Gwneud Cais am Gyllid Myfyrwyr
Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig cartref yn gymwys i gael Cyllid Myfyrwyr.
Bydd hyn yn talu am gostau ffioedd dysgu, sy'n cael ei dalu gan Gyllid Myfyrwyr yn uniongyrchol i'r brifysgol.
Dylid ei ddefnyddio hefyd i helpu gyda chostau byw (a elwir yn fenthyciadau cynhaliaeth a/neu grantiau cynhaliaeth). Telir y grantiau hyn yn uniongyrchol i fyfyrwyr.
Bydd y dudalen hon yn ymdrin â'r canlynol:
- Cyllid Myfyrwyr a manylion cyswllt
- Cymhwysedd
- Sut i wneud cais
- Pryd i wneud cais
- Cyllid sydd ar gael
- Rhandaliadau Cyllid Myfyrwyr
- Ad-dalu'ch benthyciad
- Yr asesiad incwm aelwydydd
Cyrff Ariannu a Manylion Cyswllt Cyllid Myfyrwyr
Rydych chi'n gwneud cais i'r corff ariannu yn y wlad lle rydych chi'n byw fel arfer.
Nid yw ble rydych chi'n bwriadu astudio yn effeithio ar y corff ariannu rydych chi'n gwneud cais iddo, e.e. os ydych yn byw yn Lloegr fel arfer ac yn gwneud cais i Met Caerdydd, yna'r corff ariannu rydych chi'n gwneud cais iddo yw Student Finance England.
Dolenni isod i bob darparwr Cyllid Myfyrwyr:
- Mae myfyrwyr o Gymru yn gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru - ffôn 0300 200 4050
- Mae myfyrwyr o Loegr yn gwneid cais i Student Finance England - ffôn 0300 100 0607
- Mae myfyrwyr o'r Alban yn gwneid cais i Student Finance Scotland - ffôn 0300 555 0505
- Mae myfyrwyr o Ogledd Iwerddon yn gwneud cais i Student Finance Northern Ireland - ffôn 0300 100 0077
- Mae myfyrwyr o Ynys y Garn yn gwneud cais i Student Finance Guernsey - ffôn 01481 226560
- Mae myfyrwyr o Jersey yn gwneud cais i Student Finance Jersey - ffôn 01534 449450
- Mae myfyrwyr o Ynys Manaw yn gwneud cais i Isle of Man Student Awards - ffoniwch 01624 685822
I gael cyngor penodol yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol, cysylltwch â ni ar moneyadvice@cardiffmet.ac.uk neu cysylltwch â'ch corff ariannu yn uniongyrchol.
Cymhwysedd
Mae nifer o feini prawf cymhwysedd i allu derbyn Cyllid Myfyrwyr:
- Eich statws preswylio (pa wlad yn y DU rydych chi wedi byw ynddi, ac am ba hyd).
- Y cwrs rydych chi'n bwriadu ei astudio.
- Eich oedran (mae angen i chi fod dan 60 oed ar yr adeg y bydd eich cwrs yn dechrau i dderbyn y cymorth cymwys mwyaf).
- P'un a ydych chi wedi astudio ar lefel israddedig o'r blaen.
Mae rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gael ar wefan y corff ariannu penodol (dolenni isod).
Os ydych wedi astudio ar lefel israddedig o'r blaen ac wedi derbyn Cyllid Myfyrwyr, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am gyllid pellach.
Bydd hyn yn dibynnu ar ba mor hir y gwnaethoch astudio o'r blaen, ac a oedd unrhyw amgylchiadau eithriadol ar gyfer gadael eich cwrs blaenorol.
Hefyd, os ydych chi'n bwriadu astudio cwrs sy'n gymwys i gael bwrsari’r GIG, efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael Cyllid Myfyrwyr hyd yn oed os ydych wedi astudio o'r blaen. Gall y rheolau ar hyn fod yn gymhleth, felly rydym yn eich cynghori i gysylltu â'ch corff ariannu'n uniongyrchol i gael cyngor penodol i'ch amgylchiadau.
Sut i Wneud Cais
Y ffordd hawsaf yw gwneud cais ar-lein, i'r corff ariannu yn y wlad rydych fel arfer yn byw ynddi ar adeg gwneud cais am brifysgol.
Pan fyddwch chi'n cofrestru, rhoddir rhif Cyfeirnod Cwsmer unigryw i chi, a bydd angen i chi greu cyfrinair ac ateb cyfrinachol. Bydd angen y manylion hyn arnoch bob tro y byddwch chi'n mewngofnodi i'ch cyfrif Cyllid Myfyrwyr.
Pan fyddwch chi’n gwneud cais, gofynnir i chi ddarparu:
- eich Rhif Yswiriant Gwladol a manylion pasbort dilys.
- manylion cyswllt y rhiant rydych chi yn byw gydag ef fel arfer (neu'ch partner os ydych chi'n byw gydag ef). Gelwir y rhain yn eich 'noddwyr'.
Ar ôl i chi wneud eich cais, bydd Cyllid Myfyrwyr yn cysylltu â'ch noddwyr ac yn gofyn iddynt am eu manylion cyflogaeth a'u rhif Yswiriant Gwladol, i'w helpu i gyfrifo eich hawl Cyllid Myfyrwyr.
Ar ôl i chi wneud cais, gallwch fewngofnodi ar unrhyw adeg i wirio statws eich cais, cadarnhau unrhyw gamau sy’n ofynnol i gwblhau eich cais, a gweld copïau o unrhyw ohebiaeth y maent wedi'i hanfon atoch ynghylch eich cais.
Pryd i Wneud Cais
Gallwch wneud cais am Gyllid Myfyrwyr o fis Mawrth cyn i chi ddechrau eich astudiaethau.
Nid oes angen i chi aros nes bod gennych gynnig wedi'i gadarnhau.
Mae’r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais am asesiad a chyllid gwarantedig ar ddechrau'r tymor newydd ym mis Medi fel a ganlyn:
- Cyllid Myfyrwyr Cymru – 29 Mai 2026 ar gyfer myfyrwyr newydd, a 26 Mehefin 2026 ar gyfer myfyrwyr parhaus
- Student Finance England – 15 Mai 2026 ar gyfer myfyrwyr newydd, a 19 Mehefin 2026 ar gyfer myfyrwyr parhaus
Bydd angen i chi hefyd ail-wneud cais am gyllid ar gyfer pob blwyddyn o'ch cwrs.
Mae ceisiadau ar-lein fel arfer yn agor ym mis Mawrth bob blwyddyn, yn barod ar gyfer y mis Medi canlynol. I ailymgeisio, mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein Cyllid Myfyrwyr.
Os oes unrhyw un o'ch manylion wedi newid e.e., cyfrif banc, manylion cyswllt ac ati, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu diweddaru yn eich cais.
Cyllid sydd ar gael
Pan fyddwch chi'n gwneud cais ar gyfer Cyllid Myfyrwyr, byddwch yn gwneud cais ar gyfer dau elfen wahanol:
- Benthyciad ffioedd dysgu – bydd hwn yn talu cost lawn eich ffioedd dysgu blynyddol (fel arfer £9,790 i fyfyrwyr llawn amser yn 2026/27), a chaiff ei dalu'n uniongyrchol i'r brifysgol ar ôl i chi fynychu a chofrestru (bydd y brifysgol yn cadarnhau hyn ar eich rhan).
- Benthyciad/grant cynhaliaeth – y cyllid y bydd Cyllid Myfyrwyr yn ei ddarparu'n uniongyrchol i chi i helpu gyda chostau byw tra yn y brifysgol, fel rhent a biliau.
Bydd faint o fenthyciad/grant cynhaliaeth y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar ba gorff ariannu rydych chi'n gymwys i wneud cais iddo, a fyddwch yn byw 'gartref', neu 'oddi cartref', ac incwm aelwyd cyfunol eich rhiant(rhieni)/partner rydych chi'n byw gyda nhw (ac eithrio myfyrwyr o Gymru neu'r rheini sy'n cael eu dosbarthu'n 'annibynnol').
Ar gyfer 2026/27:
- bydd myfyrwyr sy'n gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru fel arfer yn derbyn £12,150 y flwyddyn os ydynt yn byw oddi cartref wrth astudio, a £10,315 y flwyddyn os ydynt yn byw gyda rhieni.
- bydd myfyrwyr sy'n gwneud cais i Student Finance England fel arfer yn derbyn rhwng £5,048 a £10,830 y flwyddyn os ydynt yn byw oddi cartref wrth astudio, a rhwng £4,013 a £9,118 y flwyddyn os ydynt yn byw gyda rhieni. Bydd yr union swm yn cael ei bennu gan brawf modd incwm yr aelwyd.
Efallai y bydd gennych hefyd hawl i gymorth ymarferol ychwanegol os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu anabledd dysgu penodol (a elwir yn Lwfans i Fyfyrwyr Anabl), neu hawl uwch os oes gennych blant dibynnol/dibynyddion sy'n oedolion.
Gofynnir i chi gadarnhau hyn yn eich cais Cyllid Myfyrwyr.
Rhandaliadau Gwobr Cyllid Myfyrwyr
Ar ôl i'ch cais gael ei asesu, byddwch yn derbyn llythyr hawl dyfarniad (bydd copi o hyn hefyd ar gael ar eich cyfrif ar-lein).
Bydd y llythyr hwn yn rhoi gwybod i chi am y dyddiadau y byddwch yn derbyn eich benthyciad/grant cynhaliaeth. Mae hyn fel arfer yn cael ei dalu i chi mewn 3 rhandaliad ar wahân ar ddechrau pob tymor.
Os gwnaethoch wneud cais erbyn y dyddiadau cau a nodir uchod, dylech dderbyn eich taliad cynhaliaeth cyntaf yn ystod wythnos gyntaf y tymor.
Weithiau bydd myfyrwyr yn profi oedi wrth dderbyn eu Cyllid Myfyrwyr gan nad yw'r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani wedi'i darparu – mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys manylion am incwm aelwyd neu statws priodasol y gofynnwyd amdanynt yn uniongyrchol gan rieni myfyrwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom yn moneyadvice@cardiffmet.ac.uk.
Ad-dalu'ch Benthyciad
Mae llog yn dechrau cronni ar fenthyciadau Cyllid Myfyrwyr o'r dyddiad y caiff ei roi i chi.
Bydd faint o log rydych chi'n ei dalu a'ch 'trothwy cyflog' yn dibynnu ar ba gynllun ad-dalu sy’n berthnasol i chi. Fe welwch yr wybodaeth hon ar eich cyfrif Cyllid Myfyrwyr ar-lein unwaith y bydd eich cais wedi'i asesu.
Ni fydd yn rhaid i chi ddechrau ad-dalu ffioedd dysgu a benthyciadau cynhaliaeth tan fis Ebrill ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs, a dim ond wedyn os ydych chi'n ennill dros y trothwy cyflog perthnasol.
Mae graddedigion sy'n ad-dalu benthyciadau israddedig ar hyn o bryd yn ad-dalu 9% o'r hyn y maent yn ei ennill dros y trothwy cyflog bob mis, e.e, os ydych chi'n ennill £26,000 y flwyddyn a bod cyflog trothwy eich cynllun ad-dalu yn £25,000, byddwch yn talu 9% o £1,000 dros y flwyddyn mewn didyniadau a wneir o'ch cyflog gan eich cyflogwr, felly £90 mewn didyniadau blynyddol.
Mae'r didyniadau yn cael eu gwneud gan eich cyflogwr ar yr un pryd â threth incwm ac Yswiriant Gwladol, a bydd y symiau a dalwyd yn cael eu dangos ar eich slipiau cyflog.
Asesiadadau Incwm Aelwydydd Cyllid Myfyrwyr
Mae'r asesiad incwm aelwydydd yn brawf modd a fydd yn pennu pethau gwahanol ar gyfer pob corff ariannu:
Ar gyfer Ymgeiswyr Cyllid Myfyrwyr Cymru
Mae'r swm y bydd myfyrwyr a ariennir gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn ei dderbyn yn dibynnu ar a ydynt yn byw oddi cartref neu gyda rhieni yn ystod eu hastudiaethau, ac nid yw incwm yr aelwyd yn effeithio arno. Fodd bynnag, bydd incwm aelwyd y rhiant neu'r partner rydych chi'n byw gyda nhw yn penderfynu faint o Gyllid Myfyrwyr rydych chi'n ei dderbyn fel grant na ellir ei ad-dalu, a faint fel benthyciad ad-daladwy.
Ar gyfer ymgeiswyr Student Finance England
Bydd incwm aelwyd y rhiant neu'r partner rydych chi'n byw gyda nhw yn penderfynu faint o fenthyciad cynhaliaeth Cyllid Myfyrwyr y byddwch chi'n ei dderbyn – po uchaf yw incwm yr aelwyd, yr isaf yw'r benthyciad cynhaliaeth Cyllid Myfyrwyr y byddwch chi'n ei dderbyn.
Ar gyfer myfyrwyr sydd ag incwm aelwyd o £65,000 neu fwy, bydd y lefel isaf o gynhaliaeth Cyllid Myfyrwyr yn cael ei thalu.
Ymgeiswyr Cyllid Myfyrwyr o Ardaloedd Eraill y DU
Cyfeiriwch at y dolenni uchod ar gyfer yr ardal lle rydych chi'n byw i gael rhagor o fanylion am sut mae incwm aelwydydd yn cael ei asesu.
Prawf Modd Incwm Aelwydydd Cyllid Myfyrwyr
Bydd y prawf modd yn seiliedig ar eu hincwm a enillwyd mewn blwyddyn ariannol flaenorol.
I'r rheini sy'n dechrau prifysgol ym mis Medi 2026, y flwyddyn ariannol a ddefnyddir ar gyfer yr asesiad fydd 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025.
Os yw incwm aelwyd eich rhiant/partner wedi gostwng gan 15% neu fwy ers y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben 31 Mawrth 2025, mae gan Gyllid Myfyrwyr broses ar waith i'ch galluogi i gael eich ailasesu ar incwm aelwyd y flwyddyn ariannol gyfredol - gelwir hyn yn asesiad incwm y flwyddyn gyfredol. Dim ond ar ôl darparu manylion y flwyddyn ariannol flaenorol yn gyntaf y gellir gwneud hyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn gan eich corff ariannu.
Os ydych chi'n byw gydag un rhiant yn unig, byddwch yn cael eich asesu ar ei incwm aelwyd, ond os ydych chi'n byw gyda rhiant a llys-riant, bydd eu hincwm ar y cyd hefyd yn cael ei gynnwys yn yr asesiad incwm. Os ydych chi'n rhannu eich amser rhwng byw gyda'r ddau riant, gofynnir i chi gynnwys manylion y rhiant rydych chi'n byw gydag ef y rhan fwyaf o'r amser.
Gofynnir i chi hefyd ddarparu manylion cyswllt y rhiant rydych chi'n byw gydag ef fel arfer (neu'ch partner os ydych chi'n byw gydag ef). Gelwir y rhain yn eich 'noddwyr'.
Ar ôl i chi wneud eich cais, bydd Cyllid Myfyrwyr yn cysylltu â'ch noddwyr ac yn gofyn iddynt am eu manylion cyflogaeth a'u rhif Yswiriant Gwladol, i'w helpu i gyfrifo eich hawl Cyllid Myfyrwyr.
Ni fydd gan bob myfyriwr noddwr e.e. pobl sy'n gadael gofal, myfyrwyr sydd wedi ymbellhau oddi wrth rieni, myfyrwyr sengl dros 25 oed sy'n byw yn annibynnol, neu fyfyrwyr sengl o unrhyw oedran sy’n gwbl gyfrifol am blentyn dibynnol. Ni fydd yr asesiad incwm aelwyd yn ystyried unrhyw incwm o gyflogaeth rydych chi'n ei ennill cyn neu yn ystod eich astudiaethau.
Ydych chi'n bwriadu astudio yn 2027?
Os bydd eich cwrs yn dechrau ar ôl 1 Ionawr 2027 a byddwch yn cael eich ariannu gan Student Finance England, byddwch yn gwneud cais am yr Hawl Dysgu Gydol Oes. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Student Finance Engalnd.