn adlewyrchu heriau cyfredol a’r rhai sy’n dod i’r amlwg mewn ymarfer plismona, gyda modiwlau a chynnwys sy’n mynd i’r afael ag ymchwiliadau digidol, arweinyddiaeth foesegol, a heriau plismona cyfoes.
Wedi’i addysgu gan ddarlithwyr profiadol, gan gynnwys cyn-swyddogion heddlu a gweithwyr proffesiynol cyfiawnder troseddol, mae’r cwrs hwn yn cynnig dealltwriaeth ddofn o bynciau fel plismona ymatebol, ymchwiliadau, amddiffyn y cyhoedd, plismona digidol, a gwneud penderfyniadau moesegol. Byddwch yn cael cyfleoedd i gymhwyso’ch dysgu mewn amgylcheddau realistig gan ddefnyddio ein Tŷ Trosedd pwrpasol a’n Hystafell Ffug Lys ac ymgysylltu â materion byw trwy ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwaith senario ymarferol.
P’un a ydych chi’n anelu at ddod yn swyddog heddlu neu ddilyn gyrfa gysylltiedig mewn cyfiawnder troseddol, cyfiawnder ieuenctid, neu ddiogelwch cymunedol, bydd y radd hon yn datblygu eich sgiliau meddwl beirniadol, arweinyddiaeth a datrys problemau mewn cyd-destun hynod berthnasol a chymhwysol.
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd amser llawn pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr sydd am ymrestru ar flwyddyn gyntaf rhaglen radd anrhydedd yn y gwyddorau cymdeithasol, sydd heb gyflawni’r gofynion mynediad safonol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
- Myfyrwyr nad ydynt wedi astudio pynciau sy’n darparu’r cefndir angenrheidiol o fewn y disgyblaethau gwyddonol sy’n ofynnol i gael mynediad ym mlwyddyn un y radd a ddewiswyd.
Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen.
Blwyddyn Un / Lefel 4
- Gorfodi’r Gyfraith: Pwerau Allweddol yr Heddlu
Mae’r modiwl hwn yn eich cyflwyno i’r pwerau cyfreithiol allweddol a ddefnyddir mewn plismona’r rheng flaen. Mae’n archwilio sylfeini awdurdod yr heddlu, gan gynnwys stopio a chwilio, arestio a chadw, yng nghyd-destun hawliau dynol a chyfranoldeb. - Archwilio Plismona: Rolau a Chyfrifoldebau
Byddwch yn archwilio esblygiad plismona yn y DU ac yn archwilio rolau a chyfrifoldebau amrywiol cwnstabliaid yr heddlu heddiw. Mae’r modiwl yn hyrwyddo dealltwriaeth o broffesiynoldeb, disgresiwn a chyfreithlondeb yn y gwasanaeth heddlu. - Sgiliau Academaidd ar gyfer Plismona
Mae’r modiwl hwn yn eich cefnogi i ddatblygu sgiliau academaidd a digidol craidd sy’n ofynnol ar gyfer llwyddiant mewn addysg uwch. Mae hefyd yn cyflwyno egwyddorion plismona seiliedig ar dystiolaeth, ymarfer myfyriol, a chynllunio datblygiad personol. - Plismona, Erlyn a’r System Cyfiawnder Troseddol
Byddwch yn cael mewnwelediad i strwythur a swyddogaeth y system cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn cynnwys rôl yr heddlu mewn ymchwiliad, erlyniad a pharatoi ffeiliau achos, a’r rhyngweithio rhwng fframweithiau cyfreithiol ac arferion gweithredol. - Deall Ymchwiliadau Troseddol
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r broses ymchwilio, gan gwmpasu egwyddorion allweddol fel sicrhau tystiolaeth, meddylfryd ymchwilio, a’r awr aur. Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso theori i senarios ymchwilio ymarferol. - Troseddeg Gymhwysol
Yn ystod y modiwl hwn byddwch yn ymgysylltu â theorïau troseddol ac yn eu cymhwyso i senarios plismona. Mae’r modiwl yn hyrwyddo dealltwriaeth o achosion troseddau, atal, a pherthnasedd meddwl troseddol i ddatrys problemau effeithiol mewn plismona.
Blwyddyn Dau / Lefel 5
- Gorfodi’r Gyfraith: Troseddau Craidd
Mae’r modiwl hwn yn datblygu eich dealltwriaeth o droseddau allweddol o dan gyfraith droseddol, gan gynnwys ymosodiad, lladrad, troseddau cyffuriau a threfn gyhoeddus. Mae’n archwilio sut mae deddfwriaeth yn cael ei chymhwyso yn ymarferol trwy arestio, cyhuddo, a chasglu tystiolaeth. - Plismona Trefol, Gwledig a Bywyd Gwyllt
Mae’r modiwl hwn yn archwilio egwyddorion ac arferion plismona cymunedol ar draws ystod o amgylcheddau. Byddwch yn archwilio sut mae strategaethau plismona yn cael eu haddasu i ddiwallu anghenion cymunedau trefol, gwledig ac arfordirol. Mae’r modiwl yn cynnwys ffocws ar adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd, ymgysylltu â chymunedau amrywiol, partneriaethau datrys problemau, a mynd i’r afael â materion fel ynysu gwledig a throseddau bywyd gwyllt. - Plismona ar Draws Ffiniau a Thu Hwnt
Mae’r modiwl hwn yn archwilio plismona trawsffiniol a rhyngwladol, gan gynnwys troseddau cyfundrefnol, masnachu, a rôl cyrff rhyngwladol fel INTERPOL ac Europol. Byddwch yn archwilio bygythiadau byd-eang ac ymatebion cydweithredol. - Bregusrwydd mewn Ymarfer Plismona
Gan ganolbwyntio ar fregusrwydd cymhleth, mae’r modiwl hwn yn eich galluogi i nodi, asesu a rheoli risg mewn perthynas â diogelu, cam-drin domestig, iechyd meddwl, ac amddiffyn plant. Mae’n hyrwyddo gweithio rhyng-asiantaeth ac ymarfer sy’n seiliedig ar drawma. - Casglu Tystiolaeth a Gwybodaeth Troseddol
Yn y modiwl hwn byddwch yn datblygu dealltwriaeth o sut mae gwybodaeth, cudd-wybodaeth a thystiolaeth droseddol yn cefnogi plismona gweithredol. Mae hyn yn cynnwys rheoli ffynonellau cudd ac amlwg, rheolau tystiolaethol, ac ystyriaethau moesegol mewn ymchwiliadau a arweinir gan gudd-wybodaeth. Mae’r modiwl hefyd yn cwmpasu technegau casglu tystiolaeth fforensig, rheoli lleoliad trosedd, a rôl gwyddoniaeth fforensig wrth adeiladu achosion ymchwilio cadarn. - Plismona Seiliedig ar Dystiolaeth (EBP)
Mae’r modiwl hwn yn adeiladu ar sgiliau ymchwil cynharach ac yn archwilio sut mae dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn dylanwadu ar ymarfer plismona. Byddwch yn dysgu i werthuso ymchwil yn feirniadol ac i ddechrau dylunio eich prosiectau ar raddfa fach eich hunain sy’n berthnasol i blismona.
Blwyddyn Tri / Lefel 6
- Traethawd Hir
Byddwch yn ymgymryd â darn sylweddol o ymchwil annibynnol ar bwnc sy’n ymwneud â phlismona. Mae’r modiwl yn cefnogi cynllunio prosiectau, adolygu llenyddiaeth, casglu data, a dadansoddiad beirniadol, gan arwain at draethawd ysgrifenedig. Mae gennych hefyd yr opsiwn i ymgymryd â phrosiect sy’n cynnwys profiad gwirfoddoli, gan integreiddio mewnwelediadau ymarferol ag ymchwil academaidd. - Plismona, Troseddau Treisgar a Rhywiol
Mae’r modiwl hwn yn archwilio mathau o droseddau difrifol a sensitif, gan gynnwys cam-drin domestig, treisio, a thrais yn erbyn menywod a merched (VAWG). Mae’n archwilio dulliau ymchwilio, diogelu, a gweithio aml-asiantaeth yn y meysydd risg uchel hyn. - Ymchwilio i Ddynladdiad a Throseddau Mawr
Yn y modiwl hwn byddwch yn astudio strwythur a gweithrediad ymchwiliadau troseddau mawr, gan gynnwys dynladdiad. Mae’r modiwl yn cyflwyno strategaethau ymchwilio cymhleth, rôl yr Uwch Swyddog Ymchwilio (SIO), a gwneud penderfyniadau o dan bwysau. - Plismyn, Llygredd, a Phlismona Moesegol
Mae’r modiwl hwn yn archwilio’n feirniadol faterion camymddwyn yr heddlu, llygredd, a diwylliant sefydliadol. Byddwch yn archwilio sut y gall arweinyddiaeth foesegol a safonau proffesiynol helpu i adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd a diwygio arferion. - Arweinyddiaeth ac Ymarfer Proffesiynol
Wedi’i gynllunio i’ch paratoi ar benllanw eich gradd ar gyfer pontio i hyfforddiant yr heddlu, mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth mewn plismona trwy archwilio modelau arweinyddiaeth weithredol a strategol, goruchwyliaeth, a’r heriau o arwain mewn amgylcheddau amrywiol a phwysau uchel. Mae hefyd yn mynd i’r afael â datblygiad proffesiynol parhaus a gwneud penderfyniadau moesegol sy’n hanfodol ar gyfer ymarfer plismona effeithiol.
Bydd meysydd pwnc arbenigol allweddol yn unol â gofynion y Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona (PEQF) a gofynion y Coleg Plismona yn cynnwys y canlynol:
- Cyd-destun a phroffesiynoldeb plismona
- Cyfraith a fframweithiau cyfreithiol
- Sgiliau plismona gweithredol
- Ymchwilio a chasglu tystiolaeth
- Gweithio cymunedol a phartneriaeth
- Arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau
- Iechyd, llesiant a gwytnwch
- Defnyddio technoleg a phlismona digidol
Cyflwynir addysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, prosiectau grŵp, a sesiynau ymarferol mewn amgylcheddau efelychu, gan gynnwys ein Tŷ Trosedd ar y safle. Mae’r dulliau hyn wedi’u cynllunio i hyrwyddo meddwl beirniadol, datrys problemau cymhwysol, gwneud penderfyniadau, a sgiliau cyfathrebu proffesiynol wedi’u teilwra i gyd-destunau plismona.
Mae’r modiwlau yn cynnwys tua 200 awr o astudio, wedi’u rhannu fel a ganlyn:
- Seminarau: 36 awr o ddysgu cydamserol wedi’i drefnu i ystyried cysyniadau damcaniaethol cymhleth ac archwilio materion allweddol yn feirniadol.
- Gweithgareddau ar-lein: 12 awr o ddysgu anghydamserol wedi’i drefnu sy’n cyflwyno pynciau allweddol, diffiniadau a safbwyntiau damcaniaethol.
- Dysgu dan arweiniad annibynnol: 152 awr o astudio di-gyswllt i ddatblygu eich gwybodaeth am y pwnc ac i ddyfnhau eich dealltwriaeth.
Mae myfyrwyr yn elwa o strwythur cymorth academaidd cynhwysfawr, gan gynnwys tiwtoriaid personol a neilltuwyd ar ddechrau’r cwrs sy’n darparu arweiniad parhaus. Mae tiwtoriaid yn cynnal cyfarfodydd tiwtorial wedi’u trefnu ac yn cynnal polisi drws agored ar gyfer cymorth ychwanegol. Mae cymorth pellach ar gael trwy sesiynau sgiliau astudio, cymorth ysgrifennu academaidd, a chydweithrediad cymheiriaid.
Mae’r dysgu yn cael ei wella drwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Moodle, sy’n darparu mynediad at ddeunyddiau darlithoedd, gwybodaeth asesu, adnoddau digidol, a meddalwedd, cronfeydd data ac offer fforensig digidol sy’n benodol i blismona. Mae Moodle hefyd yn hwyluso cyfathrebu rhwng tiwtoriaid a myfyrwyr.
Mae staff y rhaglen yn cynnwys gweithwyr proffesiynol plismona profiadol ac ymchwilwyr academaidd o wahanol ddisgyblaethau megis y gyfraith, technoleg ddigidol, addysg, polisi cymdeithasol, a gwaith ieuenctid. Mae eu harbenigedd cyfunol yn cynnig sawl safbwynt cyfoes ac yn meithrin ymholiad cydweithredol.
Cynhelir addysgu ar draws campysau Cyncoed a Llandaf, gan ddarparu cyfleusterau arbenigol fel y Tŷ Trosedd ar gyfer senarios plismona ymgolli, labordy seicoleg, stiwdio ddrama, ac Ystafell Ffug Lys i efelychu treialon troseddol, gan gyfoethogi profiad dysgu ymarferol myfyrwyr.
Mae’r dulliau asesu wedi’u cynllunio’n ofalus i adlewyrchu gofynion plismona yn y byd go iawn trwy gymysgedd amrywiol o ymarferion ymarferol, portffolios, cyflwyniadau, adroddiadau proffesiynol, chwarae rôl, a strategaethau ymchwilio. Mae’r amrywiaeth hon yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu set sgiliau eang sy’n gwella cyflogadwyedd ac yn eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd plismona.
Gan bwysleisio cymhwysiad ymarferol, mae asesiadau’n cynnwys tasgau fel dyfeisio strategaethau ymchwilio, fforensig a chudd-wybodaeth fel Uwch Swyddog Ymchwilio (SIO), gwerthuso astudiaethau achos, a chynnal adolygiadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r fformatau hyn yn darparu cyfleoedd realistig i fyfyrwyr ddangos gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau proffesiynol sy’n cyd-fynd ag ymarfer plismona.
Mae’r modiwlau yn cynnwys asesiadau integredig fel traethodau beirniadol, portffolios, a senarios byw, gyda’r nod o ddatblygu arbenigedd ar gyfer y traethawd hir Plismona Seiliedig ar Dystiolaeth yn y flwyddyn olaf. Mae asesiadau’n cael eu cwblhau’n unigol neu mewn grwpiau, gan annog cydweithredu a dysgu annibynnol.
Caiff myfyrwyr ddyddiadau cyflwyno’r asesiaday ddechrau pob modiwl yn ogystal â grid trosolwg asesu blynyddol i’w cynorthwyo i gynllunio a rheoli eu hamser yn effeithiol. Mae myfyrwyr yn derbyn adborth ffurfiannol rheolaidd trwy drafodaethau dosbarth, ymarferion ffug, ac adolygiad gan gymheiriaid, ynghyd ag adborth ysgrifenedig manwl ar waith cyfunol. Mae cymorth academaidd ar gael trwy gydol i helpu myfyrwyr i ddeall meini prawf marcio a gwella perfformiad.
Ar y cyfan, mae asesiadau yn amrywiol, yn ymgysylltu, ac yn cyd-fynd yn agos â safonau Coleg Plismona i wneud y mwyaf o ddysgu a pharatoi myfyrwyr ar gyfer ymarfer proffesiynol.
Mae gradd BA (Anrh) Plismona Proffesiynol Met Caerdydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel swyddog heddlu ac mae’n un o’r llwybrau cydnabyddedig i ddod yn gwnstabl heddlu. Er nad yw cwblhau’r radd yn gwarantu mynediad i’r heddlu, mae graddedigion llwyddiannus sy’n ymuno â’r heddlu o fewn pum mlynedd yn elwa o raglen hyfforddi byrrach yn y swydd. Mae mynediad hefyd yn gofyn am fodloni meini prawf ffitrwydd, meddygol a meini prawf eraill, ac yna cyfnod prawf dwy flynedd fel y nodir yn Rheoliadau’r Heddlu.
Gall graddedigion ddilyn gyrfaoedd y tu hwnt i blismona mewn sefydliadau fel GCHQ, yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol, gwasanaethau prawf, heddlu milwrol, a diogelwch preifat. Mae Met Caerdydd yn falch o’i record gyflogaeth gref ac mae’n cynnig rhagor o gyfleoedd astudio ôl-raddedig gan gynnwys MA, MPhil, PhD, a MSc Troseddeg ac Ymchwiliadau Troseddol neu MSc Cyfiawnder Troseddol a Diogelwch.
Mae graddedigion yn gymwys i wneud cais i’r heddluoedd ledled Cymru a Lloegr drwy’r llwybr mynediad PPD (yn amodol ar ofynion lluoedd lleol a fetio). Mae’r radd hefyd yn agor drysau i rolau mewn ymchwiliad sifil, dadansoddi troseddau, gwasanaethau troseddau ieuenctid, diogelwch cymunedol, a pholisi cyfiawnder troseddol.
Mae’r cwrs yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy sy’n cael eu gwerthfawrogi ar draws plismona a gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys gwneud penderfyniadau, arweinyddiaeth, datrys gwrthdaro, a llythrennedd digidol. Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i wella cyflogadwyedd trwy wirfoddoli, diwrnodau mewnwelediad, a rolau fel Cwnstabliaid Arbennig neu drin galwadau gyda lluoedd lleol. Mae llawer o raddedigion yn symud ymlaen i rolau plismona neu’n dilyn astudiaethau ôl-raddedig mewn troseddeg, seiberdroseddu, neu weinyddiaeth gyhoeddus.
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.
- Pwyntiau tariff: 104
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM
- Lefel T: Teilyngdod.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): Does dim angen pynciau penodol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd h3.
- Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Gofynion Mynediad ar gyfer Heddluoedd
Sylwch fod gofynion mynediad yn amrywio rhwng heddluoedd. Efallai y bydd angen TGAU Saesneg gradd C/4 neu uwch ar rai ohonynt, tra i eraill, gall y Gradd Plismona Cyn-ymuno (PPD) yn unig fod yn dderbyniol. Yng Nghymru, efallai y bydd angen naill ai TGAU Saesneg neu Gymraeg. Dylai ymgeiswyr wirio gyda lluoedd unigol am eu gofynion mynediad penodol.
Sylwch nad oes angen gwiriad DBS ar gyfer y cwrs hwn; fodd bynnag, os byddwch chi’n dewis ymuno â’r heddlu, byddwch yn destun eu proses fetio. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod fetio’r heddlu yn drylwyr. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â fetio, rydym yn cynghori’n gryf wirio gofynion lluoedd penodol cyn gwneud cais.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs, cysylltwch â Kelly Hill:
- E-bost: klhill@cardiffmet.ac.uk
-
Cod UCAS
L900 (gradd 3 blynedd), L90F (gradd 4 blynedd gan gynnwys blwyddyn sylfaen)
-
Lleoliad
Campws Cyncoed
-
Ysgol
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
-
Hyd
3 blynedd yn llawn amser.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.