Skip to content

North Court: Myfyrwyr Now

A large, open kitchen and living space A large, open kitchen and living space
01 - 02

Mae North Court yn bellter cerdded 15-20 munud o gampws Llandaf Met Caerdydd ac mae bysiau yn teithio’n rheolaidd i'n campysau eraill ac i ganol y ddinas.


A student bedroom with bed and large study desk A student bedroom with bed and large study desk

North Court: Ensuite 'Classic'

£172.50/wythnos, contract 43 wythnos

Wedi'i adnewyddu ar gyfer 2024/25, mae North Court yn cynnig ystafelloedd ensuite llachar, modern gyda gwelyau dwbl 4 troedfedd a digon o storfa. Mae ardaloedd cegin-lolfa a rennir yn darparu lle i ymlacio a chymdeithasu.

Gallwch hefyd mwynhau mannau cymunedol croesawgar a chalendr llawn o ddigwyddiadau cymdeithasol.

A large open bedroom complete with bed, study desk and sofa A large open bedroom complete with bed, study desk and sofa

North Court: Ensuite 'Premium'

£179/wythnos - contract 43 wythnos

Wedi'i adnewyddu ar gyfer 2024/25, mae North Court yn cynnig ystafelloedd ensuite llachar, modern gyda gwelyau dwbl 4 troedfedd a digon o storfa. Mae ardaloedd cegin-lolfa a rennir yn darparu lle i ymlacio a chymdeithasu.

Byddwch hefyd yn mwynhau mannau cymunedol croesawgar a chalendr llawn o ddigwyddiadau cymdeithasol.

01 - 04
  • Wi-Fi am ddim
  • Pob bil yn gynwysedig
  • Yswiriant cynnwys
  • Gwelyau dwbl 4 troedfedd
  • Ceginau a rennir
  • Cyfleusterau golchi
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol
  • Cyfleusterau storio beiciau
  • Gofod cymdeithasol awyr agored
  • Diogelwch 24/7 a Theledu Cylch Cyfyng
  • Tîm Preswyl ar y Safle
  • Mynediad diogel

Arhoswch yn ddiogel a chefnogir gyda Thîm Preswyl 24/7 ar y safle, diogelwch, a theledu cylch cyfyng.

Ffordd y Gogledd, Caerdydd CF14 3BA

Gweld ar Google Maps

Mae North Court yn bellter cerdded 15—20 munud o gampws Llandaf Met Caerdydd ac mae bysiau  yn teithio’n rheolaidd i gampysau eraill ac i ganol y ddinas. Mae archfarchnadoedd fel Tesco Extra ac Aldi, ynghyd â siopau a chaffis lleol, o fewn taith cerdded.

Yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n astudio ar gampws Llandaf yn yr Ysgol Rheoli, Ysgol Gelf a Dylunio, a'r Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd.

Mae gan Now Students - North Court un fflat stiwdio sy’n addas ar gyfer myfyrwyr ag anableddau corfforol.

Mae gan gampysau Plas Gwyn a Chyncoed sawl ystafell sy’n addas ar gyfer myfyrwyr ag anableddau sydd angen llety wedi ei addasu. Mae gan Neuaddau Partner ystafelloedd a fflatiau hygyrch, ac ystafelloedd y gellir eu haddasu i'w defnyddio gan y rhai ag anableddau corfforol.

Dewch o hyd i'ch holl opsiynau llety trwy'r dudalen Lety i Fyfyrwyr Anabl.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymorth, ewch i'n Gwasanaeth Cefnogaeth Anabledd.

Accommodation How We Allocate Accommodation How We Allocate

Gwneud Cais am Lety

Dysgwch sut i wneud cais a beth sydd ei angen arnoch i gwblhau eich cais ar-lein am neuaddau preswyl.

Wrth wneud cais am lety gallwch restru pa fath yr hoffech iddo gael ei ddyrannu yn nhrefn blaenoriaeth. Fodd bynnag, ni allwn bob amser warantu y byddwch yn cael eich dewis cyntaf.​

 

Sut i Wneud CaisSut i Wneud Cais
01 - 04

Cysylltwch â Ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lety a byw ym Met Caerdydd, cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Llety.

Cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Llety