Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Digwyddiadau Neuaddau Preswyl - Beth Sydd Ymlaen?

Mae rhaglen lawn o weithgareddau i fyfyrwyr sy’n symud i mewn i neuaddau preswyl yn ystod penwythnos Symud i Mewn a’r Wythnos Groeso. Bydd darparwr eich neuaddau yn hyrwyddo’r rhain i chi, ond dyma ddetholiad o weithgareddau am ddim sy’n digwydd ym Mhlas Gwyn a Chyncoed a fydd yn cael eu cynnal gan ein tîm Bywyd Preswyl. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am ddod yn Llysgennad Myfyrwyr Bywyd Preswyl.

Mae llawer mwy yn digwydd yng Nghyncoed drwy Undeb y Myfyrwyr – dilynwch Undeb y Myfyrwyr ar Instagram, TikTok a Facebook – @CardiffMetSU, neu ewch i’r wefan i gael gwybod mwy.

Cyncoed: Crynodeb o Weithgareddau Bywyd Preswyl

Pryd?   Ble? Beth? Pethau Am Ddim?
Dydd Gwener 19, dydd Sadwrn 20, a dydd Sul 21 Medi

Sesiwn galw heibio

9.30yb – 5.00yp

Ystafelloedd Cynhadledd, Campws Cyncoed

Cwrdd a Chyfarch

Cwrdd â staff Bywyd Preswyl Met. Cofrestrwch ar gyfer gweithgareddau a phleidleisio dros y math o weithgaredd bywyd preswyl sy’n apelio atoch chi.

Cwblhewch eich grid Bywyd Preswyl a byddwch yn cael eich cynnwys yn ein raffl gwobrau!
Dydd Gwener 19, dydd Sadwrn 20, a dydd Sul 21 Medi

Sesiwn galw heibio

2.00yp – 5.00yp

Centro, Campws Cyncoed

Gwnewch Eich Marc

Cwrdd â’ch Llysgennad Myfyrwyr Bywyd Preswyl. Tynnwch lun o’r hyn y mae byw yn Neuaddau Met Caerdydd yn ei olygu i chi. Bydd y rhain yn cael eu rhoi at ei gilydd i greu un llun mawr, a fydd yn cael ei argraffu ar gofroddion o’ch amser yn Neuaddau Met Caerdydd.

Byddwch yn Grefftus

Gwnewch gardiau i deulu a ffrindiau – y presennol a’r dyfodol.

Byrbrydau a gwobrau am ddim (hwdis Met Caerdydd a mwy!)
Dydd Iau 24 Medi 7.15yh – 8.00yh (yn syth ar ôl Pilates) Stiwdio Campfa, Campws Cyncoed Ioga gyda NamasJay Gellir darparu matiau.

Plas Gwyn:

Pryd?   Ble? Beth? Pethau Am Ddim?
Dydd Gwener 19, dydd Sadwrn 20, a dydd Sul 21 Medi 9.30yb – 7.00yh Pabell Fawr ym Mhlas Gwyn

Cwrdd a Chyfarch

Cwrdd â’ch Llysgennad Myfyrwyr Bywyd Preswyl, a staff Bywyd Preswyl Met. Cofrestrwch ar gyfer gweithgareddau a phleidleisio dros y math o weithgaredd bywyd preswyl sy’n apelio atoch chi.

Cwblhewch eich grid Bywyd Preswyl a byddwch yn cael eich cynnwys yn ein raffl gwobrau!
Dydd Gwener 19 Medi 5.00yp – 7.00yh Pabell Fawr ym Mhlas Gwyn

Gwnewch Eich Marc

Tynnwch lun o’r hyn y mae byw yn Neuaddau Met Caerdydd yn ei olygu i chi. Bydd y rhain yn cael eu rhoi at ei gilydd i greu un llun mawr, a fydd yn cael ei argraffu ar gofroddion o’ch amser yn Neuaddau Met Caerdydd.

Byddwch yn Grefftus

Gwnewch gardiau i deulu a ffrindiau – y presennol a’r dyfodol.

Byrbrydau a gwobrau am ddim (hwdis Met Caerdydd a mwy!)
Dydd Sadwrn 20 Medi 6.00yh – 8.00yh Pabell Fawr ym Mhlas Gwyn

Cerddoriaeth Met

Dewch draw i noson o gerddoriaeth fyw bythgofiadwy gyda’r canwr myfyriwr talentog a gitarydd acwstig, Archie Hares!

Byrbrydau a gwobrau am ddim
Dydd Sul 21 Medi 5.00yp – 7.00yh Pabell Fawr ym Mhlas Gwyn Sgwrs Rheolwr y Neuaddau Bwffe am ddim

Wythnos Groeso:

Pryd?   Ble? Beth? Pethau Am Ddim?
Dydd Llun 22 Medi 6.00yh – 8.00yh Pabell Fawr ym Mhlas Gwyn

Cerddoriaeth Met

Cyfle arall ddod draw i noson o gerddoriaeth fyw bythgofiadwy gyda’r canwr myfyriwr talentog a gitarydd acwstig, Archie Hares!

Byrbrydau a gwobrau am ddim
Dydd Mawrth 23 Medi 5.00yp – 7.00yh Pabell Fawr ym Mhlas Gwyn

Noson Ysgol 1, ac yna Cwis Caerdydd

Cyfle i gwrdd ag eraill ar eich cwrs, yna ymuno â’r gweddill i ennill ein cwis.

Byrbrydau a gwobrau am ddim
Dydd Mercher 24 Medi 4.00yp – 6.00yh Cwrdd wrth y Babell Fawr am 4.00yp

Dydd Mercher Llesiant

Taith gerdded lles i siop goffi, gyda choffi AM DDIM

Coffi/te/siocled poeth am ddim ac ati
Dydd Mercher 24 Medi 6.30yh Pabell Fawr Ioga gyda NamasJay Mae matiau ar gael i’w defnyddio
Dydd Iau 25 Medi 5.00yp – 7.00yh Pabell Fawr

Noson Ysgol 2 a Sesiwn Gymdeithasu’r Met

Cyfle i gwrdd ag eraill ar eich cwrs, yna gwneud eich hoff ddiodydd mocktail.

Mocktails am ddim
Dydd Gwener 26 Medi 11.30yb Pabell Fawr Ioga gyda NamasJay Mae matiau ar gael i’w defnyddio
Dydd Gwener 26 Medi 5.00yp – 7.00yh Pabell Fawr Dydd Gwener Metfflics Ffilm a byrbrydau am ddim, gan gynnwys popcorn

Llysgennad Myfyrwyr Bywyd Preswyl

GOSTYNGIAD O 25% AR GYFER NEUADDAU PLAS GWYN A NEUADDAU CYNCOED!

Rydym yn chwilio am Lysgenhadon Myfyrwyr Bywyd Preswyl i ymuno â’n tîm ar gyfer 2025-2026.

Beth mae Llysgenhadon yn ei wneud:

Cefnogi gweithgareddau Bywyd Preswyl i helpu i greu teimlad o berthyn mewn neuaddau.

Beth fyddwch chi’n ei gael:

25% oddi ar rent llety, hyfforddiant proffesiynol, a phrofiad gwych ar gyfer eich CV.

Oes gennych chi ddiddordeb?

Cliciwch yma i fynegi eich diddordeb (heb unrhyw rwymedigaeth, os byddwch chi’n newid eich meddwl), a byddwn ni’n cysylltu â chi.