Skip to content
Archebwch eich lle yn ein Diwrnod Agored, cofrestrwch nawr

Cyllid Brys

Myfyrywr Cartref

Gall myfyrwyr cofrestredig sy’n byw gartref presennol sy'n cael ei hunain mewn trafferthion ariannol fod yn gymwys i gael cymorth ariannol i'w helpu gyda chostau hanfodol. I gychwyn y broses ymgeisio, bydd angen cwblhau'r ffurflen gais apwyntiad hon. Yna anfonir dolen at eich mewnflwch Met Caerdydd i drefnu apwyntiad gydag aelod o'n tîm cynghori ariannol. Yn ystod yr apwyntiad hwn byddwn yn trafod eich sefyllfa gyda chi ac yn siarad am gymorth ariannol a allai fod ar gael.

Myfyrwyr Rhyngwladol a’r UE

Gall myfyrwyr rhyngwladol a’r UE sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd sy'n cael ei hunain mewn trafferthion ariannol fod yn gymwys i gael cymorth ariannol i helpu gyda chostau hanfodol. Gallwch wneud cais am gymorth ariannol brys os ydych:

  • wedi bod yn ddioddefwr trosedd neu’n ddioddefwr o dwyll (bydd angen i chi ddarparu rhif cyfeirnod trosedd)
  • yn ffoi rhag trais neu gam-drin domestig
  • wedi dioddef trychineb domestig yn y DU fel tân mewn tŷ neu lifogydd

Os oes unrhyw un o'r amgylchiadau hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â ni ar financialsupportfund@cardiffmet.ac.uk i drafod eich sefyllfa ymhellach.

Byddwn hefyd yn cysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Byd-eang i'w gwneud yn ymwybodol o'ch amgylchiadau fel y bod modd iddynt hefyd gynnig rhywfaint o gymorth arbenigol i chi.

Adnoddau Hunangymorth

Mae gennym ystod o adnoddau ac offer i’ch helpu i reoli’ch arian. 

Cysylltu â Ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cymorth ariannol a allai fod ar gael gan y Brifysgol, cysylltwch â ni ar financialsupportfund@cardiffmet.ac.uk.