Llety gwarantedig ar gyfer myfyrwyr Clirio
Rydym yn deall, fel ymgeisydd Clirio, y bydd sicrhau eich lle mewn neuaddau preswyl yn ystyriaeth fawr.
Y newyddion da yw, os ydych wedi cael cynnig ar gwrs drwy Glirio, rydym yn cynnig llety gwarantedig i chi mewn llety'r Prifysgol neu llety preifat.
I fod yn gymwys, bydd angen i chi fod wedi derbyn eich cynnig i astudio gyda ni drwy Glirio yn gadarn ar UCAS Hub a gwneud cais am lety erbyn hanner nos ar ddydd Mawrth 19eg Awst 2025.
Bydd ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu prosesu yn amodol ar argaeledd. Er ein bod yn anelu at gartrefu pob myfyriwr cymwys, ni allwn gwarantu mathau o ystafelloedd, dewisiadau, a lleoliad campws. Lle bo angen, efallai y byddwn yn cyfeirio ymgeiswyr at bartneriaid tai preifat dibynadwy.
Oes gennych chi gwestiwn? Sgwrsiwch â ni trwy Sgwrs Fyw ar y dudalen hon, neu cysylltwch â'r tîm llety ar y manylion isod:
- Rhif ffôn: 029 2041 6188/89
- E-bost: accomm@cardiffmet.ac.uk