Cyngor Ariannol
Sut y Gallwn Ni Helpu
Yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol, efallai y bydd angen cyngor arnoch ar gyllidebu, rheoli arian neu gyllid myfyrwyr.
Rydym yn cynnig apwyntiadau, gweminarau a sesiynau galw heibio i'ch helpu gyda chyllidebu a rheoli arian a chyllid myfyrwyr.
Gallwn helpu gyda:
- phryderion ariannol
- datrys unrhyw broblemau Cyllid Myfyrwyr
- cyllid brys a chymorth ariannol
- cyllidebu a rheoli arian
- cymorth ychwanegol i’r rhai sy'n gadael gofal a myfyrwyr sydd wedi ymbellhau
- pryderon gwario e.e., gamblo, hapchwarae, dyldeion, ac ati
- goblygiadau ariannu sy’n gysylltiedig ag ailadrodd, atal neu dynnu'n ôl o astudiaethau
Gall myfyrwyr hefyd gael cyngor arbenigol am ddim gan ein darparwyr partner CBC Money Saviour a Chyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro, gan gynnwys cyngor ar ddyledion, budd-daliadau, tai, cyngor defnyddwyr a chyfraith teulu.
Myfyrwyr Newydd a Darpar Fyfyrwyr
Rydym yn deall y bydd gan ddarpar fyfyrwyr a rhieni/gwarcheidwaid gwestiynau yn aml ynghylch pa gyllid sydd ar gael i fyfyrwyr, a sut/pryd i wneud cais.
Gall ein tîm Cyngor Ariannol ateb ymholiadau a darparu cymorth wrth gynllunio cyllideb myfyrwyr. Mae cymorth hefyd ar gael ar gyfer:
- Gwneud cais am Gyllid Myfyrwyr
- Cyllid Bwrsari y GIG a Gwaith Cymdeithasol
- Cyllidebu fy hawl Cyllid Myfyrwyr
- Pobl sy'n gadael gofal a myfyrwyr sydd wedi ymbellhau
Trefnu Apwyntiad
Gall myfyrwyr presennol drefnu apwyntiad a gweld sesiynau galw heibio trwy fewngofnodi i MetHub. Gellir trefu apwyntiadau hefyd yn y parth-g ar gampws Llandaf neu'r Pwynt Gwybodaeth i Fyfyrwyr ar gampws Cyncoed.
Gall darpar fyfyrwyr neu fyfyrwyr sy'n dod i mewn anfon e-bost at y tîm cynghori ariannol yn moneyadvice@cardiffmet.ac.uk i drefnu apwyntiad neu ofyn unrhyw gwestiynau.
Cysylltu â Ni
Gallwch ymweld â’r parth-g ar gampws Llandaf neu'r Pwynt Gwybodaeth i Fyfyrwyr ar gampws Cyncoed, neu gysylltwch â ni drwy:
- E-bost: moneyadvice@cardiffmet.ac.uk
- Ffôn: +44 (0)29 2041 6170