Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored, cofrestrwch nawr

Sesiwn Cynefino Sgiliau Digidol

Mae'r broses cynefino Hanfodion Digidol yn rhoi'r sgiliau digidol craidd sydd eu hangen arnoch fel glasfyfyriwr i astudio ym Met Caerdydd. Mae rhagor o fanylion TG yn yr adran Cwestiynau Cyffredin.

Byddwch yn dysgu am y technolegau a'r arferion digidol sy'n eich galluogi i ymgymryd â'ch astudiaethau wrth ddysgu yn y cnawd ac wrth ddysgu ar-lein.

Mae'r broses sefydlu yn archwilio systemau hanfodol fel Moodle, e-bost, ein Wi-Fi, rheoli eich dogfennau a Microsoft Teams – y platfform cyfathrebu digidol a fydd yn ganolog i'ch dysgu.

Dyma beth sydd angen i chi ei wneud:

  • Cwblhau a phasio'r e-wers sefydlu Hanfodion Digidol.
  • Mynychu a chwblhau'r sesiynau hyfforddi Cyflwyniad i Teams a Rheoli Dogfennau ym Met Caerdydd, sy'n adeiladu ar yr e-wers sefydlu.

Gallwch gwblhau'r e-wers Hanfodion Digidol unrhyw bryd - dylai gymryd tua 25 munud. Rydym yn awgrymu eich bod yn ei chwblhau cyn i chi gyrraedd Met Caerdydd.

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer y ddwy sesiwn hyfforddi. Bydd y rhain yn cael eu cynnal drwy gyfarfod Microsoft Teams yn yr Wythnos Groeso ac yn ystod pythefnos cyntaf y tymor. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth yn eich ebyst Croeso.

Fel ein holl gyrsiau, mae cwblhau'r sesiwn sefydlu yn llwyddiannus yn arwain at fathodyn digidol Sefydlu Hanfodion Digidol – prawf o'ch sgiliau y gallwch eu rhannu'n hawdd gyda chyflogwyr. Ewch i'r dudalen Hanfodion Digidol i ddechrau.

Ewch i'r dudalen Hanfodion Digidol i ddechrau arni.