Eich Cerdyn Met
Unwaith y bydd eich lle wedi'i gadarnhau a'ch bod wedi cwblhau'r broses ymrestru ar-lein, gallwch lanlwytho ffotograff ar gyfer eich Cerdyn Met.
Gallwch glicio ar y traciwr cofrestru hwn i weld eich statws. Bydd y ‘goleuadau traffig’ cyntaf yn troi’n wyrdd pan fyddwch chi’n barod i gofrestru.
- Ar y sgrin mewngofnodi defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost Myfyriwr i fewngofnodi, e.e., st21234567@outlook.cardiffmet.ac.uk.
- Dim ond pan fydd golau traffig Cam 1 wedi troi’n wyrdd y byddwch chi’n barod i gofrestru.
- Gwnewch yn siŵr bod yr holl gamau wedi’u cwblhau cyn mynd i gasglu eich CerdynMet (rhaid i’r goleuadau traffig fod yn wyrdd).
- Os yw unrhyw un o’r goleuadau traffig yn goch yna cliciwch ar yr eicon ‘i’ am wybodaeth berthnasol am yr hyn sy’n ofynnol i gwblhau’r cam hwnnw.
Bydd eich CerdynMet yn rhoi mynediad i gyfleusterau'r campws, llety yn y neuaddau preswyl (os ydych yn fyfyriwr preswyl), gwasanaethau Llyfrgell a TG, a’r hunanwasanaeth argraffu a chopïo. Bydd angen eich CerdynMet arnoch hefyd os ydych yn ymuno â champfa’r Brifysgol (sydd am ddim i bob myfyriwr).
Yna byddwch yn gallu casglu eich CerdynMet naill ai:
- Yn ystod ein digwyddiad 'Paratoi ar gyfer Met Caerdydd' ar 4 Medi (bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn drwy e-bost)
- Pan fyddwch chi'n symud i neuaddau Met Caerdydd (os yn berthnasol)
- Neu yn ystod yr Wythnos Groeso drwy fewngofnodi cais yma