Safonau’r Gymraeg
Creodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Safonau’r Gymraeg. Mae’r rhain yn rhoi’r hawl i bobl gael gwasanaethau gan Met Caerdydd drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r safonau - sy’n berthnasol i’n gweithgareddau yng Nghymru - hefyd yn:
- Ei gwneud yn glir sut mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r Gymraeg
- Dangos i ni pa wasanaethau Cymraeg y gall staff, myfyrwyr a’r cyhoedd ei ddisgwyl gennym ni
- Gwneud ein gwasanaethau Cymraeg yn well ac yn fwy cyson
Dyma restr o’r safonau mae'n rhaid i ni eu dilyn. Mae’r Uned Gymraeg wedi creu canllawiau i helpu bob rhan o Met Caerdydd i’w bodloni.
Mae mwy o fanylion ar sut rydym yn gweithredu’r safonau ac yn sicrhau bod Met Caerdydd yn darparu'r gwasanaethau Cymraeg gorau posib ar gael yn ein Polisi Iaith Gymraeg.
Mae’r Uned Gymraeg yn gweithio gyda staff ar draws Met Caerdydd i fonitro pa mor dda mae'r Brifysgol yn bodloni'r safonau ac i wella ein gwasanaethau Cymraeg. Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth a data yn ymwneud â’r Gymraeg ym Met Caerdydd. Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu’r gwaith rydym wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn i wella a hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg.