Skip to content

Hawliau Cymraeg ein Myfyrwyr

Mae Safonau’r Gymraeg yn rhoi’r hawl i’n myfyrwyr i dderbyn y gwasanaethau Cymraeg canlynol:

  • Gohebiaeth
  • Ffurflenni
  • Gwasanaethau cwnsela
  • Ceisiadau am gymorth ariannol
  • Cyfarfodydd
  • Llyfrynnau croeso
  • Tystysgrifau
  • Cyflwyno asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg (traethodau, arholiadau ayyb)
  • Tiwtor academaidd personol
  • Prosbectws

Rydym yn annog myfyrwyr i ddefnyddio’r iaith a’n gwasanaethau Cymraeg. Mae nifer o gyfleoedd iddynt ymwneud â’r iaith, yn academaidd ac yn gymdeithasol. Mae Cymuned Gymraeg hyfryd gyda ni ac mae croeso i bawb.