Tynnu’n Ôl a Ffioedd
Tynnu’n Ôl o’ch Astudiaethau
Os ydych chi’n ystyried tynnu’n ôl o’ch astudiaethau mae yna rai pethau y bydd angen i chi eu hystyried. Rydym yn awgrymu eich bod yn archebu apwyntiad gyda Swyddog Cadw Myfyrwyr gan lenwi’r ffurflen hon yn dweud wrthym eich bod yn ystyried gadael eich astudiaethau fel eich bod yn gallu derbyn y cefnogaeth ac arweiniad addas.
Efallai y byddwch yn gorfod talu rywfaint/i gyd o’ch ffioedd dysgu, yn dibynnu pryd gwnaethoch dynnu’n ôl. Bydd y swm hwn hefyd yn dibynnu ar sut y telir eich ffioedd dysgu.
Mae gwybodaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27 isod:
Ar gyfer Myfyrwyr Israddedig (Llawn Amser a Rhan-Amser), Myfyrwyr Ôl-raddedig (Llawn Amser a Rhan-Amser) a Chyrsiau TAR
(Gwybodaeth yn seiliedig ar ddyddiad cychwyn y cwrs Medi 2026)
| Amser tynnu’n ôl | Ffioedd Dysgu a delir yn uniongyrchol trwy Gyllid Myfyrwyr | Ffioedd Dysgu heb eu hariannu trwy Gyllid Myfyrwyr |
|---|---|---|
| Pythefnos cyntaf y tymor – Hyd at 11 Hydref 2026 | Dim tâl | Dim tâl |
| Cyfnod 1 – 12 Hydref 2026 – 10 Ionawr 2027 | 25% | 40% |
| Cyfnod 2 – 11 Ionawr 2027 – 4 Ebrill 2027 | 50% | 70% |
| Cyfnod 3 – Unrhyw bryd o 5 Ebrill 2027 | 100% | 100% |
Os ydych chi’n dechrau’r flwyddyn academaidd ymlaen ar bwynt ‘nad yw’n draddodiadol’ (h.y., Ionawr neu Ebrill) neu’n gwneud ‘cwrs byr’, cysylltwch â’r Tîm Ffioedd Dysgu (manylion isod) i egluro’r cyfnodau.
Ar gyfer Cyrsiau Ymchwil
Bydd rhwymedigaeth ffïoedd yn cael ei gyfrifo ar sail pro-rata, yn dibynnu ar nifer y misoedd yn mynychu.
Gwybodaeth Bellach
Gallwch gysylltu â’n Tîm Ffioedd Dysgu yn tuitionfees@cardiffmet.ac.uk os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ynghylch sut y bydd tynnu’n ôl o’r Brifysgol yn effeithio ar eich taliadau ffioedd dysgu.
Gallwch gysylltu â’n Tîm Cynghori Ariannol yn moneyadvice@cardiffmet.ac.uk neu ar 029 2041 6170 i drafod goblygiadau tynnu’n ôl o’r Brifysgol ar eich cyllid myfyrwyr.
Efallai yr hoffech chi siarad â’n Tîm Llety ar 029 2041 6188 neu ar accomm@cardiffmet.ac.uk i drafod unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â thenantiaeth.
Os ydych chi’n aelod o staff academaidd, gallwch gyfeirio myfyriwr sydd wedi mynegi dymuniad i dynnu’n ôl i’r Tîm Cadw Myfyrwyr yng Ngwasanaethau Myfyrwyr i gael cefnogaeth gan ddefnyddio’r Ffurflen Cyfeirio Cadw Myfyrwyr ar gyfer Staff Academaidd.