Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Mae'r ap symudol FyMetCaerdydd yn darparu mynediad cyflym a rhwydd at yr offer a'r gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen arnoch yn ystod eich bywyd yn y Brifysgol. Bydd yn eich galluogi i:

  • Weld eich amserlen bersonol a'ch e-byst yn gyflym
  • Defnyddio Moodle, ein hamgylchedd dysgu rhithwir
  • Dod o hyd i'ch ffordd o gwmpas y campws
  • Dod o hyd i gyfrifiadur rhydd pan fydd angen un arnoch drwy'r ap PC Availability
  • Cofrestru eich presenoldeb mewn darlithoedd a seminarau
  • Trefnu apwyntiadau gyda'ch tiwtor drwy'r Porth Tiwtor Personol
  • Diweddaru eich manylion personol ar eich cofnod myfyriwr
  • Cael gafael ar eich ffurflenni Prawf Ymrestru/Eithriad i'r Dreth Gyngor
  • Gweld eich marciau
  • Gwneud eich trefniadau graddio pan ddaw'r amser
  • Cael rhybuddion a hysbysiadau pwysig

App Store: Lawrlwythwch yr ap "Cardiff Met University" o'r Apple App Store.

Google Play: Lawrlwythwch ap "Cardiff Met University" o'r Google Play Store.

Mae modd personoli FyMetCaerdydd i ddangos dim ond y teils rydych chi am eu gweld ac yn y drefn rydych chi am eu gweld nhw. Pan fyddwch chi wedi ymrestru, byddwch yn gallu gweld ein canllawiau i bersonoli FyMetCaerdydd ar eich dyfais IOS neu Android, yn ogystal â'r Cwestiynau Cyffredin.

I gael help i ddefnyddio'r ap FyMetCaerdydd, ewch i'r adran Help yn yr ap. Os ydych chi'n cael problemau na allwch chi ddod o hyd i'r ateb iddynt, anfonwch e-bost i campusm@cardiffmet.ac.uk