Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Yn y cyfnod cyn yr Wythnos Groeso, rydym wedi crynhoi rhai awgrymiadau i'ch helpu i setlo a gwneud y bennod newydd hon mor hawdd â phosibl.

Pethau sydd eu hangen ar fyfyrwyr y glas ar gyfer 2025

Gweinyddiaeth bywyd – rhestr wirio

Trwydded deledu: Bydd angen trwydded deledu arnoch os oes gennych chi deledu yn eich neuadd breswyl neu os ydych chi'n defnyddio iPlayer i ddal i fyny. Gallwch gael y drwydded ar-lein.

Yswiriant cynnwys: Mae'n synhwyrol cael yswiriant cynnwys i amddiffyn eich eiddo rhag ofn y byddan nhw'n mynd ar goll neu'n cael eu dwyn. Mae Hyb Myfyrwyr Confused.com yn cynnwys llu o ddarparwyr yswiriant sydd ar gael i'ch helpu i ddod o hyd i'r polisi cywir.

Cofrestrwch gyda meddyg teulu fel y gallwch gael gofal arferol a brys os oes ei angen arnoch. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych chi gyflwr iechyd parhaus. Mae rhagor o wybodaeth am opsiynau gofal iechyd ar gael ar Met Canolog.

Y dreth gyngor: Fel myfyriwr, rydych chi wedi'ch eithrio rhag talu'r dreth gyngor. Os ydych chi'n byw mewn llety rhent preifat, bydd angen i chi roi gwybod i'ch cyngor lleol am eich cyfeiriad newydd.

Cardiau teithio: Os ydych chi'n 16 – 21 oed ac yn byw yng Nghymru, yn ystod eich amser yn astudio ym Met Caerdydd mae gennych chi hawl i wneud arbediad mawr ar wasanaeth bws y Brifysgol, Met Wibiwr.

Cyllid – Gall tîm Cyngor Ariannol Met Caerdydd eich helpu gydag unrhyw bryderon cyllidebu ac ariannol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar CanolbwyntMet.

Dysgu hobi/sgil bywyd newydd

Dysgwch goginio: gall bwyd fod yn ffordd wych o gysylltu â phobl, dysgu ryseitiau newydd o wahanol gefndiroedd a diwylliannau a gwneud ffrindiau newydd. Awgrymwch swper yn y tŷ unwaith yr wythnos - mae'n rhaid i bawb ddod â chynhwysyn a bydd un person yn addysgu gweddill y grŵp sut i goginio pryd o fwyd.

Ymunwch â thîm chwaraeon/campfa: mae cadw'n heini yn ffordd dda o gadw'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol, ond gallech chi hefyd ddarganfod hobi rydych chi'n ei garu drwy wneud hynny a chwrdd â phobl newydd ar yr un pryd. Mae Met Caerdydd yn cynnig aelodaeth campfa a nofio AM DDIM i fyfyrwyr eleni, felly does dim amser gwell i ymuno.

Rydych chi bellach ym mhrifddinas Cymru. Os ydych chi'n newydd i Gymru, archwiliwch weithgareddau oddi ar y campws yn Croeso

Cymru: https://www.croeso.cymru/cy/pethau-iw-gwneud

Ailgylchu – efallai y bydd hyn yn newydd i chi gan mai dyma'r tro cyntaf i chi fyw oddi cartref. Gofalwch eich bod yn gwybod pa eitemau i'w gwahanu a chyfrannwch at gadw'r amgylchedd yn lân ac yn daclus. Mae gwybodaeth am ailgylchu a gwastraff ar gael ar dudalen we Cyngor Caerdydd.

Gofalwch am eich iechyd meddwl

Gall dechrau yn y brifysgol arwain at deimladau o orbryder, ond cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun ar y daith hon ac y bydd pob person yn teimlo cymysgedd o emosiynau wrth iddyn nhw gychwyn ar y bennod gyffrous hon mewn bywyd. Cofiwch y pethau canlynol:

  • Rhowch amser i chi'ch hun – efallai na fydd yn teimlo fel cartref yn syth, ac mae hyn yn iawn. Rhowch luniau o ffrindiau, teulu a'r pethau a fydd yn gwneud i'ch lle newydd deimlo'n gyfarwydd i'ch helpu chi i setlo.
  • Peidiwch â rhoi pwysau arnoch chi'ch hun – marathon yw e, nid sbrint. Mae dechrau cwrs newydd a symud i ddinas newydd yn beth mawr – gosodwch dasgau dyddiol i chi'ch hun ac ysgrifennwch restr i'w wneud, gan dicio pethau i ffwrdd yn yr wythnosau cyntaf fel bod pethau'n teimlo'n llai llethol.
  • Rhowch flaenoriaeth i'r hyn sy'n eich gwneud chi'n hapus – gwnewch amser i gael coffi yn y bore, pryd maethlon gyda'r nos a mynd am dro yn ystod y dydd. Gwrandewch ar y pethau sy'n eich gwneud chi'n hapus a cheisiwch gynnwys y rheini yn eich trefn arferol.
  • Ceisiwch gadw meddwl agored – mae'r brifysgol yn ymwneud â dysgu, ond byddwch yn dysgu amdanoch chi'ch hun hefyd. Rhowch gynnig ar bethau newydd, gwrandewch ar bobl a chofiwch, mae hon yn daith.