Skip to content

The Bakery: Myfyrwyr Unite

Two young men talk while eating at a kitchen counter island Two young men talk while eating at a kitchen counter island
01 - 02

Wedi'i leoli yng nghanol Caerdydd ger Afon Taf, mae The Bakery yn daith cerdded 10 munud o Orsaf Ganolog Caerdydd a chanol y ddinas.


A colourful bedroom with bright bedding and striking artwork on the walls A colourful bedroom with bright bedding and striking artwork on the walls

The Bakery: Ensuite 'Premium'

£167/wythnos - contract 44 wythnos

Mae The Bakery yn cynnig ystafelloedd ensuite sengl gyda digon o storfa a mynediad i geginau a rennir, offer llawn.

Ar y llawr gwaelod, mae ardal gymunedol gyda seddi cyfforddus yn darparu lle gwych i gymdeithasu.

01 - 04
  • Wi-Fi am ddim
  • Pob bil yn gynwysedig
  • Yswiriant cynnwys
  • Gwelyau dwbl 4 troedfedd
  • Ceginau a rennir
  • Cyfleusterau golchi
  • Digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol
  • Cyfleusterau storio beiciau
  • Ardal gyffredin
  • Gofod cymdeithasol awyr agored
  • Diogelwch 24/7 a Theledu Cylch Cyfyng*
  • Tîm gwasanaeth ar y safle*
  • Mynediad diogel*
  • Ap Myfyrwyr Unite**

* Mae'r adeilad yn cynnwys mynediad diogel, staffio 24/7, a Theledy Cylch Cyfyng er eich diogelwch a'ch lles.

** Mae'r ap Unite Students yn gadael i chi gysylltu â ffrindiau fflat yn y dyfodol, gofyn am gynnal a chadw, cael mynediad at gymorth, ac aros yn ddiweddaraf am hysbysiadau pwysig.

Stryd Pendyris, Caerdydd, CF11 6YY

Gweld ar Google Maps

Wedi'i leoli yng nghanol Caerdydd ger Afon Taf, mae The Bakery yn daith cerdded 10 munud o o Orsaf Ganolog Caerdydd a chanol y ddinas. Yn ddelfrydol i'r rhai sy'n mwynhau cerddoriaeth fyw, amgueddfeydd a diwylliant Caerdydd, gyda chysylltiadau bws hawdd i gampysau Llandaf a Chyncoed.

Mae The Bakery yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr Met Caerdydd sy'n astudio ar ein campysau Cyncoed a Llandaf.

Mae gan gampysau Plas Gwyn a Chyncoed sawl ystafell sy’n addas ar gyfer myfyrwyr ag anableddau sydd angen llety wedi ei addasu. Mae gan Neuaddau Partner ystafelloedd a fflatiau hygyrch, ac ystafelloedd y gellir eu haddasu i'w defnyddio gan y rhai ag anableddau corfforol.

Dewch o hyd i'ch holl opsiynau llety trwy'r dudalen Lety i Fyfyrwyr Anabl.

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymorth, ewch i'n Gwasanaeth Cefnogaeth Anabledd.

Accommodation How We Allocate Accommodation How We Allocate

Gwneud Cais am Lety

Dysgwch sut i wneud cais a beth sydd ei angen arnoch i gwblhau eich cais ar-lein am neuaddau preswyl.

Wrth wneud cais am lety gallwch restru pa fath yr hoffech iddo gael ei ddyrannu yn nhrefn blaenoriaeth. Fodd bynnag, ni allwn bob amser warantu y byddwch yn cael eich dewis cyntaf.​

 

Sut i Wneud CaisSut i Wneud Cais
01 - 04

Cysylltwch â Ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lety a byw ym Met Caerdydd, cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Llety.

Cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Llety