Wedi'i leoli yn ardal fyfyrwyr poblogaidd Cathays, mae Cambrian Point yn daith gerdded 20-25 munud o gampws Met Caerdydd yn Llandaf ac ychydig dros filltir o ganol y ddinas.
- Wi-Fi am ddim
- Pob bil yn gynwysedig
- Yswiriant cynnwys
- Gwelyau dwbl 4 troedfedd
- Ceginau a rennir
- Cyfleusterau golchi
- Digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol
- Cyfleusterau storio beiciau
- Ardal gyffredin
- Gofod cymdeithasol awyr agored
- Diogelwch 24/7 a Theledu Cylch Cyfyng*
- Tîm gwasanaeth ar y safle*
- Mynediad diogel*
- Ap Myfyrwyr Unite**
* Mae'r adeilad yn cynnwys mynediad diogel, staffio 24/7, a Theledy Cylch Cyfyng er eich diogelwch a'ch lles.
** Mae'r ap Unite Students yn gadael i chi gysylltu â ffrindiau fflat yn y dyfodol, gofyn am gynnal a chadw, cael mynediad at gymorth, ac aros yn ddiweddaraf am hysbysiadau pwysig.
Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HJ
Mae Cambrian Point yn daith gerdded 20-25 munud o gampws Met Caerdydd yn Llandaf ac ychydig dros filltir o ganol y ddinas. Wedi'i leoli yn ardal fyfyrwyr poblogaidd Cathays, mae'n agos at siopau, amwynderau lleol, a mannau gwyrdd fel Blackweir Fields a Pharc Bute.
Mae llwybrau bws cyfagos yn darparu teithio'n hawdd i gampysau Llandaf a Chyncoed.
Mae Cambrian Point yn dewis poblogaidd gyda myfyrwyr gyda'u hastudiaethau wedi'u lleoli ar ein campws yn Llandaf.
Mae gan gampysau Plas Gwyn a Chyncoed sawl ystafell sy’n addas ar gyfer myfyrwyr ag anableddau sydd angen llety wedi ei addasu. Mae gan Neuaddau Partner ystafelloedd a fflatiau hygyrch, ac ystafelloedd y gellir eu haddasu i'w defnyddio gan y rhai ag anableddau corfforol.
Dewch o hyd i'ch holl opsiynau llety trwy'r dudalen Lety i Fyfyrwyr Anabl.
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymorth, ewch i'n Gwasanaeth Cefnogaeth Anabledd.
Cysylltwch â Ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am lety a byw ym Met Caerdydd, cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Llety.