Eich Cerdyn Met
Unwaith y bydd eich lle wedi'i gadarnhau a'ch bod wedi cwblhau'r broses ymrestru ar-lein, gallwch lanlwytho ffotograff ar gyfer eich Cerdyn Met.
Gallwch glicio ar y traciwr cofrestru hwn i weld eich statws. Bydd y ‘goleuadau traffig’ cyntaf yn troi’n wyrdd pan fyddwch chi’n barod i gofrestru.
- Ar y sgrin mewngofnodi defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost Myfyriwr i fewngofnodi, e.e., st21234567@outlook.cardiffmet.ac.uk.
- Dim ond pan fydd golau traffig Cam 1 wedi troi’n wyrdd y byddwch chi’n barod i gofrestru.
- Gwnewch yn siŵr bod yr holl gamau wedi’u cwblhau cyn mynd i gasglu eich CerdynMet (rhaid i’r goleuadau traffig fod yn wyrdd).
- Os yw unrhyw un o’r goleuadau traffig yn goch yna cliciwch ar yr eicon ‘i’ am wybodaeth berthnasol am yr hyn sy’n ofynnol i gwblhau’r cam hwnnw.
Gyda’ch cerdyn, gallwch ddefnyddio cyfleusterau pob campws, llety’r neuaddau (os ydych chi'n fyfyriwr preswyl), gwasanaethau Llyfrgell a TG, a chyfleusterau argraffu a chopïo hunanwasanaeth. Bydd angen eich Cerdyn Met arnoch hefyd os ydych chi'n ymuno â champfa'r Brifysgol (sy'n rhad ac am ddim i bob myfyriwr).
Bydd lanlwytho eich ffotograff yn sicrhau bod eich Cerdyn Met yn barod i'w argraffu pan fyddwch chi'n cyrraedd y campws – naill ai yn ein digwyddiad Byddwch yn Barod ar 5 Medi (bydd mwy o wybodaeth yn cael ei hanfon drwy e-bost) neu yn ystod yr Wythnos Groeso.
Os na allwch chi ddod i Byddwch yn Barod ar gyfer Met Caerdydd ond eich bod chi'n byw'n agos at ein campysau yng Nghyncoed neu Landaf ac wedi ymestru a lanlwytho'ch llun, gallwch chi gasglu'ch CerdynMet o lyfrgelloedd y campws o ddydd Llun, 8 Medi yn ystod oriau agor y llyfrgell. Ond os byddai'n well gennych chi aros tan yr Wythnos Groeso, mae hynny'n iawn!