Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Hanfodion y Llyfrgell

Eich cerdyn adnabod myfyriwr yw eich cerdyn llyfrgell ac allwedd eich drws hefyd. Gallwch gael benthyg 30 o lyfrau (ar y tro) ac adnoddau electronig diderfyn (e-lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data).

Fel dechreuad, edrychwch ar ein tudalennau Hanfodion y Llyfrgell lle byddwch yn dod o hyd i’r holl awgrymiadau a gwybodaeth i’ch rhoi ar ben ffordd i ddechrau gwych ar eich taith ddysgu.

Mae gan dudalennau gwe y Gwasanaethau Llyfrgell wybodaeth am oriau agor, mannau astudio a phopeth sydd angen i chi ei wybod i gael gafael ar yr adnoddau a'r cymorth a gynlluniwyd i'ch cefnogi yn eich dysgu drwy gydol eich amser ym Met Caerdydd. Gallwch e-bostio'r Llyfrgell neu ddewch i siarad â'n tîm Llyfrgell cyfeillgar wyneb yn wyneb yn ystod yr Wythnos Groeso.