Skip to content
Ymunwch â ni ym mis Medi. Gwneud cais drwy Glirio

Cwestiynau Cyffredin Myfyrwyr Newydd

Bydd amserlenni'r Wythnos Groeso ar gael o 1 Medi 2025 ar adran hon o'r wefan. Byddwn hefyd yn anfon y ddolen atoch yn eich e-byst croeso. Bydd y rhain yn cynnwys manylion eich sesiwn academaidd gyntaf. Bydd eich cyfarwyddwr rhaglen hefyd yn cysylltu â chi ym mis Medi i rannu'r wybodaeth hon, ac unrhyw beth arall y mae angen i chi ei wybod sy'n benodol i'ch cwrs.

Gallwch weld amserlen eich cwrs (ar ôl yr Wythnos Groeso) ar ôl i chi gofrestru ar y dudalen hon.

Gallwch weld dyddiadau'r tymhorau ar y dudalen hon.

Unwaith y bydd eich lle wedi'i gadarnhau a'ch bod wedi cwblhau'r broses ymrestru ar-lein, gallwch lanlwytho ffotograff ar gyfer eich Cerdyn Met. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.

Ar ôl i chi gwblhau'r broses ymrestru ar-lein, bydd eich manylion mewngofnodi defnyddiwr Met Caerdydd yn cael eu hanfon i'ch cyfeiriad e-bost personol. Unwaith y bydd gennych eich cyfrif Met Caerdydd, gallwch ddefnyddio eich e-bost drwy'r ap Outlook y gallwch chi ddod o hyd iddo drwy'r adran Apps ar dudalen hafan Microsoft 365.

GAIR O GYNGOR: Eich enw defnyddiwr Met Caerdydd ar gyfer gwasanaethau Microsoft yw st[eich rhif myfyriwr]@outlook.cardiffmet.ac.uk e.e. st12345678@outlook.cardiffmet.ac.uk – peidiwch ag anghofio'r rhan @outlook.cardiffmet.ac.uk!

Defnyddiwch yr ap geteduroam i gysylltu â'r rhwydwaith eduroam. Mae eich enw defnyddiwr ar gyfer cysylltu ag eduroam ychydig yn wahanol i'ch enw defnyddiwr ar gyfer gwasanaethau Microsoft! Eich enw defnyddiwr yw st[eich rhif myfyriwr]@cardiffmet.ac.uk (dim "outlook" yn yr ôl-ddodiad). Mae manylion llawn ar gael yng nghanllaw wybodaeth Halo: Halo - Connect to Cardiff Met's Wi-Fi - preferred method.

Gallwch ailosod eich cyfrinair drwy'r system Rheoli Cyfrinair.

Moodle yw eich amgylchedd dysgu ar-lein, a fydd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o'ch rhaglen astudio.

Dim ond un o'r systemau a'r meddalwedd pwysig y byddwch chi'n eu defnyddio ym Met Caerdydd yw Moodle. Pan fyddwch chi wedi ymrestru, bydd angen i chi gwblhau'r broses sefydlu Hanfodion Digidol, sy'n cyflwyno systemau a gwasanaethau TG hanfodol eraill ac yn archwilio sut y gallwch eu defnyddio'n ddiogel; gofalwch eich bod yn cwblhau'r broses.

Bydd, bydd angen gliniadur arnoch i gefnogi eich astudiaethau. Does dim angen iddo fod yn un drud. Ar ôl i chi ymrestru, edrychwch ar ein cyngor ar brynu dyfais. Rydym hefyd yn cynnig cynllun benthyca gliniadur am ddim o'r sêffs gliniaduron ar lawr gwaelod y Canolfannau Dysgu ar y ddau gampws. Mae benthyciadau hirach hefyd ar gael am hyd at fis yn ystod y tymor, ar gael o'r Desgiau Cymorth.

Gall pob myfyriwr osod Office (Word, Excel, PowerPoint, Outlook a Teams) am ddim. Pan fyddwch chi wedi ymrestru, gallwch weld y canllawiau Halo i gael gwybodaeth: Halo - Install Microsoft 365 Apps.

Efallai y bydd eich cwrs yn gofyn i chi ddefnyddio meddalwedd arall yn ystod eich astudiaethau, fel Adobe Creative Cloud. Mae'r pecynnau meddalwedd hyn ar gael ar gyfrifiaduron y Canolfannau Dysgu, yn y cnawd ac yn aml o bell drwy Find A PC.

Gallwch hefyd osod llawer o raglennni ar eich dyfais bersonol eich hun. Dydyn ni ddim yn argymell prynu unrhyw feddalwedd eich hun nes i chi weld beth sydd ar gael drwy Met Caerdydd.

Pan fyddwch wedi ymrestru, y ffordd fwyaf cyfleus o gael help yw drwy ddefnyddio Porth Help Halo. Mae Halo yn cynnwys llwyth o erthyglau a all eich helpu chi i ddatrys problem eich hun. Os na allwch chi ddod o hyd i ateb, gallwch sgwrsio ag aelod o staff y ddesg gymorth neu gofnodi tocyn gyda manylion eich problem. Gellir defnyddio Halo i gael help TG nawr, ond cyn bo hir bydd Halo yn gallu helpu gydag ymholiadau eraill Met Caerdydd - fel cwestiynau am ymrestru, llety a'r llyfrgell.

Ar ôl i chi gwblhau'r broses ymrestru, gallwch ddefnyddio eich mewnrwyd myfyrwyr – MetCanolog. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y dudalen MetCanolog hon. Gallwch hefyd ddefnyddio'r ap myfyrwyr CampusM.

Mae llawer o wybodaeth ar ein tudalennau llety ac ar dudalen 'Symud i mewn i'ch Neuadd Breswyl'. Gallwch gysylltu â'n tîm llety drwy e-bostio accomm@cardiffmet.ac.uk neu ffonio 029 2041 6188.

Bydd holl fyfyrwyr Met Caerdydd ar gyfer 2025-26 yn gallu cael aelodaeth Met Actif am ddim, gyda mynediad diderfyn i'r campfeydd yn Llandaf a Chyncoed, ynghyd â'r pwll nofio yng Nghyncoed, am y flwyddyn gyfan.

I gofrestru am ddim, lawrlwythwch yr Ap Chwaraeon Met Caerdydd.

Mae rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i gadw’n heini a defnyddio cyfleusterau chwaraeon yma. Gallwch ddysgu mwy am ymuno â chlwb neu gymdeithas ar wefan Undeb y Myfyrwyr.

Mae yna lawer o lefydd i gael pryd poeth, coffi, byrbryd a'ch hanfodion ar draws ein dau gampws. Mae gwybodaeth am gyfleusterau campws, gan gynnwys ein holl leoliadau arlwyo, ar MetCanolog, y gallwch ei ddefnyddio pan fyddwch chi wedi ymrestru.

Mae siop fach yn Undeb y Myfyrwyr ar gampws Cyncoed sy’n gwerthu hanfodion. Yn ogystal, mae yna siopau o fewn tafliad carreg i bob campws:

  • Cyncoed - Mae gan ganolfan siopa Lakeside Tesco Express, sydd 18 munud ar droed o'r campws.
  • Llandaf – Mae Tesco Extra ar Excelsior Road 7 munud ar droed o'r campws.
  • Plas Gwyn - Mae Co-op Llandaf 10 munud ar droed o'r campws.

Oes. Os ydych chi'n symud i'r ardal, mae'n bwysig cofrestru'n gynnar gyda meddyg teulu lleol fel y gallwch gael cymorth yn gyflym pan fydd ei angen arnoch. Mae cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghaerdydd a'r Fro yn rhwydd. Yn syml, dewch o hyd i feddygfa sy'n agos i’ch cyfeiriad prifysgol a chysylltwch â'r feddygfa i weld a ydyn nhw'n derbyn cleifion newydd.

Bydd cyfle i fyfyrwyr gofrestru gyda Meddyg Teulu yn ystod Ffair y Glas Undeb y Myfyrwyr ar ddydd Mercher, 24 Medi.

NEU

Gallwch ddod o hyd i feddygfa sy'n agos at eich cyfeiriad newydd.

I gofrestru, gallwch naill ai gasglu ffurflen o'r feddygfa ei hun neu gofrestru ar-lein os yw'r cyfleuster hwnnw ar gael. Edrychwch ar wefan y feddygfa i weld a yw hyn yn bosibl.

I gofrestru gyda meddyg teulu, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Eich tref a'ch gwlad enedigol
  • Eich cyfeiriad yn ystod y tymor
  • Cyfeiriad eich meddygfa deulu flaenorol

Efallai yr hoffech chi gofrestru gyda meddyg teulu sy'n siarad Cymraeg, neu feddyg teulu sy'n siarad iaith arall.

Gallwch astudio unrhyw le sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd gan y bydd ChwilioMet yn gadael i chi gael gafael ar e-lyfrau a bydd Moodle yn gadael i chi gael gafael ar gynnwys eich cwrs ar-lein. Mae'r mannau astudio ar y campws yn cynnwys y llyfrgelloedd yng Nghyncoed a Llandaf. Mae gan y llyfrgell staff cyfeillgar sy'n barod i helpu ac ystod eang o gyrsiau hyfforddi, teithiau ac adnoddau. Galwch heibio neu edrychwch ar-lein.

Mae yna hefyd amrywiaeth o opsiynau o ran mannau astudio tawel i fyfyrwyr ar gampysau Cyncoed a Llandaf.

Eich cerdyn adnabod myfyriwr yw eich cerdyn llyfrgell ac allwedd eich drws hefyd. Gallwch gael benthyg 30 o lyfrau (ar y tro) ac adnoddau electronig diderfyn (e-lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data). Mae gan y llyfrgell staff cyfeillgar sy'n barod i helpu ac ystod eang o gyrsiau hyfforddi, teithiau ac adnoddau. Galwch heibio neu edrychwch ar-lein.

Mae rhagor o wybodaeth am gwblhau proses sefydlu'r llyfrgell.

Mae rhagor o wybodaeth am Gymorth i Fyfyrwyr yma.

Gall ein tîm llesiant helpu gyda hyn. Llenwch y ffurflen hon i gychwyn y broses. Mae rhagor o wybodaeth am Gymorth i Fyfyrwyr yma.

Oes. Gallwch gael gwybodaeth am ein Gwasanaeth Llesiant, gan gynnwys sut i drefnu apwyntiad gyda'r tîm, adnoddau hunangymorth ac adnoddau iechyd meddwl eraill am ddim, gan gynnwys swyddogaeth cymorth ar-lein 24/7.

Oes. Os ydych chi'n wynebu anawsterau ariannol, mae gennym Gynghorwyr dynodedig sy’n rhan o’n Tîm Cyngor Ariannol sy'n gallu cynnig cyngor ar gyllid, cyllidebu a rheoli arian, a chymorth ariannol. Gallwch hefyd ddod o hyd i lwyth o gyngor ar ein tudalen Gweithredu ar Gostau Byw ar MetCanolog, sy’n cynnwys cyngor ar ffyrdd o gadw costau i lawr a pha gymorth sydd ar gael, o de a choffi am ddim yn ein ceginau cymudo ac ymaelodi â'r gampfa am ddim i atgyweiriadau am ddim a chyfnewid dillad yn ein diwrnodau cymunedol. Gallwch ddefnyddio MetCanolog ar ôl i chi ymrestru. Cadwch lygad am ein cynigion costau byw mewn lleoliadau arlwyo hefyd.

Mae llawer o wybodaeth am deithio o gwmpas y ddinas ar y dudalen we hon, gan gynnwys gwybodaeth am y cynllun MetWibiwr. Mae’r cynllun hwn yn cynnig teithiau bws am brisiau gostyngedig rhwng campysau a chanol y ddinas yn ystod y tymor.

Mae'r cynllun GwibiwrMet yn cynnig teithio di-derfyn, gyda disgownt sylweddol (7 diwrnod yr wythnos) ar bob gwasanaeth Bws Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys y llwybr penodol GwibiwrMet rhwng Campws Llandaf a Champws Cyncoed. Mae'r pas hwn yn ddilys o 1af Medi 2025 tan 30ain Mehefin 2026, ac mae'n benodol i fyfyrwyr Met Caerdydd, gan roi'r rhyddid i deithio ledled y ddinas a thu hwnt (i Barri a Chasnewydd) am yr holl flwyddyn academaidd.

Rydym yn cynnig nifer gyfyngedig o basiau teithio GwibiwrMet cynnar, gyda'r cost yn dibynnu ar oedran:

  • Myfyrwyr 16-21: £140 pan yn ei ddefnyddio gyda My Travel Pass sy'n eich galluogi i gymhwyso am brisiau bysiau mwy fforddiadwy a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
  • Myfyrwyr dros 22: £240

Gwneud cais am eich pas GwibiwrMet

I gael prisiau trên rhatach, cymerwch daflen cerdyn rheilffordd myfyriwr yn y gorsaf drên, ei llenwi ac, os ydych wedi’ch cofrestru, gallwn ei stampio ar eich cyfer ym mharth-g.

Fel prifysgol gynaliadwy, rydym yn cynghori’n gryf i chi beidio â dod â’ch car i Gaerdydd oni bai ei fod yn hanfodol, er enghraifft, os oes gennych chi anawsterau symud. Mae trwyddedau myfyrwyr yn gyfyngedig iawn felly mae pob cais yn cael ei asesu yn seiliedig ar anghenion ac argaeledd. Os oes gennych Fathodyn Glas, gallwch barcio mewn lle hygyrch, a byddwch yn gymwys i gael trwydded am ddim. Mae ceisiadau myfyrwyr yn agor ar 1 Awst bob blwyddyn, a bydd pob cais a dderbynnir erbyn diwedd mis Awst yn cael ei ystyried a’i ddychwelyd cyn dechrau’r tymor. Cysylltwch â carparkmanagement@cardiffmet.ac.uk am fwy o fanylion.

Mae rhagor o wybodaeth am opsiynau teithio a thrafnidiaeth ar MetCanolog – gallwch ddefnyddio hwn ar ôl i chi ymrestru.

Cofrestrwch gyda thestudio@cardiffmet.ac.uk i ychwanegu mynediad am ddim i'r storfeydd beiciau diogel at eich Cerdyn Met.