Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Dewiswch eich taith eich hun. Diffiniwch eich diddordebau, eich ymarfer, ac ymgolli mewn archwilio.
Bydd angen gallu arbennig a phrin i gael dod yn artist cain. Bydd angen sgil technegol a mewnwelediad creadigol i gynhyrchu gwaith a fydd yn cyfleu persbectif gwreiddiol.
Mae ein cwrs gradd BA Celfyddyd Gain yn rhoi lle, rhyddid a chefnogaeth i chi fynegi eich gweledigaeth artistig yn llawn. Bydd gennych fynediad i'ch gofod stiwdio eich hun a byddwch yn gweithio gyda'r staff academaidd a thechnegol i ddiffinio a datblygu eich diddordebau. Byddwch yn gweithio ar draws disgyblaethau a galluoedd, gan gynnwys: Dysgu yn seiliedig ar broses a deunyddiau, paentio, fideo, gwneud printiau, ffotograffiaeth, lluniadu, perfformio, cerflunio, celf gyhoeddus, arferion cyfranogol a chynhwysol, gwaith coed, gwaith metel, cerameg, castio efydd, a gwnïo.
Byddwch yn datblygu sgiliau drwy weithio’n agos gyda deunyddiau traddodiadol a thechnolegau cyfoes o fewn diwylliant ymarfer stiwdio. Bydd gweld eich gwaith celf yng nghyd-destun hanesyddol a chyd-destunau ehangach eraill yn rhan allweddol o’ch esblygiad yn artist.
Drwy gymysgu archwilio, ymarfer ac athroniaeth deunyddiau, byddwch yn edrych yn fanwl ar y cysylltiadau cymhleth rhwng syniadau damcaniaethol a chysyniadol a bwriad artistig. Byddwch yn magu mewnwelediad oddi wrth gyd-destunau rhyng-ddisgyblaethol amrywiol, yn ymgysylltu â theori beirniadol ac yn dysgu i’w defnyddio yn eich gwaith.
Byddwch yn uchelgeisiol, yn ddisgybledig ac yn ysgogol yn eich ymarfer a byddwch yn graddio â’r sgiliau, yr hyder a’r gallu allweddol i barhau â’ch siwrnai yn artist proffesiynol.
Wrth i chi symud ymlaen drwy’r cwrs byddwch yn datblygu eich sgiliau technegol a chreadigol drwy archwilio deunyddiau amrywiol a’r defnydd ar gyfryngau. Bydd mynediad gennych i’ch gofod stiwdio chi eich hunan a byddwch yn gweithio gyda’r staff academaidd i ddiffinio ac i ddatblygu eich diddordebau a’ch arferion mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- Meddwl yn feirniadol / barn gritigol (wedi trwytho ym meddwl/ymarfer celf hanesyddol a chyfoes)
- Proses a Dysgu yn seiliedig ar Ddeunyddiau: (peintio, fideo, animeiddio, gwneud printiau, ffotograffiaeth, lluniadu, perfformio, plastr, roboteg, celf gyhoeddus, arferion cyfranogol a chynhwysol, gwaith coed, gwaith metel, cerameg, dylunio cynhyrchion, castio efydd, gwnïo)
- Cyfrifoldeb Unigol/Hunan-Ysgogiad
- Annibyniaeth / Hyder / Dychymyg / Chwarae
- Ymarfer ar hap wedi’i yrru gan ymholi
Bydd digon o gyfleoedd i gael rhyngweithio gydag ymarferwyr a phartneriaid allanol. Gallwch ddewis dysgu sut bydd practis proffesiynol yn gweithredu drwy leoliadau diwydiant. Gallwch archwilio beth fydd gan entrepreneuriaeth i’w gynnig i’r artist cyfoes. Neu gallwch astudio dramor gan gael eich ysbrydoli gan ddiwylliannau a phobl wahanol.
Byddwch yn treulio’ch blwyddyn olaf yn cynhyrchu gwaith ar gyfer arddangosfa. Byddwch hefyd yn cwblhau cynllun busnes, traethawd hir neu arolwg beirniadol – eich dewis chi fydd hynny, yn dibynnu ar i ble y byddwch am fynd â’ch gyrfa artistig nesaf.
Blwyddyn Un
Pwnc: Cyflwyniad i gysyniad, proses ac ymarfer - 40 credyd
Pwnc: Cyflwyniad i ymarfer stiwdio annibynnol - 20 credyd
Ewch amdani ar unwaith gyda phrosiectau ymarfer â deunyddiau a fydd wedi’u cynllunio i’ch cael i feddwl am eich ymarfer stiwdio unigol. Â chymorth oddi wrth eich tiwtoriaid, byddwch yn dechrau adeiladu eich meddwl beirniadol – ac yn ymgyfarwyddo â’r amryfal brosesau y bydd rhaid i chi weithio gyda nhw. Lluniadu yw’r ffordd bwysicaf i fagu dealltwriaeth o’ch perthynas â’r byd a bydd yn ganolog i astudiaeth celfyddyd gain. Drwy ymuno â’r rhaglen lluniadu cyfeiriedig, byddwch yn datblygu syniadau, yn cyfathrebu syniadau cymhleth ac yn datrys problemau cysyniadol.
Hanfodion Ymchwil - 20 credyd*
Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau ymchwil academaidd craidd myfyrwyr gan gynnwys dod o hyd i ffynonellau, gwerthuso hygrededd, a dadansoddi gwybodaeth. Bydd yn darparu'r sylfeini a fydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin eu hyder i gymryd rhan mewn disgwrs damcaniaethol a deialogau sy'n seiliedig ar syniadau a fydd yn ofynnol trwy gydol eu hastudiaethau israddedig.
Dealltwriaeth Ryngddisgyblaethol - 40 credyd
Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i egwyddorion gweithio Rhyngddisgyblaethol: gweithio ar y cyd, meddwl a myfyrio'n feirniadol. Bydd prosiectau o fewn y modiwl yn eich herio i weithio gyda disgyblaeth arall i archwilio thema neu her gymdeithasol a diwylliannol.
Blwyddyn Dau
Pwnc: Ymchwil ar sail Ymarfer - 40 credyd
Byddwch yn dechrau archwilio’ch sefyllfa artistig eginol drwy astudiaeth drylwyr o weithiau celf allweddol o fewn holl weithiau celfyddyd gain a fydd o ddiddordeb personol i chi mewn amgueddfa, oriel neu gasgliad preifat; gall hyn fod yn ganolbwynt i’ch ymchwil a’r catalydd a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich ymarfer a’ch safbwynt. Ynghyd â thiwtorialau, darlithoedd a beirniadaeth grŵp, byddwch yn treulio amser yn y stiwdio yn ogystal ag yn ymweld ag orielau, amgueddfeydd a chanolfannau rhagoriaeth cenedlaethol eraill.
Heriau'r 21ain Ganrif - 40 credyd
Mae'r modiwl Heriau'r 21ain Ganrif yn adeiladu ar y cyflwyniad i ddatrys problemau rhyngddisgyblaethol a ddatblygwyd ar lefel 4 i barhau i fireinio, a dechrau cymhwyso, eich setiau sgiliau trwy brosiectau byd go iawn a briffiau byw. Bydd prosiectau'n mynd i'r afael â Heriau'r 21ain Ganrif i ddatblygu eich sgiliau arwain, cydweithio, llythrennedd/meddwl beirniadol yn y dyfodol.
Cyd-destunau Byd Go Iawn - 20 credyd
Mae'r modiwl Cyd-destunau Byd Go Iawn yn eich herio i gymhwyso'r ymwybyddiaeth leol a'r sgiliau meddwl am y dyfodol i ddefnyddio'ch ymarfer eich hun wrth greu neu hyrwyddo gwerth ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid a chymunedau allanol.
Cynnig Ymchwil - 20 credyd*
Mae'r Cynnig Ymchwil yn cynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau ymchwil, atgyfnerthu eich profiad ymchwil a chyfeirio eich cyfraniad lefel 6 o amgylch ymholiad o'ch dewis sydd wedi'i ysbrydoli gan eich dysgu ar draws yr holl fodiwlau ar lefel 4 a 5. Defnyddir y cynnig ymchwil hwn i barhau â'ch datblygiad personol a phroffesiynol ar lefel 6 lle byddwch yn nodi llwybr ar gyfer eich ymholiad eich hun.
Blwyddyn Tri
Pwnc: Cyfnerthu - 40 credyd
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cyrraedd safon broffesiynol ac yn diffinio paramedrau eich ymarfer chi eich hunan. Byddwch yn mireinio sgiliau ymarferol a damcaniaethol ac yn eu defnyddio i greu darnau gwreiddiol trawiadol. Byddwch yn rhoi eich gwaith mewn cyd-destun ac yn archwilio’i botensial drwy sesiynau beirniadu agored a seminarau gyda’ch tiwtoriaid a’ch cyd-artistiaid.
Profiad Ymarferol - 20 credyd
Nod y modiwl yw cefnogi eich parodrwydd i ddatblygu eich gyrfa broffesiynol unigryw. Bydd yn ymgorffori priodoleddau sy'n adlewyrchu gofynion ymarfer yn y byd go iawn sy'n cyd-fynd â'ch disgyblaeth arbenigol.
Cewch gyfle i fyfyrio ar sut mae eich profiadau dros y 3 blynedd diwethaf wedi caniatáu ichi ddatblygu'n weithiwr proffesiynol wrth baratoi ar gyfer gwaith lefel graddedig, astudio parhaus, ymchwil, a mentrau entrepreneuraidd.
Cyfraniad - 40 credyd*
Mae eich ymarfer yn seiliedig ar eich gwybodaeth. Cewch gyfleu i arddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad ymchwil terfynol, lle byddwch yn archwilio syniadau ar ffurf ysgrifenedig ac ymarferol.
* modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae pob rhaglen israddedig yn yr Ysgol Gelf a Dylunio yn cael ei haddysgu o fewn amgylchedd dysgu rhyngddisgyblaethol.
Mae ein cwricwlwm sy’n arwain y sector wedi’i gynllunio mewn perthynas â llenyddiaeth gyfredol ac arferion gorau ledled y DU ac Ewrop, gan ddarparu cyfleoedd dysgu dilys i fyfyrwyr gyda ffocws ar sefyllfaoedd bywyd go iawn a datrys problemau byd go iawn. Mae ein graddedigion yn barod ar gyfer, ac yn addasadwy i, weithio a byw yn yr 21ain ganrif, wedi’u gyrru gan greadigrwydd, cyfrifoldeb cymdeithasol, llythrennedd y dyfodol a meddwl ac ymddygiadau entrepreneuraidd. Gallwch ddarllen mwy am ein cwricwlwm israddedig yma.
Dysgu yn y Stiwdio
Cyflwynir pob rhaglen drwy ddull dysgu yn y stiwdio, gydag amgylchedd dilys sy’n annog cydweithio, archwilio annibynnol, a phrofiad dysgu a rennir. Mae gofodau stiwdio wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion penodol eich disgyblaeth, gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu megis seminarau grŵp, beirniadaethau, cyflwyniadau, tiwtorialau un-i-un, gweithdai technegol, ac astudiaeth annibynnol dan arweiniad. Mae’r amgylchedd hwn yn cefnogi datblygiad dysgu dan arweiniad myfyrwyr, lle gallwch lunio ffocws ac arbenigedd eich ymchwil, gan weithio’n annibynnol gyda chanllawiau gan staff academaidd a thechnegol arbenigol.
Gweithdai Ymarferol
Byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau stiwdio a gweithdai ymarferol, gan feithrin sgiliau craidd mewn deunyddiau a phrosesau sy’n berthnasol i’ch disgyblaeth. Mae darlithoedd yn darparu fframwaith damcaniaethol sy’n ategu eich ymarfer stiwdio, tra bod seminarau grŵp llai yn cynnig cefnogaeth wedi’i thargedu ar gyfer twf ymarferol. Mae prosiectau grŵp cydweithredol yn creu cyfleoedd i feithrin cysylltiadau a datblygu sgiliau gwaith tîm a all ymestyn i brosiectau allgyrsiol neu bersonol. Mae beirniadaethau rheolaidd (beirniadaethau stiwdio), sesiynau briffio a chyflwyniadau wedi’u cynllunio i ddatblygu meddwl yn feirniadol, cyfathrebu effeithiol a meithrin hyder i gyflwyno gwaith yn weledol ac ar lafar.
Dysgu yn Seiliedig ar Brosiectau
Nod strategaethau dysgu yw datblygu cymwyseddau proffesiynol wrth hyrwyddo meddwl yn feirniadol a chreadigol. Rhoddir ffocws cryf ar ddysgu sy’n seiliedig ar brosiectau a dysgu sy’n seiliedig ar broblemau, lle byddwch yn mynd i’r afael â phrosiectau sy’n amrywio o ran cwmpas: o friffiau penodol i brosiectau byw dan arweiniad myfyrwyr a phrosiectau byd go iawn. Mae pob prosiect yn eich herio i ddadansoddi problemau, cynnal ymchwil, gwneud penderfyniadau, a datblygu atebion technegol a chreadigol. Bydd gan brosiectau amcanion diffiniedig, ond fe’ch anogir i ddatblygu dehongliad unigol.
Hunanfyfyrio
Cefnogir myfyrwyr ymhellach trwy Gynllun Datblygu Personol (CDP) strwythuredig, sy’n annog hunanfyfyrio a datblygiad proffesiynol. Mae’r ddogfen hon yn gwasanaethu fel cofnod o ddatblygiad a phortffolio, gan dynnu sylw at eich corff o waith sy’n esblygu. Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn cael eich cyflwyno i senarios byd go iawn, gan gydweithio’n aml â gweithwyr proffesiynol allanol yn y diwydiant, siaradwyr gwadd, neu ar leoliadau, gan roi amlygiad gwerthfawr i chi i safonau ac arferion y diwydiant.
Adnoddau Rhithiol
Mae cymorth ychwanegol ar gael trwy diwtoriaid academaidd personol, sy’n rhoi arweiniad ar faterion academaidd a’ch taith drwy’r radd, gan gyfrannu at lesiant myfyrwyr a’ch helpu i ddod o hyd i lwybr proffesiynol o fewn y rhaglen. Mae Amgylchedd Dysgu Rhithiol yn ategu dysgu wyneb yn wyneb trwy gynnig ystod o adnoddau, fforymau trafod ac offer hunanasesu. Mae’r platfform hwn hefyd yn galluogi asesiad ffurfiannol ac yn hwyluso cyfathrebu o fewn y rhaglen.
Mae’r dull dysgu ac addysgu integredig hwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn caffael gwybodaeth sylfaenol a sgiliau uwch, penodol i’r ddisgyblaeth. Drwy gyfuno dealltwriaeth ddamcaniaethol â chymhwysiad ymarferol, mae’r cwrs yn paratoi myfyrwyr ar gyfer dysgu gydol oes gynaliadwy ac yn eu cyfarparu â’r cymwyseddau i lywio a chyfrannu at eu meysydd dewisol.
Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:
Sgiliau: Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.
Cyd-Destun: Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’i leoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.
Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn eich disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol.
Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.
Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.
Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.
Er y bydd eich dysgu wedi’i ddylunio i’ch datblygu yn artist a pherson deallusol cytbwys, bydd eich cwricwlwm wedi’i strwythuro yn yr un modd â’ch potensial mewn golwg.
Bydd y pwyslais a fydd wedi’i roi ar eich etheg gwaith, yn greadigol ac yn academaidd, wedi’i baru â ffocws sylweddol ar brofiad yn y byd go iawn: o adeiladu cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau hyd at friffiau byw a chymorth i ffurfio’ch busnes chi eich hunan os dewiswch wneud hynny.
Ceir cyfleoedd aml i ryngweithio ag ymarferwyr a phartneriaid allanol, orielau, artistiaid ac ymarferwyr creadigol. Gallwch ddewis dysgu sut mae arferion proffesiynol yn gweithredu trwy leoliadau diwydiant, ac archwilio'r hyn sydd gan entrepreneuriaeth i'w gynnig i artistiaid cyfoes. Yn ogystal â dod yn artistiaid hunangyflogedig proffesiynol, gall ein graddedigion fynd ymlaen i sefydlu orielau, dod yn guraduron, gwneuthurwyr theatr/setiau, athrawon, dylunwyr ffasiwn, technegwyr neu ymgymryd ag astudiaeth bellach.
Gallwch ddewis dilyn trywydd penodol drwy ail a thrydedd flwyddyn eich astudiaethau lle y gallwch weithio’n agos gyda busnesau neu lansio’ch busnes eich hunan ar gyfer y foment y byddwch yn graddio. Yn eich blwyddyn olaf, yn hytrach na chyflwyno traethawd hir, gallwch ddewis llunio cynllun busnes manwl.
Ar hyd eich amser yn yr Ysgol Gelf a Dylunio byddwch yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r tu fewn i’ch diwydiant ac yn clywed oddi wrthyn nhw, ac yn hogi eich sgiliau a’ch syniadau ar gyfer mantais fasnachol a phroffesiynol. Bydd prosiectau traws-ddisgyblaethol yn eich paratoi ar gyfer gwaith tîm yn nes ymlaen a bydd briffiau byw yn eich paratoi ar gyfer dyddiadau cau a a galwadau manylebau tynn.
Cynigion Nodweddiadol
- Pwyntiau tariff: 96-120
- Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
- TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
- Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
- Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru fel trydydd pwnc.
- Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
- Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
- Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
- Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
- Gofynion eraill: Adolygiad portffolio llwyddiannus. Am ragor o wybodaeth darllenwch ein tudalen Cyngor i Ymgeiswyr.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.
Beth sydd wedi’i gynnwys?
Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleusterau arbenigol ar gyfer ein rhaglenni creadigol, gyda stiwdios pwrpasol, gweithdai pwrpasol, ac offer technegol helaeth. Byddwch yn cael mynediad i’r gweithdai hyn yn dilyn sesiynau sefydlu llwyddiannus, a chewch eich cefnogi gan dîm technegol medrus iawn.
Ni chodir ffi stiwdio arnoch a chewch yr holl ddeunyddiau hanfodol sydd eu hangen arnoch i ddysgu’r prosesau y mae eich cwrs yn gofyn amdanynt.
Mae Met Caerdydd yn Gampws Creadigol Adobe®, ac mae gan fyfyrwyr YGDC fynediad i’r Adobe® Creative Cloud llawn heb unrhyw gost ychwanegol.
Rydym yn ymfalchïo yn arwain y ffordd mewn arferion stiwdio a gweithdy cynaliadwy. Boed hynny’n llythrennedd carbon, ailddefnyddio, lleihau gwastraff a gwyddor deunyddiau, byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio deunyddiau’n ymwybodol wrth i chi ddatblygu ffordd eich hun o weithio. Bydd y canlynol hefyd yn rhan ohono:
- Stiwdios pwrpasol ar gyfer gwaith annibynnol neu astudiaeth grŵp
- Teithiau astudio yn y DU sy’n ganolog i’ch profiad dysgu
- Cyfleusterau digidol creadigol wedi’u teilwra i’ch cwrs, fel meddalwedd benodol, cyfleusterau argraffu neu offer delweddu digidol
- Cyfleusterau TG a llyfrgell, sy’n cynnwys ystod eang o lyfrau artistiaid, cyhoeddiadau, cyfnodolion, cylchgronau ac adnoddau digidol i gefnogi eich dysgu a’ch ymchwil
Beth yw cost ychwanegol?
Wrth ddatblygu prosiectau unigol, byddwch yn dewis ac yn darparu eich deunyddiau eich hun, y gellir prynu llawer ohonynt am bris cost ar y campws. Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i ddeunyddiau ychwanegol yn dibynnu ar eich uchelgeisiau creadigol a’ch cyllideb, ac yn unol â’n harferion cynaliadwy a diogel.
Mae’n bosib y bydd angen offer penodol i’r cwrs arnoch, ond bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar eich ymarfer. Anfonir pecyn ymuno atoch cyn i chi ddechrau, yn cynnwys gwybodaeth fanwl am unrhyw offer a argymhellir gan gynnwys cyngor ar fanylebau gliniaduron. Rydym yn argymell nad ydych yn gwneud pryniannau mawr cyn derbyn y pecyn ymuno neu siarad ag aelod o staff.
Rhai enghreifftiau o gostau ychwanegol:
- Bydd gliniadur neu dabled yn ddefnyddiol i fyfyrwyr a bydd angen iddynt ganiatáu iddynt brynu apiau a meddalwedd
- Teithiau astudio a rhaglenni cyfnewid dewisol yn y DU neu dramor
- Lleoliadau a chostau cysylltiedig fel teithio a llety
- Mynediad dewisol i FabLab Caerdydd sy’n destun taliadau am ddefnyddio offer a deunyddiau
- Costau deunyddiau wrth ddewis defnyddio offer arbenigol yn annibynnol, fel argraffu ffabrig digidol, argraffu 3D a thorri laser
- Costau eraill fel argraffu, copïo a phrynu gwerslyfrau
Am wybodaeth gyfredol am ffioedd dysgu a chymorth ariannol a allai fod ar gael tra byddwch ym Met Caerdydd, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â ni.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Thiwtor Derbyniadau BA (Anrh) Celfyddyd Gain, David Fitzjohn.
- Ebost: dfitzjohn@cardiffmet.ac.uk
-
Cod UCAS
W100
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
-
Hyd
3 blynedd yn llawn amser.
4 blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.
Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.