Croeso i Brifysgol: Dechrau eich taith ym Met Caerdydd
Llongyfarchiadau unwaith eto ar gael lle ym Met Caerdydd – allwn ni ddim aros i gwrdd â chi ym mis Medi.
Yma, byddwch yn darganfod popeth sydd angen i chi ei wybod i'ch rhoi ar ben ffordd.
Y peth cyntaf sydd angen i chi ei wneud yw ymrestru, ac mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein tudalennau ymrestru.
Bydd ymrestru yn eich galluogi i archebu eich Cerdyn Met ac yn gadael i chi ddefnyddio ein mewnrwyd myfyrwyr, MetCanolog, ac ein ap MetCaerdtdd, yn ogsytal ag ystod o gymorth ac adnoddau eraill.
Bydd ein Cwestiynau Cyffredin myfyrwyr newydd yn rhoi gwybodaeth hanfodol i chi am bopeth o sut i ymaelodi â'r gampfa am ddim, i gael meddalwedd am ddim. Fe welwch chi hefyd awgrymiadau ar gyfer teithio o gwmpas Caerdydd, dyddiadau tymhorau a llawer o wybodaeth am ostyngiadau, cymorth i fyfyrwyr a phopeth mae ein Hundeb Myfyrwyr wedi'i gynllunio ar eich cyfer.
Mae'r Wythnos Groeso yn dechrau ar 22 Medi. Bydd angen i chi fod ar gael drwy gydol yr wythnos hon gan y bydd gweithgareddau a sesiynau cwrs yn cael eu cynnal. Cadwch lygad am eich negeseuon e-bost croeso, gan mai dyna sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich amserlen Wythnos Groeso ar gael i chi ei gweld. Bydd y negeseuon e-bost hyn fel arfer yn cael eu hanfon yn gynnar ym mis Medi. Gallwch chi hefyd ddisgwyl i'ch Cyfarwyddwr Rhaglen gysylltu â chi tua'r adeg hon.
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein tudalennau croeso rhyngwladol – o ymrestru i ddyddiadau allweddol ac awgrymiadau ar gyfer teithio yma.
Cliciwch ar y tudalennau Myfyrwyr Ymchwil i gael rhagor o wybodaeth os yw hyn yn berthnasol i chi.
Rydym yn edrych ymlaen yn arw at eich gweld chi ar y campws cyn hir!
Os oes gennych chi gwestiynau rydych chi angen atebion cyn i chi gyrraedd, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau:
- E-bost: holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk
- Ffôn: +44 (0)29 2041 6010
(Dim ond ar ôl i chi gwblhau'r broses ymrestru ar-lein y bydd rhai o'r dolenni yn yr adran hon ar gael i chi)