Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Mae'r Wythnos Groeso, sy'n dechrau ddydd Llun 22 Medi, yn cynnig cyfres o weithgareddau a digwyddiadau sydd â'r nod o'ch helpu i ddod i adnabod Met Caerdydd, ymgysylltu â'ch rhaglen astudio a meithrin cysylltiadau â staff a chyd-fyfyrwyr, gan sicrhau eich bod yn setlo i'ch taith academaidd o'r diwrnod cyntaf. Cewch amser hefyd i ddarganfod y ddinas a fydd yn gartref i chi.

Bydd gennym hybiau Wythnos Groeso ar y campws, sef y lle i fynd i ddarganfod popeth sydd angen i chi ei wybod a lle byddwn yn ateb unrhyw gwestiwn sydd gennych chi. Bydd staff a llysgenhadon myfyrwyr ar draws y campws ar gael i'ch cefnogi chi.

Bydd yr hybiau ar agor o 9yn tan 4yp ar ddydd Llun 22 Medi tan ddydd Gwener, 26 Medi. Nodwch y bydd hyb Campws Llandaf yn cau ddydd Mercher 24c Medi a bydd gweithgareddau’n symud i Gyncoed ar gyfer Ffair y Glas Undeb y Myfyrwyr. Peidiwch â’i cholli.

Bydd cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau – rhai cymdeithasol a rhai a fydd yn rhoi blas i chi o'r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl yn ystod eich astudiaethau ym Met Caerdydd.

Cadwch lygad am eich e-byst croeso i gael rhagor o wybodaeth am yr Wythnos Groeso, gan gynnwys eich amserlenni gyda manylion eich sesiwn academaidd gyntaf.